Skip to main content

Dathlu Llwyddiannau Staff y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

Awards PR Collage

Mae Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf wedi cynnal ei seremoni wobrwyo flynyddol am y tro cyntaf ers 2019. Cafodd yr achlysur ei gynnal ar 5 Mawrth 2024 yng Nghanolfan Cynon Linc yn Aberdâr. Roedd nifer fawr o bobl wedi dod i'r achlysur, gan gynnwys dros 100 o staff gofal cymdeithasol o ardal Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Roedden nhw'n cynrychioli dros 450 o bobl sydd wedi ennill gwobrau ers y seremoni ddiwethaf er mwyn cydnabod eu gwaith caled a'u hymroddiad mewn perthynas â chwblhau cymwysterau pellach.

Mae'r seremoni wobrwyo flynyddol, a gafodd ei sefydlu yn 2011, yn dathlu staff gofal cymdeithasol, gan gynnwys y sector gwirfoddol a'r sector annibynnol sydd wedi cwblhau amrywiaeth o gymwysterau i gefnogi eu cyflogaeth. Roedd yr achlysur yn cydnabod sawl cymhwyster gwahanol, gan gynnwys gwaith cymdeithasol, rheoli cyflawniad, gweinyddu busnes, graddau sy'n seiliedig ar waith, arweinyddiaeth a rheoli, a chymwysterau hyfforddi a mentora'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Eleni, cafodd y seremoni ei chyflwyno gan Neil Elliott, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Daeth Lisa Curtis-Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Merthyr Tudful i'r achlysur yn ogystal â'r Meiri a'r Aelodau o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol o'r ddau Gyngor, a Lyn Herbert, Prif Weithredwr Canolfan Byw'n Annibynnol Dewis, a oedd yn cynrychioli Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Cwm Taf.

Thema'r seremoni eleni oedd Datblygu Llwyddiant drwy Adfyd, sy'n cydnabod cydnerthedd y bobl hynny sydd wedi ennill eu cymwysterau drwy'r pandemig a'r argyfwng costau byw.

Meddai Neil Elliott, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Roedd yn anrhydedd agor a chau Seremoni Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf 2024. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod ac yn dathlu'r gwaith caled a'r ymroddiad y mae staff gofal cymdeithasol o bob rhan o'r sector yn ei roi i'w datblygiad proffesiynol.

"Mae'r seremonïau gwobrwyo blynyddol yma'n rhoi cyfle i ni weld datblygiad staff gofal cymdeithasol. Roedd nifer ohonyn nhw wedi dechrau drwy astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 ac erbyn hyn maen nhw bellach wedi cyflawni cymwysterau uwch mewn arweinyddiaeth a rheoli. Mae'n galonogol eu gweld nhw'n datblygu yn eu gyrfaoedd.

"Trwy roi cyfle i staff gofal cymdeithasol dderbyn hyfforddiant a chyfleoedd datblygu o safon, rydyn ni'n gwella'r dysgu ac yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau o'r un safon uchel ar gyfer y gymuned.

"Hoffwn i ddiolch yn arbennig i'n siaradwyr gwadd am eu mewnwelediad gwerthfawr mewn perthynas â'u gyrfaoedd llwyddiannus hyd yn hyn, a hynny drwy eu hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus, y gefnogaeth y maen nhw'n eu darparu i'w cydweithwyr a'r ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau o safon i'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi." 

"Hoffwn i hefyd ddweud diolch i Wasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf a staff Cynon Linc yn Aberdâr sydd wedi helpu i sicrhau llwyddiant y seremoni."

Mae'r seremoni wobrwyo flynyddol yn ein galluogi ni i gydnabod ein gweithwyr, yn ogystal â hwyluswyr, addysgwyr a'r garfan ehangach, gan dynnu sylw at y dull cydweithredol sy'n hyrwyddo dysgu a datblygu. Mae Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf a'r bartneriaeth ehangach yn frwd dros ddarparu cyfleoedd addysgol a hyfforddiant o safon i weithwyr, gan ddefnyddio Fframwaith a Dulliau Asesu Cymwysterau Cymru, gan sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaethau o safon i blant, pobl ifainc, ac oedolion ym mhob cyfnod o'u bywydau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Roeddwn i'n falch iawn o allu mynychu Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi ennill cymwysterau pellach.

"Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol gwych wedi cyflawni gymaint yn ystod y pedair blynedd heriol ers y seremoni ddiwethaf yn 2019.

"Hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi cael eu tystysgrifau yn seremoni wobrwyo eleni. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'ch gwaith caled."

I ddysgu rhagor am waith gwych Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf, ewch i: Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf

Mae Cynon Linc yn ganolfan yn y gymuned y mae modd i bobl o bob oed a gallu ei defnyddio. Mae'r ganolfan wedi'i lleoli yng nghanol tref Aberdâr, Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n darparu ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau yn y gymuned, yn ogystal â mannau y mae modd eu llogi. Maen nhw'n cefnogi pobl hŷn sy'n byw yn y gymuned, yn ogystal â'r cyhoedd a sefydliadau'r trydydd sector.

I weld rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: https://www.cynonlinc.org.uk/

Wedi ei bostio ar 27/03/24