Skip to main content

Gwefan Rheoli Perygl Llifogydd newydd y Cyngor bellach yn fyw

Local-Flood-Risk-Management-consultation

Mae'r Cyngor wedi lansio gwefan Rheoli Perygl Llifogydd newydd er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwella dulliau cyfathrebu perygl llifogydd gyda thrigolion, perchnogion busnes a datblygwyr yn Rhondda Cynon Taf.

Bwriad y wefan newydd yw darparu amrywiaeth o wybodaeth, adnoddau, arferion gorau a chymorth perthnasol - a dealltwriaeth well o berygl llifogydd yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf, er mwyn gwrthsefyll effeithiau llifogydd yn well.

Cafodd y wefan ei lansio ddydd Llun 18 Mawrth, ac mae bellach ar gael i drigolion fwrw golwg arni ar wefan y Cyngor, gan ddefnyddio'r ddolen yma.

Cafodd ei hailddatblygu gyda phrofiad y defnyddiwr mewn golwg. Mae'r wefan Rheoli Perygl Llifogydd newydd yn cynnig rhyngwyneb hygyrch sy'n hawdd i'w ddefnyddio, gan sicrhau bod gwybodaeth am lifogydd yn addysgiadol ac yn hawdd i'w deall.

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o lifogydd ac effeithiau hyn, mae tudalen 'Gwybod eich Perygl Llifogydd' wedi'i chynnwys ar y wefan, er mwyn darparu gwybodaeth am y gwahanol fathau o lifogydd ac adnoddau defnyddiol i helpu trigolion i ddeall y perygl yn eu hardal.

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys adran benodol 'Parodrwydd Llifogydd ac Ymwybyddiaeth', lle mae modd i drigolion ddod o hyd i wybodaeth mewn perthynas â diogelu eu heiddo trwy ddefnyddio technegau gwrthsefyll llifogydd. Mae'r adran yma hefyd yn darparu cyngor mewn perthynas ag yswiriant llifogydd, camau y mae modd i drigolion eu cymryd er mwyn diogelu eu hunain a'u heiddo cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. 

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys templedi cynllun llifogydd personol, a gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer rhybuddion tywydd a rhybuddion llifogydd. Mae dolenni i wefannau elusennau ac arbenigwyr perygl llifogydd perthnasol, gan gynnwys y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Blue Pages, wedi'u cynnwys - er mwyn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, gan gynnwys defnyddio mesurau rhagweithiol i ddiogelu eu heiddo a sicrhau eu bod nhw’n gwrthsefyll llifogydd yn well yn y dyfodol.

Mae'r wefan hefyd yn ceisio gwella dealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl - mewn adran benodol o'r enw 'Beth yw Lliniaru Llifogydd?'. Mae hyn yn cynnwys rheoli mathau gwahanol o berygl llifogydd, hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau afonydd, a'r pwerau caniataol sydd ar gael i'r Cyngor o ran helpu i reoli sut mae tir yn draenio, rheoleiddio swyddogaeth gywir cyrsiau dŵr cyffredin, a lliniaru effeithiau llifogydd.

Mae canllawiau manwl am y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy, a sut i wneud cais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin hefyd wedi'u cynnwys - er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth mewn perthynas â llifogydd a draenio i'w gweld ar un wefan ganolog.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:  

"Wrth i’r newid yn yr hinsawdd barhau i gynyddu amlder a difrifoldeb llifogydd, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i reoli perygl llifogydd mewn modd rhagweithiol a gwella cydnerthedd cymunedau. Mae'r wefan newydd sy'n cael ei lansio heddiw yn adnodd allweddol er mwyn darparu cyngor i drigolion mewn perthynas â sawl agwedd ar berygl llifogydd - gan gynnwys paratoi cyn storm a beth i'w wneud os yw llifogydd yn effeithio arnoch chi.

"Mae'r wefan newydd yn ceisio gwella'r modd mae perygl yn cael ei gyfathrebu, sydd wedi'i nodi yn un o nodau'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, ond sydd hefyd wedi’i ymgorffori yn rhan o strategaeth leol y Cyngor. Rwy'n falch bod y wefan bellach yn fyw, a byddwn yn annog trigolion i fwrw golwg ar ei chynnwys, er mwyn dod yn fwy gwybodus ac yn fwy effro i berygl llifogydd a sicrhau eu bod nhw'n gwrthsefyll effaith llifogydd."

Wedi ei bostio ar 18/03/24