Sut i roi gwybod
Mae'r Cyngor yn rheoli tua 750 cilometr o hawliau tramwy cyhoeddus. Helpwch ni i reoli a chynnal a chadw'r rhwydwaith yma ar gyfer y cyhoedd - rhowch wybod am unrhyw broblemau sy’n codi gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod
Lleoliad y broblem
Mae ein ffurflen 'Rhoi gwybod' am broblemau sy’n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus yn rhoi cyfle i chi nodi lleoliad penodol y broblen trwy ddewis yr opsiwn 'Map Ar-lein' ar y ffurflen. Fodd bynnag, os nad oes modd i chi wneud hynny, nodwch gymaint o fanylion â phosibl am y llwybr, tirnodau a’r lleoliad .Erbyn hyn mae modd i chi ddefnyddio What3Words er mwyn rhannu manylion lleoliad penodol wrth roi gwybod am broblem. Defnyddiwch yr ap neu'r wefan er mwyn dod o hyd i’r 3 gair sy'n nodi union leoliad y broblem.
Darparu lluniau
Mae modd lanlwytho nifer o luniau o'r broblem wrth gwblhau ein ffurflen 'rhoi gwybod'. Bwriwch olwg ar ein Canllaw Lluniau i gael rhagor o wybodaeth.
Mae modd rhoi gwybod am broblem â hawl tramwy cyhoeddus trwy lenwi ein ffurflen ar-lein