Skip to main content

Y Broses Safleoedd Ymgeisiol

Beth yw'r Broses Safleoedd Ymgeisiol?

Mae'r broses Safleoedd Ymgeisiol yn rhan sylfaenol o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD). Mae'r broses yn nodi tir i'w ddyrannu yn y CDLl ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys tai, masnach, twristiaeth ac ati. Mae dyrannu safle yn y Cynllun yn golygu bod y safle, mewn egwyddor, yn dderbyniol ar gyfer cael ei ddatblygu at y defnydd hwnnw.

Mae'r broses yn cynnwys Galw cychwynnol i Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol ac yna asesiad amlran cynhwysfawr ohonyn nhw. Mae'r broses hefyd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ar y safleoedd.

Bydd y safleoedd y mae'r Cyngor yn eu hystyried yn briodol ar gyfer dyrannu a datblygu yn cael eu cynnwys yn y CDLlD ar Adnau. Yna, fe fyddan nhw'n cael eu penderfynu gan Arolygydd Cynllunio annibynnol.

Beth yw safle ymgeisiol?

Mae Safle Ymgeisiol yn ddarn o dir neu adeiladau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor i'w hasesu er mwyn cael eu cynnwys yn y CDLlD. Mae modd i unrhyw un gan gynnwys tirfeddianwyr, datblygwyr a'r Cyngor ei hun gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.

Mae modd cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol ar gyfer ystod o ddefnyddiau, neu newid defnyddiau, mae rhai ohonyn nhw wedi'u nodi isod;

  • Tai
  • Cyflogaeth
  • Manwerthu
  • Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • Cyfleusterau Cymunedol
  • Hamdden
  • Twristiaeth
  • Ynni Adnewyddadwy.
  • Seilwaith gwyrdd
  • Bioamrywiaeth
  • Gwastraff
  • Mwynau
  • Iechyd/Addysg/Gofal Cymdeithasol
  • Seilwaith trafnidiaeth

Pam mae angen Safleoedd Ymgeisiol arnon ni?

Mae Safleoedd Ymgeisiol ac yn y pen draw dyraniadau, yn hanfodol i lwyddiant y CDLlD, gan fod dyletswydd ar y Cyngor, trwy'r Cynllun statudol yma, i ddarparu tir ar gyfer ystod o ddefnyddiau gan gynnwys y rhai sydd wedi'u rhestru uchod. Mae Safleoedd Ymgeisiol yn caniatáu i'r Cyngor ddod o hyd i'r tir gorau ar gyfer y defnyddiau hyn.

Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol

Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu Methodoleg i nodi sut y bydd yn ymgymryd â'r Broses Safle Ymgeisiol a'i hintegreiddio i broses baratoi'r CDLlD. Mae'r Fethodoleg Safle Ymgeisiol yn nodi manylion pellach ar Broses Safle Ymgeisiol y CDLl yn gyffredinol, sut a phryd y mae modd cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i'r broses; ac yna manylion ynghylch sut, pryd a chan bwy y bydd y safleoedd yn cael eu hasesu ar hyd 4 cam penodol. Yn rhan o'r Fethodoleg, mae Ffurflen Gyflwyno Safle Ymgeisiol fanwl wedi'i pharatoi gyda Nodiadau Canllaw cysylltiedig. Mae'r dulliau a'r meini prawf ar gyfer asesu'r Safleoedd Ymgeisiol yn ystod y cam Asesu Cychwynnol hefyd wedi'u cynnwys i'r cyhoedd eu hystyried. Cyn cyflwyno Safle Ymgeisiol, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n darllen y Fethodoleg Safle Ymgeisiol yma.

Beth yw'r Galwad i Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol?

Mae'r Galw am Safleoedd Ymgeisiol yn un o gamau ffurfiol cyntaf yn y broses CDCLl. Dyma pryd mae'r Cyngor yn gwahodd tir i gael ei gyflwyno i'r broses. Mae'r Cyngor wedi cynnal dau Alwad am Safleoedd yn ystod 2020/2021 a 2022.  Bydd y Cyngor hefyd yn croesawu cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol bellach and ydym wedi gweld eto, yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth a Ffefrir rhwng 21 Chwefror a 17 Ebrill 2024. I gael arweiniad manwl ar gyflwyno safle, gweler y dudalen 'Galw i Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol', sydd yma.

Carfan Polisi Cynllunio

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Ffon:  01443 281129
Tudalennau Perthnasol