Skip to main content

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Rhondda Cynon Taf 2022-2037

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn baratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ar gyfer y cyfnod 2022 - 2037. Dechreuodd y broses yma ym Mis Ebrill 2022. Budd hyn yn ddisodli’r CDLl presennol (2006 – 2021). Mi fudd y CDLl presennol yn aros mewn rym nes fod y CDLlD yn cael ei fabwysiadu.  Mae Cynllun Datblygu Lleol yn rhoi strategaeth defnydd tir a datblygiad cyffredinol i'r Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â fframwaith polisi a dyraniadau sy'n benodol i safle ar gyfer ystod o fathau datblygu. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol, ochr yn ochr â Chynlluniau a Pholisi Cenedlaethol, yn llywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Adolygiad ffurfiol o'r Cynllun Datblygu Lleol presennol ei ystyried yn angenrheidiol yn 2019. Mae'n bosibl y bydd canlyniadau ac ystyriaethau hyn i'w gweld yn Adroddiad Adolygu CynllunDatblygu Lleol (2006-2011), wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Tachwedd 2019. Prif gasgliad yr Adroddiad Adolygu oedd ei bod hi'n angenrheidiol i ddechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig llawn.

Ym mis Medi 2020, dechreuwyd paratoi Diwygiad o’r CDLl a fyddai wedi bod ar gyfer Cyfnod y Cynllun 2020 - 2030.  Penderfynwyd ym mis Mawrth 2022 i orffen weithio ar y CDLl Diwygiedig hwn.

Ar yr un pryd ym mis Mawrth 2022, penderfynwyd dechrau'r CDLl Diwygiedig newydd hwn ar gyfer Cyfnod y Cynllun 2022 - 2037. Paratowyd  Cytundeb Cyflawni ar gyfer y CDLl Diwygiedig newydd hwn.  

Mae'r Cytundeb Cyflawni hwn yn nodi Amserlen ar gyfer camau paratoi'r CDLl Diwygiedig newydd a'r Cynllun Cyfranogiad y Gymuned sy'n nodi sut y byddwn yn ymgysylltu â phobl yn y broses.  Mae rhagor o wybodaeth am y Cytundeb Cyflawni ar gael yma.

Ar ôl y broses baratoi gynhwysfawr yma, bwriedir y bydd strategaeth ddiwygiedig, cyfres o bolisïau a dyraniadau i ffurfio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig terfynol. Bydd hyn yn cynnwys ystod o feysydd datblygu a mynd i'r afael â materion sy'n benodol i Rondda Cynon Taf. Disgwylir y byddai'r polisïau a dyraniadau safle yma yn gysylltiedig â thai, datblygiadau masnachol a diwydiannol, ochr yn ochr â thwristiaeth, priffyrdd, mwynau a chynigion gwastraff (ymhlith eraill). Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig hefyd yn ceisio amddiffyn asedau wedi'u hadeiladu'n unigryw ac asedau naturiol y Fwrdeistref Sirol, megis ein hadeiladau a strwythurau mwyaf pwysig, tirwedd, ecoleg a'n mannau gwyrdd; mae'r rhain i gyd yn cynnwys ac yn annog ffordd fwy cynaliadwy ac ystyrlon o ran carbon o fyw.

Unwaith iddo gael ei fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn rhoi sicrwydd i gymunedau'r Fwrdeistref Sirol o ran lleoliad a math o ddatblygiadau sydd ar y gweill. Bydd hefyd yn sicrhau bod egwyddorion cynllunio cenedlaethol creu lleoedd wrth wraidd y broses creu cynlluniau, gan adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig hefyd yn dod yn fynegiant defnydd tir Cynllun Corfforaethol Rhondda Cynon Taf a chynnwys egwyddorion ac amcanion Cynllun Llesiant Cwm Taf.

Bydd y dudalen yma yn cael ei diweddaru ymhellach ochr yn ochr â pharatoi camau ffurfiol y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio trwy ddefnyddio'r manylion isod. Byddai'n well pe bai modd i chi gysylltu trwy e-bost:

Mae'r garfan yn gweithio o'r cyfeiriad canlynol, er bod ambell arferion o weithio o adref mewn lle. 

Carfan Polisi Cynllunio

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Ffon:  01443 281129