Skip to main content

Casgliadau Gwastraff Bagiau Du a Biniau ar Olwynion

Defnyddiwch fagiau du neu'ch bin ar olwynion ar gyfer eich gwastraff bob dydd nad oes modd ei ailgylchu na'i gompostio. Caiff y rhain eu casglu bob tair wythnos.

Faint o wastraff mae modd i mi ei roi allan?

Mae cyfyngiad ar nifer y bagiau du maint arferol rydych chi'n cael eu rhoi allan ar gyfer eich casgliad sbwriel bob tair wythnos.

Dim bin ar olwynion

Tri bag sbwriel du (maint arferol)

Bin ar olwynion bach (120 litr)

Mae modd i chi roi eich bin ar olwynion, yn ogystal â bag du main arferol, allan i'w casglu. 

Bin ar olwynion mawr (240 litr)

Dim ond eich bin y mae modd i chi ei roi allan i'w gasglu (RHAID i gaead y bin gau)

Rhowch yr holl wastraff nad oes modd ei ailgylchu yn eich bag du/bin ar olwynion, mae hyn yn cynnwys gwastraff anifeiliaid (ymlusgiaid, cŵn, cathod), bagiau stoma a thiwbiau bwydo. 

Oeddech chi'n gwybod? Ar gyfartaledd, mae modd ailgylchu dros 80% o wastraff eich cartref – ewch i'r tudalennau ailgylchu am ragor o wybodaeth.

Nodwch: Os oes gyda chi 2 fin ar olwynion, bydd hyn yn cael ei ystyried yn wastraff ychwanegol a byddwn ni'n gofyn i chi symud eich ail fin. Os oes angen, mae hawl gyda ni symud yr ail fin. Fyddwn ni ddim yn casglu bagiau du sy'n rhy drwm neu'n rhy fawr.

Beth sy'n digwydd os ydw i'n mynd y tu hwnt i fy lwfans?

Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw fagiau du ychwanegol ac mae'n debygol y bydd Swyddogion Gorfodi'r Cyngor yn ymweld â chi.

Bydd y Cyngor yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 – a fydd y cam olaf – i breswylwyr sy'n gwrthod ailgylchu byth a hefyd neu sy'n anwybyddu cyngor neu rybuddion y Swyddogion Gorfodi.

Mae modd i chi gysylltu â'r Cyngor am gyngor i'ch helpu chi i leihau eich gwastraff bagiau du ac ailgylchu rhagor. Fel arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio isod i ddarganfod pa fin neu fag y mae eich gwastraff gwahanol chi'n mynd ynddo.

Pa gymorth sydd ar gael os does dim modd i mi gadw at y cyfyngiad bagiau du/bin ar olwynion?

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio dim ond hyn a hyn o fagiau du oherwydd amgylchiadau personol, mae modd i chi ofyn am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

Ble mae'r gwastraff yn mynd?

Ar hyn o bryd, mae popeth rydych chi'n eu rhoi yn y bin  yn mynd i Viridor, Parc Trident, Cyfleuster adfer ynni Caerdydd. 

Beth mae modd imi ei ailgylchu a ble?

Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.

Tudalennau Perthnasol