Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor mewn perthynas â Derbyn Disgyblion Cyn-feithrin

Sut mae gwneud cais

Mae'r lleoedd yma'n cael eu darparu ar sail y nifer sydd ar gael, a does dim ffordd o warantu lle mewn unrhyw ysgol. Unwaith ei bod y lleoedd meithrin yn llawn, chaiff dim rhagor o blant o oed cyn-feithrin eu derbyn.

Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le cyn-feithrin.

  1. Ewch i https://schooladmissions.rhondda-cynon-taff.gov.uk/
  2. Ymgofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost dilys.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i'w gweld ar-lein.

Os nad oes cyfrifiadur gyda chi, cewch ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim yn un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Neu, cewch lenwi ffurflen gais bapur drwy gysylltu â'r garfan Materion Derbyn Disgyblion ar 01443 281111.

Edrychwch hefyd ar y 'canllawiau ar gyfer ffurflenni derbyn disgyblion'.

Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.

Mae gan bob plentyn hawl i le addysg feithrin ran-amser am ddim, gan ddechrau o’r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed. Mae modd cael y manylion yma ar dudalen 46 o'n Llyfryn Dechrau'r Ysgol neu fel arall, ffoniwch ein gwifren Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am ddim ar 0800 180 4151 (neu 0300 ar gyfer ffonau symudol) 111 4151 am ragor o fanylion. Mae modd i rieni wneud cais am le cyn-feithrin yma: https://schooladmissions.rhondda-cynon-taff.gov.uk/

Fyddwn ni ddim yn ariannu darpariaeth sydd ddim yn rhan o awdurdod lleol y tu allan i'r fwrdeistref sirol. Mae dyddiadau ariannu darpariaeth sydd ddim yn dod o dan yr awdurdod lleol yn gyson â dyddiadau derbyn i ysgolion.

Darparwyr addysg sy'n cael eu harolygu gan Estyn i ddarparu addysg cyn-feithrin yw darparwyr addysg nas cynhelir (Darparwyr Addysg Cofrestredig).

Bydd llefydd cyn-feithrin a meithrin ddim ond ar gael yn y lle cyntaf i rieni/warcheidwaid sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ac sy'n talu Treth y Cyngor i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.  Bydd cyfleoedd i'r rheiny sy'n byw y tu allan i Rondda Cynon Taf wneud cais am lefydd cyn-feithrin a meithrin ond bydd hyn yn ddibynnol ar ba lefydd sydd ar gael.

Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais

Efallai bydd y dyddiadau isod yn newid o bryd i'w gilydd.

Cohort Derbyn

Oedran Disgyblion

Dosbarthu ffurflenni o

Anfon ffurflenni yn ôl erbyn

 

Anfon llythyron nodi penderfyniad

Derbyn

Cyn-feithrin o fis Ionawr 2024

ymlaen

3ydd pen-blwydd yn cwympo rhwng:

1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023

1 Medi 2023

29 Medi 2023

10 Tachwedd 2023

Derbyn Cyn-feithrin o fis Ebrill 20234ymlaen

3ydd pen-blwydd yn cwympo rhwng:

1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024

1 Ionawr 2024

9 Chwefror 2024

15 Mawrth 2024

 

Nodwch – fydd dim modd derbyn plant cyn-feithrin i unrhyw ysgol ar ôl y dydd Gwener sy'n dilyn gwyliau hanner tymor mis Mai.

Gwybodaeth Bwysig

Dydy'r ffaith bod eich plentyn wedi cael ei dderbyn i ddosbarth Cyn-feithrin mewn ysgol ddim yn gwarantu bod eich plentyn yn cael aros yn yr ysgol honno. Er bydd pob ymdrech i dderbyn y disgyblion yma, bydd raid cyflwyno cais ffurfiol am gael trosglwyddo i ddosbarth Meithrin o'r ddarpariaeth Cyn-feithrin. O bryd i’w gilydd, efallai bydd sefyllfaoedd yn codi pan fydd hi ddim yn bosibl trosglwyddo disgyblion oherwydd bo