Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Chwaraeon Abercynon

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan).

Abercynon Sports Centre Timetable
DiwrnodAmseroedd
Dydd llun 6.30am-9pm
Dydd mawrth 6.30am-9pm
Dydd mercher 6.30am-9pm
Dydd iau 6.30am-9pm
Dydd gwener 6.30am-9pm
Ddydd sadwrn 7:30am - 1pm
Dydd sul 7:30am - 1pm

MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU

  • Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
  • Offer codi ar gyfer mynediad i'r pwll.

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Mae ystafelloedd newid i ddynion a merched â chiwbiclau preifat ar gael.
  • Lle yn fwy ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn sydd yn dymuno newid a chael cawod.
  • Cyfleusterau cawod.
  • Cyfleusterau newid cewynnau.
  • Sychwyr gwallt.
  • Loceri.

POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL

Rhaid i blant  sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:

  • 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
  • Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll  heb gwmni.

Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.

DYFNDER Y PWLL A THYMHEREDD Y DŴR

  • 1-2 metr o ddyfnder.
  • Tymheredd y dŵr yw 28-30 gradd celsius.

CWRTEISI YSTAFELL NEWID

Rhaid i blant 8 oed neu’n hŷn ddefnyddio'r ystafell newid sy'n briodol i'w rhyw.

Rhaid i holl blant 7 oed neu'n iau fod gydag oedolyn mewn ystafelloedd newid, pa bynnag rhyw'r plentyn, am resymau iechyd a diogelwch. Rydyn ni'n gofyn i blant a'u gwarchodwyr ddefnyddio ciwbicl newid pan fo'n bosibl.

Byddwch yn gynnil wrth newid os oes plant yna.

CYFLEUSTERAU CYFARFOD

Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.