Skip to main content

Gwybodaeth gyffredinol am Bwll Nofio Bronwydd.

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan).

Browydd Timetable
Diwrnod Amseroedd
DYDD LLUN 6am-9pm
DYDD MAWRTH

6am - 9pm

DYDD MERCHER 6am - 8pm
DYDD IAU 6am - 9pm
DYDD GWENER 6am - 7pm
DYDD SADWRN 8am - 3pm
DYDD SUL 8am - 2pm

MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU

  • Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.

  • Peiriant codi ar gyfer defnyddio'r pwll

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle ar bob adeg.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.

  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Ystafelloedd newid i ddynion, menywod a theuluoedd gyda rhai ciwbiclau.

  • Ystafell newid i bobl anabl, a chawod a chadair.

  • Cawod ar gyfer defnydd cyffredinol

  • Cyfleusterau newid cewynnau

  • Sychwyr gwallt.

POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL

 

Rhaid i blant sydd dan  8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:

1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.

1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.

Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll  heb gwmni.

Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.

 

LLUNIAETH

Mae peiriannau gwerthu ar gael ar gyfer prynu byrbryd neu ddiod – beth am fanteisio ar y golygfeydd dros y parc o'r teras ochr y pwll?