Skip to main content

Aelodaeth – Plant / Gostyngiadau

Mae'n dda gyda ni gynnig ein haelodaeth Hamdden am Oes am brisiau gostyngol i blant (dan 18 oed) a phobl hŷn (dros 60 oed) ynghyd â'r rheiny sy'n hawlio rhai budd-daliadau penodol. Mae'r prisiau gostyngol yma'n gystadleuol iawn, ac maen nhw'n hafal i'r un aelodaeth, ond gyda phrisiau gostyngol i adlewyrchu amgylchiadau personol.

Cofiwch, bydd disgwyl ichi gyflwyno'r dogfennau a thystiolaeth briodol i fod yn gymwys am aelodaeth Hamdden am Oes rhatach. Fydd dim modd ymuno ar-lein, ond mae modd  galw heibio i'ch Canolfan Hamdden leol, lle bydd staff ar gael i roi cymorth i chi.

YDYCH CHI'N DOD O DAN UN O'R CATEGORЇAU YMA?

  • Rydw i o dan 18 oed
  • Rydw i dros 60 oed
  • Rydw i'n fyfyriwr
  • Cynhaliwr/Gofalwr Gwirfoddol Cofrestredig
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau / Y Fargen Newydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Anabledd Difrifol / Lwfans Gofalwr / Lwfans Byw i'r Anabl Yr Elfen Gofal / Lwfans Gweini / Budd-dal Analluogrwydd / Lwfans Analluedd i Gynhalwyr / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth / Taliadau Annibyniaeth Bersonol
  • Credyd Treth Gwaith – gyda thystysgrif eithrio meddygol
  • Credyd Cynhwysol

Ymaelodwch heddiw, a dechrau arbed arian!

£240
Aelodaeth Flynyddol
Talwch yn flynyddol ac arbed arian
£24
Debyd uniongyrchol misol
Aelodaeth cyfnod penodol (ymrwymedig) 12 mis
£26.65
Debyd uniongyrchol misol
Aelodaeth anymrwymedig
£31
Talu wrth fynd misol
Aelodaeth anymrwymedig
£7.40
Tocyn diwrnod
Mynediad un diwrnod i holl weithgareddau Hamdden am
Oes neu brynu eich tocyn diwrnod o'ch canolfan hamdden leol
Arbed hyd at 20%
Cynllun ffrindiau a theulu
Cyfunwch hyd at bedair aelodaeth, a mwynhau mynediad rhatach i bob gweithgaredd Hamdden am Oes.

Mae'r enghreifftiau isod yn dangos y math o arbedion gwych y mae modd i chi eu cael trwy ymuno â'n cynllun aelodaeth cyfnod penodol (ymrwymedig).





* Cost aelodaeth flynyddol yw £235.00, sy'n cyfateb i £19.60 y mis.
* Mae'r prisiau’n seiliedig ar strwythur 52 wythnos.
Ffigurau 'Talu Wrth Fynd' wedi'u seilio ar: Dosbarthiadau: £3.60, Ystafell Ffitrwydd: £3.60, Nofio: £2.15.
*Mae sesiynau sefydlu Ystafell Ffitrwydd yn rhad ac am ddim yn rhan o gynllun aelodaeth ymrwymedig Hamdden am Oes.

Buddion aelodaeth

  • Mynediad unigryw i archebu ar-lein, yn fodd i chi gadw lle yn eich hoff ddosbarth hyd at saith niwrnod ymlaen llaw.
  • Cyfle i fwynhau mynediad di-ben-draw i gampfeydd modern, sesiwn sefydlu yn rhad ac am ddim, a chymorth ymroddedig gan hyfforddwyr arbenigol mor aml ag y dymunwch.
  • Cymerwch ran yn ein hamrediad gwych o ddosbarthiadau, gan gynnwys Erobeg Dŵr, Zumba, Insanity, Octane a Synrgy. Mwynhewch gynifer o ddosbarthiadau ag y dewiswch ym mhob canolfan.
  • Dewch i ailgydio yn y campau gyda'n cyfleusterau chwaraeon dan do, a chwarae gyda mynediad di-ben-draw i weithgareddau megis sboncen a badminton.
  • Plymiwch i'n hamrywiaeth ardderchog o byllau nofio, a nofiwch mor aml ag y dymunwch.
  • Cyfunwch hyd at bedair aelodaeth unigol am arbediad pellach o hyd at 20%.
  • Cyfraddau consesiynol ar gyfer aelodau iau (dan 18 oed) a hŷn (dros 60 oed) a'r rheiny sy'n cael budd-daliadau cymwys.

Mynediad AM DDIM i aelodau o'r Lluoedd Arfog.

Telerau ac amodau / Cwestiynau cyffredin