Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae Aelodaeth Hamdden am Oes yn gweithio?

Mae Hamdden am Oes yn cynnig yr un lefel o fynediad di-ben-draw i weithgareddau hamdden i bob aelod ym mhob un o Ganolfannau Hamdden a phyllau nofio'r Cyngor.

Mae hyn yn golygu:

  • Dosbarthiadau
  • Pyllau Nofio
  • Campfeydd (gan gynnwys sesiwn sefydlu a chymorth hyfforddwr)
  • Chwaraeon dan do (chwaraewch gynifer o gemau badminton neu sboncen ag y dymunwch chi)
  • Ystafelloedd iechyd (cewch chi ddefnyddio'r rhain mor aml ag y dymunwch chi - mae cyfyngiadau oedran ar waith)

Mae'ch lefel mynediad yn safonol - y cyfan sydd rhaid i chi'i wneud yw dewis sut y byddwch chi'n talu!

Beth yw opsiynau talu'r cynllun Hamdden am Oes?

AelodaethPRIS (oedolyn sy'n talu'n llawn)Consesiwn: (Plant neu bobl hŷn / derbyn budd-daliadau cymwys / cynhaliwr Cyngor RhCT)Aelod o'r Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd
Talu ymlaen llaw £370 £230 AM DDIM
Aelodaeth ymrwymedig am 12 mis (talu drwy ddebyd uniongyrchol) £38 £23 AM DDIM
Aelodaeth fisol heb ymrwymiad (talu drwy ddebyd uniongyrchol) £41.40 £25.65 AM DDIM
Aelodaeth fisol heb ymrwymiad (talu ag arian parod) £48.65 £30 AM DDIM

Ymaelodi fel teulu neu gyda ffrindiau

Mae modd i chi arbed arian wrth ymuno â Hamdden am Oes fel teulu neu gyda ffrindiau.

Mae hyn yn golygu bod modd cyfuno hyd at bedair aelodaeth (debyd uniongyrchol), talu o un cyfrif banc ac arbed hyd at 20% oddi ar y cyfanswm.

Dyma'r arbedion:

  • Pedwar aelod – 20%
  • Tri aelod – 15%
  • Dau aelod – 10%

Does dim rhaid i chi ddewis yr un opsiwn â'ch gilydd. Gall un ohonoch chi fod ag aelodaeth Hamdden am Oes ymrwymedig, tra bod rhywun arall yn derbyn consesiwn. Y cwbl sydd rhaid i chi'i wneud yw dod aton ni gyda'ch  dewisiadau talu, ac fe fyddwn ni'n adio'r costau misol, ac yna'n tynnu'r gostyngiad o'r cyfanswm.

Er mwyn bod yn rhan o'r cynllun yma, bydd rhaid i chi gyfuno o leiaf dwy aelodaeth o blith eich teulu neu'ch ffrindiau.

Rhaid i'r taliad cyfan (ar ôl tynnu'r gostyngiad) gael ei dalu trwy ddebyd uniongyrchol a dod allan o un cyfrif banc.

Dydy fy Nghanolfan Hamdden leol ddim yn cynnig y dosbarth rydw i'n dymuno cymryd rhan ynddo.

Fe gewch chi ddefnyddio'ch Aelodaeth Hamdden am Oes ym mhob un o'r canolfannau hamdden - bwriad Hamdden am Oes yw arddangos yr holl gyfleoedd hamdden sydd ar gael. Mae hyn yn golygu bod modd i chi fynd i unrhyw ddosbarth o'ch dewis mewn unrhyw ganolfan hamdden.

Yn rhan o'r broses barhaus o adolygu gwasanaethau hamdden, ac er mwyn denu rhagor o ddefnydd a fydd yn osgoi gwneud penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol y cyfleusterau, rydyn ni wedi edrych ar amserau agor ac amserlenni i sicrhau bod canolfan ar agor bob amser, a bod amrywiaeth dda o gyfleoedd hamdden ar gael yn ystod y bore, y prynhawn a'r hwyr.

Dydw i ddim eisiau ymrwymo i aelodaeth blwyddyn.

Mae hynny'n iawn. Pe byddai'n well gyda chi beidio ag ymrwymo i aelodaeth blwyddyn, manteisiwch ar yr opsiwn misol hyblyg, neu beth am ymweld â'ch canolfan hamdden leol a rhoi cynnig ar docyn diwrnod?

Am ragor o fanylion, ffoniwch ni ar 01443 562202 neu e-bostio carfan Hamdden am Oes.