Skip to main content

Aelodaeth Safonol

Ar gael i bawb. Does dim tâl ymaelodi. Ewch i unrhyw ganolfan hamdden mor aml ag y dymunwch.

Croeso i aelodaeth Hamdden am Oes, sy'n cynnig mynediad cynhwysol i'r gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau, a chwaraeon dan do ym  MHOB canolfan hamdden y Cyngor. Does dim un awdurdod lleol arall yn y rhanbarth yn cynnig mynediad mor gynhwysfawr at hamdden am un taliad misol.

Un pris dalwch chi - mae'r gostyngiadau yn dibynnu ar sut y byddwch chi'n dewis talu.

Ymaelodwch heddiw, a dechrau arbed arian!

£380*
Aelodaeth flynyddol
Talwch yn flynyddol ac arbed!
£38
Aelodaeth ymrwymedig (debyd uniongyrchol)
Aelodaeth ymrwymedig am 12 mis 
(talu drwy ddebyd uniongyrchol).
£42.40
Aelodaeth (talu drwy ddebyd uniongyrchol)
Aelodaeth dim ymrwymiad
talu drwy ddebyd uniongyrchol
£49.65
Aelodaeth fesul mis
Aelodaeth dim ymrwymiad
talu ag arian parod.
£11.65
Tocyn diwrnod
Mynediad i bob gweithgaredd Hamdden am Oes am ddiwrnod.
Fel arall, cewch chi brynu'r tocyn diwrnod mewn unrhyw ganolfan hamdden
Arbed hyd at 20%
Cynllun ffrindiau a theulu
Cyfunwch hyd at bedair aelodaeth, a mwynhau mynediad rhatach i bob gweithgaredd Hamdden am Oes.

Mae'r enghreifftiau isod yn dangos y math o arbedion gwych y mae modd i chi'u cael trwy ymuno â'n cynllun aelodaeth cyfnod penodol (ymrwymedig).





* Cost aelodaeth flynyddol yw £380, sy'n cyfateb i £32 y mis.
* Mae'r prisiau’n seiliedig ar strwythur 52 wythnos.
. *Mae sesiynau sefydlu yn yr Ystafell Ffitrwydd yn rhad ac am ddim yn rhan o gynllun aelodaeth ymrwymedig Hamdden am Oes.

Buddion aelodaeth

  • Mynediad unigryw i archebu ar-lein, yn fodd i chi gadw lle yn eich hoff ddosbarth hyd at saith niwrnod ymlaen llaw.
  • Cyfle i fwynhau mynediad di-ben-draw i gampfeydd modern, sesiwn sefydlu yn rhad ac am ddim, a chymorth ymroddedig gan hyfforddwyr arbenigol mor aml ag y dymunwch.
  • Cymerwch ran yn ein hamrediad gwych o ddosbarthiadau, gan gynnwys Erobeg Dŵr, Zumba, Insanity, Octane a Synrgy. Mwynhewch gynifer o ddosbarthiadau ag y dewiswch ym mhob canolfan.
  • Dewch i ailgydio yn y campau gyda'n cyfleusterau chwaraeon dan do, a chwarae gyda mynediad di-ben-draw i weithgareddau megis sboncen a badminton.
  • Plymiwch i'n hamrywiaeth ardderchog o byllau nofio, a nofiwch mor aml ag y dymunwch.
  • Cyfunwch hyd at bedair aelodaeth unigol am arbediad pellach o hyd at 20%.
  • Cyfraddau consesiynol ar gyfer aelodau iau (dan 18 oed) a hŷn (dros 60 oed) a'r rheiny sy'n cael budd-daliadau cymwys.

Telerau ac amodau / Cwestiynau cyffredin