Skip to main content

Trethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2024-25

Mae’r rhyddhad/gostyngiad yma wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i ddarparu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys ar gyfer 2024-25 .  Nod y cynllun yw darparu cymorth ar gyfer eiddo a feddiannir cymwys drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd y rhyddhad yn amodol ar gap yn y swm mae modd i fusnesau ledled Cymru ei hawlio. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes. Mae’n ofynnol i bob busnes ledled Cymru wneud datganiad bod swm y rhyddhad y mae yn ei geisio ddim yn fwy na’r cap yma, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Pa eiddo fydd yn elwa o'r rhyddhad?

Bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch a feddiannir – megis siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai ledled Cymru'n elwa o'r rhyddhad yma.  Gweld meini prawf cymhwysedd manwl ac eithriadau i'r rhyddhad 

Gwneud cais am y rhyddhad

Mae modd i chi wneud cais am ryddhad ardrethi adwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen isod:

Bydd rhyddhad yn cael ei roi i bob busnes cymwys ar ffurf gostyngiad i'w bil ardrethi annomestig yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.  Cydnabyddir ei bod hi'n bosibl bydd rhai achosion pan fydd awdurdod lleol yn cael ei hysbysu am newid meddiannydd ar ôl i hynny ddigwydd.  Mewn achosion o’r fath, os yw’n amlwg bod y busnes wedi’i feddiannu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, mae modd i'r awdurdod lleol ddefnyddio ei ddisgresiwn wrth gymhwyso gostyngiad.