Yr enw cyffredin ar gerbyd hacni yw ‘tacsi’.
Mae angen y drwydded yma ar gyfer unrhyw gerbyd llogi â gyrrwr, sydd ag wyth neu lai o seddi ar gyfer teithwyr, a fydd yn cael ei fflagio ar y stryd neu'i logi wrth safle tacsis. Pan fydd trwydded wedi'i roi, bydd y cerbyd dan sylw yn dacsi drwy'r amser nes bydd y drwydded yn dod i ben. Mae gan y cerbydau hyn arwydd ar eu to ac mae rhaid iddyn nhw arddangos plât melyn ar y tu cefn, plât llai ar y tu mewn, a sticeri drws melyn crwn ar y ddau ddrws blaen. Bydd decalau ar ddrŵs a phlatiau'r car yn nodi rhif trwydded Cerbyd Hacni.
Manylion y drwydded
Mae rhaid i yrwyr cerbydau hacni gael eu trwyddedu gan Awdurdod Trwyddedu Rhondda Cynon Taf. Mae rhaid iddyn nhw hefyd wisgo bathodyn adnabod, wedi'i roi gan yr Awdurdod Trwyddedu, sy'n cynnwys llun y gyrrwr.
Manylion y Cerbyd
Math o gerbyd | Math o drwydded | Oedran isaf y cerbyd | Oedran uchaf y cerbyd |
Cerbydau sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn (gan gynnwys cerbydau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol neu gerbydau wedi'u haddasu ag ôl-lifft neu heb ôl-lifft)
|
Cerbyd hacni / Cerbyd hurio preifat
|
Llai na 7 oed (o'r dyddiad cofrestru cyntaf)
(oedran gweinyddol)
|
12 oed (ar yr amod bod pob trwydded ddilynol yn dod i rym ar unwaith pan ddaw'r drwydded flaenorol i ben)
|
Cerbydau sydd ddim yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn
|
Cerbyd hacni / Cerbyd hurio preifat
|
Llai na 3 oed (o'r dyddiad cofrestru cyntaf)
(oedran gweinyddol)
|
10 oed (ar yr amod bod pob trwydded ddilynol yn dod i rym ar unwaith pan ddaw'r drwydded flaenorol i ben)
|
Cyn prynu cerbyd neu gyflwyno cerbyd i'r Awdurdod Trwyddedu, dylai deiliaid trwydded, neu ddarpar ddeiliaid trwydded, ystyried y Safonau Technegol ar gyfer Cerbydau a ddaeth i rym ar 1 Medi 2014. Mae'r ddogfen berthnasol i'w gweld isod.
Mae rhaid i gerbydau hacni (tacsis) fod yn ddu eu lliw. Mae rhaid i gerbydau hurio preifat fod yn wyn eu lliw.
Cyn trwyddedu cerbyd, mae rhaid iddo basio prawf/archwiliad yng nghanolfan brofi'r Awdurdod a chael Tystysgrif Brawf MOT (lle bo'n briodol) i sicrhau ei ddiogelwch. Mae rhaid bod y cerbyd hefyd wedi'i yswirio'n addas ac yn ddigonol ar gyfer cludo teithwyr a nwyddau am dâl neu wobr, er mwyn sicrhau safonau uchel o ran diogelwch.
Sut mae gwneudcais:
Cyn i chi brynu cerbyd, mae modd i chi gael cyngor gan Swyddogion Trwyddedu ynglŷn â pha gerbydau sy'n debygol o gael eu derbyn i'r cerbydau trwyddedig.
Gwneud profion ar gerbydau
Dewch 10-15 munud cyn amser eich apwyntiad fel bod modd i'r car gael ei ddihentio cyn iddo gael ei archwilio. Mae hawl gyda'r garej wrthod cynnal yr archwiliad os fydd y cerbyd ddim yn cael ei gyflwyno ar yr amser penodedig. Rhaid i fanylion y cerbyd fod yn gywir ar eich cais.
I wneud cais am drwydded Cerbyd Hacni, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein isod:
Bydd angen hefyd bod gennych chi:
- Dogfen lòg/cofrestru y cerbyd (dogfen V5).
- Tystysgrif yswiriant gyfredol neu nodyn yswiriant cyfredol o ran defnyddio'r cerbyd ar gyfer “hurio cyhoeddus a/neu breifat” gennych chi a/neu gan eich gyrwyr.
- Tystysgrif Brawf MOT (os yw'n berthnasol).
- Y ffi briodol (gweler isod)
Tariff
Tabl prisiau arfaethedig 2022 - gweker isod: Tariff sy'n berthnasol i Gerbydau Hacni - mae rhaid arddangos rhestr brisiau o fewn y Cerbyd Hacni.
Sylwch fod y Tariff Cerbyd Hacni newydd yn dod i rym am 00:01am ar 31 Awst 2022. Mae copi o'r tabl prsiau newydd ar gael ar waelod y dudalen er gwybodaeth
Tariff | Pris | 1–4 o deithwyr | 5–8 o deithwyr |
Tariff 1
|
£4.00 (hyd at 1 filltir) – 10c am bob 1/18 milltir
|
Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7am–7pm
|
Ddim yn Berthnasol
|
Tariff 2
|
£4.50 (hyd at 1 filltir) – 10c am bob 1/20 milltir
|
Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7pm–7am
|
Ddim yn Berthnasol
|
Tariff 3
|
£5.00 (hyd at 1 filltir) – 10c am bob 1/20 milltir
|
Ddim yn Berthnasol
|
Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7am–7pm
|
Tariff 4
|
£5.40 (hyd at 1 filltir) – 20c am bob 1/20 milltir
|
Ddim yn Berthnasol
|
Prisiau'n berthnasol yn ystod yr oriau 7pm–7am
|
5
|
Amgylchiadau codi tâl ychwanegol
|
Tariff sy'n berthnasol / yn daladwy ar gyfer 1–4 o deithwyr
|
Tariff sy'n berthnasol / yn daladwy ar gyfer 5–8 o deithwyr
|
Dydd Nadolig / Dydd Calan
|
Dwbl tariff 1 (Tariff 5)
|
Dwbl tariff 3 (Tariff 6)
|
Dydd Sul, Gwyliau Banc, ac o hanner dydd Noswyl Nadolig a Nos Galan
|
Tariff 2
|
Tariff 4
|
Baeddu cerbyd
|
£55
|
£55
|
Amser aros
|
£15.00 yr awr
|
£15.00 yr awr
|
Carfan Trwyddedu
Tŷ Elái,
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301