Mae'r Cyngor yn gweithredu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Yn rhan o ddyletswyddau'r Cyngor o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau, mae'n bosibl y bydd gofyn iddo ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud â'r broses gaffael neu'r cytundeb, ar gais rhesymol unrhyw un.
Os yw cynigiwr (tenderer) o'r farn bod unrhyw wybodaeth yn ei dendr yn sensitif yn fasnachol (hynny yw, mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth yn rhagfarnu sefydliad os caiff ei datgelu i unigolion a chyrff trydydd parti), dylid nodi'n glir arni na ddylid ei datgelu i unigolion a chyrff trydydd parti, ynghyd â rhesymau teilwng i gefnogi hyn o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau.
Bydd y Cyngor yn gwneud ei orau i ymgynghori â chynigwyr ac ystyried unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau cyn rhoi gwybodaeth i unigolion a chyrff trydydd parti o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau. Serch hynny, mae hawl gyda'r Cyngor i benderfynu a yw unrhyw wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf a/neu'r Rheoliadau, neu benderfynu a fydd yn cael ei datgelu o ganlyniad i gais am wybodaeth. Rhaid i'r Cyngor benderfynu datgelu gwybodaeth (ai peidio) yn unol â darpariaethau'r Ddeddf neu'r Rheoliadau. Chaiff dim ond celu gwybodaeth os yw'r Ddeddf neu'r Rheoliadau yn caniatáu hynny.
Fydd y Cyngor ddim yn atebol am unrhyw golled neu ragfarn a achosir o ganlyniad i ddatgelu gwybodaeth;
- does neb wedi nodi arni na ddylid ei datgelu i unigolion a chyrff trydydd parti, ynghyd â rhesymau i gefnogi hyn (gan gyfeirio at y categori eithrio perthnasol o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau lle bo'n bosibl); neu
- ddim mewn categori gwybodaeth sydd wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf neu'r Rheoliadau (er enghraifft, oherwydd cyfrinach fasnach neu oherwydd y mae'n debygol o ragfarnu buddion masnachol unrhyw unigolyn); a
- mewn achosion lle nad oes dyletswydd statudol i gelu gwybodaeth ac os bydd datgelu gwybodaeth o'r fath er lles y cyhoedd.
Rhyddhau Gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth