Skip to main content

Eitemau electronig bach annomestig

Mae cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei reoleiddio i leihau faint o wastraff cyfarpar trydanol ac electronig sy'n cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Mae Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd annomestig ailgylchu offer electronig bach. Ni ddylid rhoi eitemau electronig mewn biniau olwynion na bagiau brown.

Dylai eitemau electronig bach fod yn rhan o un o'r categorïau o eitemau electronig sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 3 Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 (ond nid yw hyn yn cynnwys eitemau ag unrhyw ddimensiwn allanol o fwy na 50 centimetr). 

Mae modd gwaredu ac ailgylchu eitemau electronig bach o eiddo annomestig yn Llyfrgelloedd Treorci, Aberdâr a Phontypridd.  

Gwybodaeth bellach ynghylch Oriau Agor y Llyfrgelloedd

Gwybodaeth bellach ynghylch costau

BYDD Llyfrgelloedd Treorci, Aberdâr a Phontypridd yn derbyn eitemau megis:

  • Offer ymbincio personol: sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwshys dannedd trydanol ac eillwyr trydanol ac ati
  • Offer cegin bach: tegellau, tostwyr a blendwyr ac ati
  • Technoleg: radios, chwaraewyr CDau/DVDau, teganau/gemau electronig, ffonau, llechi trydanol a chamerâu
  • Lampau, tortshis, goleuadau coed Nadolig
  • Ceblau a gwifrau gwefru

Tynnwch unrhyw fatris a'u hailgylchu ar wahân yn eich manwerthwr agosaf sy'n eu derbyn neu Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned.

Does dim modd ailgylchu fêps yn y cyfleusterau yma.