Gwyl Banc Calan Mai
Bydd Hol Lyfrgelloedd RhCT ar gau: Ddydd Llun 3 Mai 2021 ar gyfer GwylBanc Calan Mai
Diweddariad Pwysig am y Gwasanaeth.
Bydd Llyfrgelloedd RhCT yn gweithredu Cam 2 a Cham 3 o'n cynllun adfer yn sgil gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion Covid-19 yn Rhondda Cynon Taf ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Dyma amlinelliad ohonyn nhw.
Cam 2:
O 12 Ebrill, bydd y tair llyfrgell yn Aberdâr, Pontypridd (Llys Cadwyn) a Threorci ar agor i'r cyhoedd er mwyn i bobl ddefnyddio’r Llyfrgell a bydd y mesurau ychwanegol canlynol yn cael eu rhoi ar waith.
- Gwasanaeth Archebu a Chasglu.
- Uchafswm nifer o fenthycwyr yn y llyfrgell ar unrhyw un adeg. Bydd y nifer uchaf o fenthycwyr sy'n cael dod i mewn i lyfrgell yn amrywio o safle i safle a bydd y rhif yma'n cael ei bennu cyn ailagor.
- Rhaid i bob benthyciwr wisgo gorchudd wyneb (oni bai bod rhesymau meddygol yn atal hyn) a diheintio eu dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad.
- Caiff yr amser yn y llyfrgell ei gyfyngu i 30 munud a chaiff benthycwyr eu hannog i ddefnyddio ciosgau hunanwasanaeth lle bo hyn ar gael.
- Bydd gweithdrefnau ar waith er mwyn i staff fonitro'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.
- Mae sgriniau perspex wedi'u gosod mewn mannau lle y bydd cyswllt wyneb yn wyneb o bosibl yn digwydd.
- Bydd seddi/dodrefn yn cael eu symud.
- Bydd silffoedd y llyfrgell yn cael eu haildrefnu lle bo hynny'n bosibl i annog cadw pellter cymdeithasol a chreu systemau unffordd. Os yw'n bosibl, dylech chi ddefnyddio mynedfeydd ac allanfeydd gwahanol.
- Bydd defnydd cyfyngedig o ystafelloedd cyfarfod cymunedol yn cael ei ganiatáu hefyd.
- Bydd modd trefnu apwyntiad er mwyn defnyddio’r adran Gyfeirio. Bydd sesiynau awr o hyd ar gael ar gyfer hyd at 2 berson yn unig. Bydd unrhyw ddeunyddiau hanes lleol sy'n cael eu defnyddio yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr.
Cam 3:
O 26 Ebrill, bydd yr holl lyfrgelloedd cangen sy'n weddill yn ailagor gan ddilyn yr un drefn â'r Llyfrgelloedd Ardal yn ystod Cam 2.
Byddwn ni'n rhoi gwybod am unrhyw gynlluniau i lacio cyfyngiadau pellach cyn eu rhoi ar waith. Nodwch: mae'r wybodaeth uchod yn dibynnu ar gyngor y Llywodraeth a bydd yr wybodaeth dim ond yn berthnasol os yw nifer yr achosion yn parhau i ostwng, felly mae'n bosibl y bydd hyn yn newid. Diolch.
Rydyn ni'n deall y bydd defnyddwyr y llyfrgelloedd yn awyddus i weld gwasanaethau'r llyfrgelloedd yn dychwelyd i'r drefn arferol, cyn gynted ag sy'n bosibl, wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr a staff y llyfrgelloedd, rhaid i ni wneud unrhyw newidiadau yn araf deg. Felly, byddwn ni'n gweithredu dull graddol wrth ailagor gwasanaethau'r llyfrgelloedd a bydd y gwasanaethau canlynol ar gael o 29 Mawrth 2021.
- Gwasanaeth Archebu a Chasglu
- Gwasanaeth Llungopïo
- Gwerthu bagiau gwastraff y byd masnach
- Bydd modd trefnu apwyntiad er mwyn defnyddio cyfrifiaduron sydd ar gael i'r cyhoedd am gyfnod penodol
- Bydd sesiynau cyngor ar y Cyfrifiad ar gael mewn llyfrgelloedd penodol yn unol â rota, fel y cytunwyd gan Good Things Foundation.
- Bydd ystafelloedd cyfarfod ar gyfer y gymuned ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyflogaeth a'r gwasanaethau addysg pan fyddwch chi wedi trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
- Gwasanaeth Gartref
- Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i Ysgolion
* Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch llyfrgell leol neu ewch i'n gwefan www.rctcbc.gov.uk/llyfrgelloedd. Bydd y newyddion diweddaraf ynghylch gwasanaethau eraill yn cael ei rannu ar ein gwefan.
Cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus
- Mynediad Cyfyngedig
0 ddydd Llun, 29 Mawrth, bydd modd i chi gadw Ile ar sesiwn i ddefnyddio Cyfrifiadur ym mhob un o Lyfrgelloedd RhCT.
Cyfyngir sesiynau i 50 munud y dydd a rhaid gwisgo gorchudd wyneb tra byddwch chi yn y Ilyfrgell.
I drefnu sesiwn fioniwch:
• Abercynon — 01443 741926 • Aberdâr - 01685 880050
- Pentre'r Eglwys — 01443 570088
• Glynrhedynog — 01443 570021 • Hirwaun - 01685 811144
• Llantrisant — 01443 237842 • Aberpennar - 01443 570016
• Pont-y-clun — 01443 237843 • Pontypridd — 01443 562211
• Y Porth - 01443 562227 • Rhydfelen — 01443 570009
• Tonypandy — 01443 432251 • Treorci 01443 773204
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch llyfrgell leol neu ewch i'n gwefan www.rctcbc.gov.uk/IlyfrgeIloedd.
Gwybodaeth Bwysig
Diolch am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod anodd yma.
O 14 Medi, rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i unrhyw lyfrgell yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn gweithredu gwasanaeth 'Archebu a Chasglu" yn unig. Bydd llyfrau ar gael i'w harchebu a'u casglu o'r llyfrgelloedd canlynol:
-
Llyfrgell Pontypridd (Llys Cadwyn)
-
Llyfrgell Treorci
-
Llyfrgell Aberdâr
-
Llyfrygell Y Porth
-
Llyfrygell Aberpennar(Canolfan Pennar)
-
Llyfrygell Rhydfelen
-
Llyfrygell Hirwaun
-
Llyfrygell Pont-y-clun
-
Llyfrygel Glynrhedynog
-
Llyfrgell Pentr'r Eglwys
-
Llyfrgell Abercynon
-
Llyfrgell Llantrisant
-
Llyfrgell Tonypandy
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra i chi. Dewiswch eich llyfrgell leol i gael manylion am gyfeiriad, oriau agor, manylion cyswllt a chyfleusterau.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.