Skip to main content

Labelu bwyd

Amcan labeli bwyd yw dweud wrthyn ni beth ydyn ni'n ei fwyta. Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis i ni, y defnyddwyr. Mae rheoliadau mewn grym i atal gweithgynhyrchwyr rhag rhoi labeli camarweiniol ar y bwyd. Darllenwch ein taflenni cyngor am ragor o wybodaeth.

Beth sydd angen ei nodi ar becynnau?

  • Enw'r bwyd
  • Rhestr o Gynhwysion – gan gynnwys alergenau
  • Datganiad Cynhwysion Meintiol (QUID)
  • Dyddiadau parhauster, sef ‘gorau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’
  • Swm net
  • Sut i gadw'r bwyd
  • Enw a chyfeiriad
  • Hawliadau arbennig gan gynnwys tarddiad
  • Gwybodaeth faethol

Enw'r bwyd

Bydd rhaid i'r enw fod ar ffurf un o'r rhain:

  • Enw'r cynnyrch sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, er enghraifft, ‘siocled llaeth’
  • Enw arferol y cynnyrch, er enghraifft, ‘toesen’
  • Enw, neu ddisgrifiad byr, sy'n ddisgrifiad addas o'r cynnyrch ac sy'n gwneud yn siŵr fydd defnyddwyr ddim yn drysu rhwng hwn a chynhyrchion eraill

Ydy enw'r bwyd yn cynnwys enw rhyw gynhwysyn arbennig? Os felly, bydd rhaid cael canran benodol o'r cynhwysyn hwnnw. Er enghraifft, os fydd byrger ddim yn cynnwys o leiaf 62% o gig eidion coch, fydd dim modd ei alw'n ‘fyrger cig eidion’.

Rhaid i'r enw ddisgrifio pa fath o fwyd yw e. Os yw'r bwyd wedi cael ei brosesu, rhaid i'r enw ddisgrifio'r broses, er enghraifft, ‘eog wedi'i fygu’.

Rhestr gynhwysion

Os bydd y cynnyrch yn cynnwys mwy na dau o gynhwysion unigol, bydd rhaid rhoi rhestr lawn o'r holl gynhwysion. Bydd rhaid rhestru'r cynhwysion yn ôl eu pwysau adeg paratoi'r cynnyrch, gyda'r un trymaf yn gyntaf. Bydd rhaid rhestru ychwanegion yn ôl eu swyddogaeth yn gyntaf, ac yna'u henwau cyfresol neu benodol, er enghraifft, ‘cadwolyn: E220’ neu ‘cadwolyn: sylffwr deuocsid’.

Bydd modd labelu cyflasyn fel ‘blas’, heb roi enw penodol. Bydd modd cyfeirio at startsh wedi'i addasu fel ‘startsh wedi'i addasu’, a dim mwy.

Rhaid nodi cynhwysion alergenig yn y rhestr gynhwysion, gan eu pwysleisio mewn ffordd wahanol i'r cynhwysion eraill, er enghraifft, maidd (o LAETH) neu gwscws (gwenith)

Cyfarwyddiadau Storio

Bydd cyfarwyddiadau storio i'w gweld ar y rhan fwyaf o nwyddau darfodus sydd wedi'u pacio ymlaen llaw. Bydd y cyfarwyddiadau hyn yn rhoi arweiniad i'r defnyddiwr ar sut i gadw'r cynnyrch mor ffres â phosibl ac am gyhyd â phosibl. Bydd modd i'r cyfarwyddiadau fod yn bwysig o ran cadw'r bwyd yn ddiogel, er enghraifft, nodi bod rhaid rhoi'r bwyd yn yr oergell ar ôl ei agor.

Dyddiadau parhauster

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’

Bydd dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn cael eu rhoi ar rai bwydydd ffres sy'n gallu dirywio'n gyflym a hyd yn oed bod yn anniogel i'w bwyta mewn amser byr iawn, er enghraifft, pysgod, cig ffres, cynhyrchion cig a llaeth.

Sut i ddefnyddio dyddiadau ‘defnyddio erbyn’:

  • Peidiwch â bwyta nac yfed dim ar ôl y dyddiad – does dim ots nad oes dim o'i le ar y blas na'r arogl.
  • Dydy'r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn werth dim os byddwch chi heb ddilyn y cyfarwyddiadau storio, er enghraifft, bydd llaeth yn troi'n gynt os byddwch chi heb ei roi yn yr oergell.
  • Mae modd cadw rhai bwydydd yn hirach drwy'u rewi. Os felly, bydd modd eu bwyta weithiau ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.
  • Os oes cyfarwyddiadau coginio/paratoi/storio ar y pecyn, rhaid i chi'u dilyn nhw bob amser.

Gyda rhai bwydydd, mae modd eu cadw tan y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ os byddwch chi heb eu hagor. Os byddan nhw wedi cael eu hagor, amser byr iawn fydd i'w bwyta. Os yfory yw'r dyddiad ‘defnyddio erbyn’, rhaid bwyta'r bwyd erbyn diwedd yfory.

Dyddiadau ‘gorau cyn’

Bydd dyddiadau ‘gorau cyn’ i'w gweld yn amlach ar nwyddau sefydlog neu nwyddau sydd ddim yn ddarfodus – cynnyrch mewn tuniau, er enghraifft, neu wedi'u rhewi neu'u sychu.

Sut i ddefnyddio dyddiadau ‘gorau cyn’:

  • Mae'r gair ‘gorau’ yn cyfeirio at ansawdd bwyd, nid at ba mor ddiogel fydd e. Bydd y bwyd o ansawdd rhesymol ar gyfer ei fwyta hyd at y dyddiad ‘gorau cyn’.
  • Dydy'r dyddiad ‘gorau cyn’ yn werth dim os byddwch chi heb ddilyn y cyfarwyddiadau storio. Rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau storio ar y pecyn. Os cadwch chi at y rhain, fe gewch fwynhau'r bwyd ar ei orau.

Dyddiadau eraill

Mae'n bosibl y bydd dyddiadau eraill megis ‘dangos tan’ neu ‘dyddiad rhewi' ar rai nwyddau. Ffordd o helpu siopau i reoli'u stoc yw hyn. Dydy e ddim yn berthnasol i bobl sy'n prynu nwyddau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau parhauster.

Enw a chyfeiriad

Rhaid i label y nwyddau ddangos enwau a chyfeiriadau'r rhai sy'n gwneud, gweithgynhyrchu, pacio, mewnforio, neu werthu'r nwyddau. Os byddwch chi am wneud sylw am y nwyddau, bydd modd i chi fynd yn syth at y cwmni.

Gwlad tarddiad

Weithiau, byddai peidio â dweud o ba wlad mae nwyddau'n tarddu yn camarwain y defnyddwyr, er enghraifft, fe ddylai'r label dweud os yw pitsa ‘Eidalaidd’ wedi'i wneud yn y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth faethol

Bydd hi’n orfodol i gynnwys yr wybodaeth yma ar y rhan fwyaf o gynnyrch o 13 Rhagfyr 2016. Rhaid i wneuthurwyr bwyd roi gwybodaeth faethol os yw'r label yn honni bod y bwyd yn ‘fraster isel’ neu'n ‘ffibr uchel’. Ac os bydd y cwmni'n dewis dangos gwybodaeth faethol fodd bynnag, rhaid gwneud hynny yn unol â'r rheoliadau perthnasol.

Rhaid cynnwys y datganiadau canlynol a'u cynnwys nhw yn yr un modd â'r drefn ganlynol

Fesul 100g neu Fesul 100ml

  • Egni - kcal/kJ
  • Braster - g
  • Braster dirlawn - g
  • Carbohydradau - g
  • Siwgr - g
  • Protein g
  • Halen g

Y lwfansau egni dyddiol a argymhellir

Y lwfansau egni dyddiol a argymhellir

Oedran

Plant

Dynion

Fenyw

Age 1 to 3 years

102 kcal/kg
(1300 kcal/day)

-

-

Age 4 to 6 years:

90 kcal/kg
(1800 kcal/day)

-

-

Age 7 to 10 years:

70 kcal/kg (2000 kcal/day)

-

-

Age 11 to 14 years

-

55 kcal/kg
(2500 kcal/day)

47 kcal/kg
(2200 kcal/day)

Age 15 to 18 years:

-

45 kcal/kg
(3000 kcal/day)

40 kcal/kg
(2200 kcal/day)

Age 19 to 24 years:

-

40 kcal/kg
(2900 kcal/day)

38 kcal/kg
(2200 kcal/day)

Age 25 to 50 years:

-

37 kcal/kg
(2900 kcal/day)

36 kcal/kg
(2200 kcal/day)

Age over 51 years:

-

30 kcal/kg
(2300 kcal/day)

30 kcal/kg
(1900 kcal/day)

Meintiau

Bydd rhai mathau o fwyd yn cael eu gwerthu mewn ‘meintiau rhagnodedig’, er enghraifft, rhaid gwerthu bara wedi'i ragbacio fesul 400g.  Rhaid nodi'r maint gyda bwydydd bron yn ddieithriad. Mae'r holl wybodaeth ynglŷn â meintiau yn cyfeirio at y ‘pwysau glân’, sef y pwysau heb y pecyn.

Datganiadau Cynhwysion Meintiol (‘QUID’)

Bydd datganiad yn cyfeirio at ganran y cynhwysyn sydd yn y bwyd neu'r cynnyrch cyfan pan fydd y cynhwysyn neu gategori'r cynhwysyn yn:

  • cael ei amlygu gan labelu neu ddarlun, er enghraifft, 'caws ychwanegol'
  • cael ei grybwyll yn enw'r bwyd, er enghraifft, 'pastai caws a winwns'
  • cael ei gysylltu fel arfer ag enw'r bwyd dan sylw, er enghraifft, ffrwythau mewn pwdin haf

Honiadau arbennig

Weithiau, bydd y label ar fwydydd neu ddiodydd yn honni'u bod yn ‘isel eu calorïau’, yn ‘ddiodydd deiet’, bod eu cynnwys yn ‘uchel mewn braster polyannirlawn’, neu’n ‘llawn fitaminau’. Rhaid i'r wybodaeth faethol brofi hyn i gyd yn glir. Mae rheoliadau arbennig mewn grym ynglŷn â honiadau, a rhaid cydymffurfio â'r rhain i gyd.

Pan gaiff yr eitem ei gwerthu i'w defnyddiwr terfynol, mae'n ofynnol i'r pecyn fod wedi'i selio'n llwyr.

Labelu diodydd alcoholaidd

Diod alcoholaidd yw un sy'n cynnwys mwy na 1.2% o alcohol. Rhaid i'r label ddangos hynny. Rhaid i'r pecyn ddangos faint yn union yw'r ganran o alcohol, er enghraifft, “Alcohol X%” neu “Alc X%”. Rhaid dangos hyn mewn diodydd sy'n cael eu gwerthu mewn tafarnau neu mewn tai bwyta hefyd.

Labelu bwydydd a addaswyd yn enetig

Un o ddulliau biotechnoleg yw addasu genetig. Bydd y gwyddonwyr yn defnyddio genynnau mewn organedd er mwyn cryfhau rhai penodol o'i nodweddion biolegol.

Mae cwmni cynhyrchu a chyflenwi bwyd wedi defnyddio biotechnoleg mewn nifer o ffyrdd. Cafodd bwydydd eu haddasu i'w storio am gyfnodau hirach, neu i roi rhagor o faeth. Bydd diogelwch bwydydd a addaswyd yn enetig yn cael ei asesu'n drylwyr.

Ond mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydnabod fod rhai pobl am beidio â'u prynu. Gan hynny, os bydd bwydydd wedi'u haddasu'n enetig, rhaid i'w labeli ddangos hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch bwydydd a addaswyd yn enetig, a'r profion arnyn nhw a sut maen nhw'n cael eu gwerthu, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Labelu bwydydd organig

Rhaid i bob cynnyrch organig gynnwys dim ond bwyd a gafodd ei ffermio'n organig. Rhaid peidio â defnyddio gwrteithiau neu blaladdwyr sydd heb gael eu cymeradwyo'n rhai organig. Ac yn ystod y cyfnod trosi (dwy flynedd fel arfer), rhaid ffermio'r tir lle cafodd ei dyfu mewn ffordd organig. Fel arall, does dim hawl gwerthu'r cynnyrch fel bwyd organig.

Mae hawl gyda gwneuthurwyr bwyd organig i ddefnyddio rhywfaint o gynhyrchion anorganaidd cymeradwy. Ond rhaid i 95% o'r cynhwysion fod yn organig.

Os oes dim ond 70–95% o gynhwysion organig mewn rhyw fwyd, dydy e DDIM i gael ei alw'n fwyd organig. Ond mae croeso i nodi'r cynhwysion organig ar y pecyn.

Os yw gwneuthurwyr bwyd am gael eu galw'n ‘organig’, rhaid iddyn nhw gofrestru gyda chorff ardystio organig. Rhaid iddyn nhw roi enw'r corff ardystio ar eu pecynnau. Rhaid i'r labeli gynnwys rhif côd, ac maen nhw'n cael dangos enw neu nod masnach y corff ardystio.

Dydy pob cynhwysyn ddim yn mynd i fod ar ffurf organig o reidrwydd. Gan hynny, fydd hi ddim yn bosibl i wneud bwydydd o gynhwysion hollol organig bob tro.

Alergeddau bwyd

Mae'n ofyniad cyfreithiol ar fusnesau bwyd a gwneuthurwyr sy'n paratoi bwyd wedi'i bacio ymlaen llaw a bwydydd rhydd, gan gynnwys diodydd alcohol, i sicrhau bod pob gwneuthurwr yn cael gwybod am yr holl gynhwysion alergenig.

Rheolau Alergenau Bwydydd

Cafodd canllawiau a deunyddiau i fod o gymorth i fusnesau bwyd wrth hyrwyddo, gweithredu a chydymffurfio â Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE, eu cyhoeddi ar 13 Rhagfyr 2014.

Cewch chi ofyn am wybodaeth am 14 o alergenau os oes un yn cael ei ddefnyddio yn y bwyd rydych chi'n ei brynu wrth fwyta allan. Y 14 alergen yw Seleri, Grawnfwydydd sy'n cynnwys Glwten, Cramenogion, Wyau, Pysgod, Bysedd y Blaidd, Llaeth, Molysgiaid, Mwstard, Cnau, Pysgnau, Hadau Sesame, Ffa Soia a Sylffitau (dros 10mg/kg).

Byddwch chi'n gweld cynhwysion alergenig wedi'u hamlygu (er enghraifft, trwy ddefnyddio testun trwm, italig neu liwiau) ar fwydydd sy wedi'u pacio ymlaen llawn. Mae hyn yn golygu bod modd dod o hyd i'r holl wybodaeth am alergenau yn y rhestr gynhwysion yn unig.

Beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu i chi os ydych chi'n fusnes gweithgynhyrchu bwyd wedi'i bacio ymlaen llaw:

Bydd rhaid i chi amlygu cynhwysion alergenig (er enghraifft, trwy ddefnyddio testun trwm, italig neu liwiau) yn y rhestr gynhwysion yn unig.

Beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu i chi os ydych chi'n fusnes sy'n gwerthu bwyd rhydd neu'n wasanaeth bwyd (er enghraifft, ffreuturiau ysgolion, caffis, bwytai, siopau prydau parod, arlwywyr):

Rhaid i chi gynnig gwybodaeth am 14 alergen os yw un wedi cael ei ddefnyddio yn y bwyd rydych chi'n ei ddarparu neu'n ei werthu. Cewch chi wneud hyn ar y fwydlen, bwrdd sialc, gwefan neu ar lafar, ond rhaid cyfeirio'ch cwsmeriaid at yr wybodaeth yma.

Beth mae 'bwyd wedi'i bacio ymlaen llaw' yn ei olygu?

Mae bwyd 'wedi'i bacio ymlaen llaw' yn cyfeirio at fwyd wedi'i roi mewn pecyn cyn ei werthu, pan fo'r canlynol yn berthnasol:-

  • Mae'r bwyd naill ai wedi'i bacio'n llawn neu'n rhannol.
  • Does dim modd addasu'r bwyd heb agor neu newid y pecyn.
  • Mae'r bwyd yn barod i'w werthu i'r cyhoedd neu sefydlu arlwyo.

Carfan Safonau Bwyd ac Amaeth

Carfan Safonau Bwyd ac Amaeth
Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 01443 425301