Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy'n cydweithio er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, ac sy'n ymweld â nhw.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi pwy sy'n gorfod bod yn rhan, a phwy a ddylai fod yn rhan, o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae'r Ddeddf yn nodi bod rhaid i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys (fel aelodau statudol):
- Yr awdurdodau lleol;
- Y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gweithredu mewn unrhyw ardal sydd o fewn ffiniau’r awdurdod lleol;
- Awdurdod Tân ac Achub Cymru sy'n gweithredu mewn unrhyw ardal sydd o fewn ffiniau’r awdurdod lleol;
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn ogystal â hyn, rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wahodd y bobl ganlynol. Cân nhw eu galw'n 'gyfranwyr wedi'u gwahodd' os ydyn nhw'n derbyn y gwahoddiad:
- Gweinidogion Cymru;
- Prif Gwnstabl yr Heddlu ar gyfer unrhyw ardal heddlu sydd o fewn ffiniau’r awdurdod lleol;
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal heddlu;
- Gwasanaethau Prawf penodol;
- o leiaf un corff sy'n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol
Mae modd dod o hyd i'r Agenda a'r Cofnodion ar gyfer pob cyfarfod trwy’r dudalen we ganlynol:-
http://www.eincwmtaf.cymru/what-we-do