Skip to main content

 

Aelodau'r cyhoedd yn siarad yng nghyfarfodydd y pwyllgor

Rhaid i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno siarad mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gofrestru drwy gwblhau'r ffurflen isod. Cwblhewch ffurflen ar wahân ar gyfer pob person sy'n dymuno siarad.

Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ar ddyddiau Iau. Rhaid cyflwyno ceisiadau i siarad erbyn 5pm ar y dydd Mawrth cyn y Pwyllgor perthnasol. Mae calendr o ddyddiadau’r Pwyllgorau i'w weld yma

Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu eu ffrydio'n fyw. Gwylio ffrwd byw cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Peidiwch â chwblhau'r ffurflen isod os ydych chi'n dymuno gwylio'r cyfarfod heb annerch y Pwyllgor. 

Gweler y ddogfen ganllaw am wybodaeth mewn perthynas ag aelodau’r cyhoedd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, yma.

Y Broses Gofrestru ar gyfer Siaradwyr Cyhoeddus

Llenwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais i siarad yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu.

Dim ond at ddibenion cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei nodi ar y ffurflen yma'n cael ei defnyddio. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Gwasanaethau Democrataidd yn prosesu gwybodaeth bersonol, bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd, yma: http://www.rctcbc.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddGwasanaeth