Hysbysiad preifatrwydd yn ymwneud â phrosesu data personol wedi'u dal gan system Teledu Cylch Cyfyng mewn adeiladau, eiddo a sefydliadau sydd yn berchen i/wedi'u meddiannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion y mae eu delwedd wedi'i chasglu gan system Teledu Cylch Cyfyng sydd mewn adeiladau, eiddo a sefydliadau sydd yn berchen i/wedi'u meddiannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae modd i'r adeiladau, eiddo ac ati yma gynnwys y canlynol. Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr:
- Canolfannau hamdden
- Llyfrgelloedd
- Amgueddfeydd
- Theatrau
- Canolfannau Cymuned
- Canolfannau Ailgylchu
- Swyddfeydd y Cyngor
Bydd arwyddion clir yn dangos bod system Teledu Cylch Cyfyng mewn adeilad neu ar safle.
Dydy'r hysbysiad preifatrwydd yma ddim yn cwmpasu'r data personol sydd wedi'u dal gan system Teledu Cylch Cyfyng Mannau Agored Cyhoeddus y Cyngor. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â hyn, bwriwch olwg ar yr Hysbysiad Preifatrwydd – System Teledu Cylch Cyfyng mewn Mannau Agored Cyhoeddus.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
Y Rheolwr Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer data personol sy'n cael eu dal gan systemau Teledu Cylch Cyfyng sy'n cael eu defnyddio mewn neu o amgylch adeiladau, eiddo a sefydliadau'r Cyngor.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Pe hoffech chi holi unrhyw gwestiynau neu wneud ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch ag adran Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor:
Drwy E-bost: YmwelyddCCTV@rctcbc.gov.uk
Ffonio: 01443 425005
Post: Canolfan Rheoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV), Tŷ Elai, Trewiliam, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Rydyn ni'n prosesu delweddau unigolion sydd wedi'u casglu gan system Teledu Cylch Cyfyng.
Dydyn ni ddim yn recordio unrhyw sain drwy system teledu cylch cyfyng.
Er nad ydyn ni'n mynd ati'n fwriadol i gasglu unrhyw ddata personol arall, mae'n bosibl y bydd y teledu cylch cyfyng yn casglu gwybodaeth bellach anuniongyrchol am unigolion megis problemau iechyd, data troseddau (e.e. os yw'r teledu cylch cyfyng yn cofnodi trosedd bosibl sy'n cael ei chyflawni), ac ati.
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Rydyn ni'n prosesu data personol unigolion y mae lluniau ohonyn nhw'n cael eu dal gan y system. Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol, gan ddibynnau ar yr eiddo neu'r adeilad a'r rheswm dros ei ddefnyddio:
- Gweithwyr y Cyngor
- Cwsmeriaid
- Ymwelwyr
- Contractwyr
- Y cyhoedd
Pam rydyn ni'n prosesu data personol
Rydyn ni'n prosesu data personol sydd wedi'u dal gan y system Teledu Cylch Cyfyng er mwyn;
- canfod, atal, rhwystro a lleihau nifer y troseddau
- gwella diogelwch cyffredinol adeiladau, eiddo, sefydliadau ac asedau y mae'r Cyngor yn berchen arnyn nhw/yn eu meddiannu
- gwella iechyd a diogelwch ein gweithwyr, ymwelwyr a phobl sy'n defnyddio ein hadeiladau, eiddo a sefydliadau
- mynd i'r afael â materion diogelu
- cynorthwyo â chwynion neu bryderon (e.e. defnyddio recordiad teledu cylch cyfyng i gefnogi archwiliad i gŵyn neu bryder)
- cynorthwyo â hawliadau yswiriant neu hawliadau cyfreithiol (e.e. mae modd defnyddio deunydd ffilm y teledu cylch cyfyng yn dystiolaeth i gefnogi neu amddiffyn hawliadau)
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol
O dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018, ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol sy'n cael eu casglu gan ein system Teledu Cylch Cyfyng yw:
Diben
|
Sail Gyfreithiol
|
Canfod, atal, rhwystro a lleihau nifer y troseddau
|
Data Personol:
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
Data Categori Arbennig:
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 10 – atal a chanfod gweithredoedd anghyfreithlon.
Data Tramgwyddau Troseddol:
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 10 – atal a chanfod gweithredoedd anghyfreithlon.
|
Gwella diogelwch cyffredinol adeiladau, eiddo, sefydliadau ac asedau y mae'r Cyngor yn berchen arnyn nhw/yn eu meddiannu
|
Data Personol:
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
Data Categori Arbennig:
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
Data Tramgwyddau Troseddol:
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
|
Gwella iechyd a diogelwch ein gweithwyr, ymwelwyr a phobl sy'n defnyddio ein hadeiladau, eiddo a sefydliadau
ac
at ddibenion diogelwch
|
Data Personol:
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol – Erthygl 6 (c) - prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
Data Categori Arbennig:
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
Data Tramgwyddau Troseddol:
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
Ategu deddfwriaeth:
- Deddf Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
- Deddf Addysg 2022 (Adran 175)
|
Rhoi cymorth â chwynion neu bryderon
|
Data Personol:
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
Data Categori Arbennig:
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
Data Tramgwyddau Troseddol:
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 2, 6 – at ddibenion Statudol a Llywodraeth.
|
Rhoi cymorth â hawliadau cyfreithiol neu yswiriant
|
Data Personol:
- Buddiannau Cyfreithlon - Erthygl 6(f) Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol - prosesu sy'n angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y Rheolydd neu gan drydydd parti, ac eithrio pan fo buddiannau o’r fath yn cael eu diystyru gan fuddiannau neu hawliau a rhyddid sylfaenol testun y data sy’n gofyn am ddiogelu data personol, yn enwedig pan fo testun y data yn blentyn.
Data Categori Arbennig:
- Achosion Cyfreithiol - Erthygl 9(f) Prosesu Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn angenrheidiol ar gyfer sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu bryd bynnag y mae llysoedd yn gweithredu yn eu swyddogaeth farnwrol.
Data Tramgwyddau Troseddol:
- Deddf Diogelu Data, Atodlen 1, Rhan 3, 33 - Hawliadau Cyfreithiol.
|
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?
Rydyn ni'n casglu data personol yn uniongyrchol gan yr unigolion sy'n cael eu recordio gan y system Teledu Cylch Cyfyng.
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Dydyn ni ddim yn rhannu'r recordiad teledu cylch cyfyng gydag unrhyw sefydliadau allanol fel arfer. Serch hynny, mae modd gofyn am fynediad at recordiad teledu cylch cyfyng a'i ddatgelu i drydydd parti, at y dibenion canlynol, ble mae'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny (isod, rydyn ni wedi rhestru'r mathau mwyaf cyffredin o geisiadau sydd wedi dod i law. Sylwch dyw'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr.)
Bydd ceisiadau am ddata personol sy'n cael eu recordio ar Deledu Cylch Cyfyng yn cael eu trin ar sail pob achos unigol.
Yr Heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith
|
Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio ar deledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu â'r Heddlu at y dibenion canlynol;
- Atal a chanfod troseddau
- Dal neu erlyn tramgwyddwyr
- Achos cyfreithiol
|
Awdurdod Lleol e.e. carfan gorfodi
|
Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio ar deledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu â'r Awdurdod Lleol at y dibenion canlynol;
- Atal a chanfod troseddau
- Dal neu erlyn tramgwyddwyr
- Achos cyfreithiol
|
Y Llysoedd
|
Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio ar deledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu â'r Llysoedd at y dibenion canlynol;
- Achos cyfreithiol
- Gorchymyn llys
|
Cyfreithwyr a chynrychiolwyr cyfreithiol ac ati
|
Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio ar deledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu â chynrychiolwyr cyfreithiol at y dibenion canlynol;
|
Cwmnïau yswiriant, pobl sy'n ymdrin â honiadau ac ati
|
Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio ar deledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu â chwmnïau yswiriant at y dibenion canlynol;
|
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
|
Mae'n bosibl y bydd data personol sy'n cael eu recordio ar deledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac asiantaethau perthnasol i gefnogi archwiliad
|
Proseswyr Data
Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Y categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion cynnal a chadw'r system yw;
- Cyflenwyr system teledu cylch cyfyng a darparwyr gwasanaethau
- Cyflenwyr gwasanaethau cymorth system teledu cylch cyfyng a gwasanaethau cynnal a chadw
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Mae'r Cyngor yn dal gafael ar ddeunydd sydd wedi'i recordio gan ein system Teledu Cylch Cyfyng am gyfnod o 1 mis o'r dyddiad y cafodd y deunydd ei recordio.
Lle mae cais am recordiad yn dod i law, mae'n bosibl y bydd y deunydd yn cael ei gadw am gyfnod hirach, hyd nes y bydd y cais wedi'i gwblhau.
Os yw'r recordiad yn destun archwiliad gan yr Heddlu neu archwiliad iechyd a diogelwch neu rywbeth tebyg, mae'n bosibl y bydd copi o'r recordiad yn cael ei gadw am ragor o amser at y dibenion hyn.
Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld eu data personol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Rhoi sylwadau, canmol neu gwyno) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk