Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion prosesu a rheoli Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Trosglwyddo Asedau Cymunedol.  Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol y Cyngor. 

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae RhCT Gyda'n Gilydd - Carfan Datblygu'r Gymuned, yn hwyluso'r broses o drosglwyddo adeiladau a/neu dir y Cyngor i sefydliadau cymunedol nid er elw personol fel, ond heb fod yn gyfyngedig i; mentrau cymdeithasol neu gynghorau tref a chymuned. 

Nodau Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw: 

  • Annog cymunedau a grwpiau lleol (rhai newydd neu rai sy'n bodoli eisoes) i ddod yn ddinasyddion grymus a gweithredol trwy reoli adeiladau lleol neu ddarnau o dir yn eu hardal leol.
  • Datblygu gallu mewn cymunedau a hyrwyddo trefnau rhannu'r adeiladau cymunedol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol drwy ddefnyddio dull cyd-weithio.
  • Diogelu adeiladau a gwasanaethau at ddefnydd a budd y gymuned. 

 2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Er mwyn prosesu a rheoli Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol, bydd y math o wybodaeth rydyn ni'n ei gasglu a'i ddefnyddio fel arfer yn cynnwys: 

  • Enw(au)
  • Swyddogaeth o fewn y Sefydliad/Grŵp sy'n gwneud cais am Drosglwyddo Asedau Cymunedol
  • Manylion Cyswllt: Cyfeiriad; rhif ffôn; cyfeiriad e-bost
  • Sgiliau a Phrofiad
  • Dewis iaith 

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael yr wybodaeth yma'n uniongyrchol gan berson/pobl sy'n gwneud cais am Drosglwyddiad Asedau Cymunedol ar ran sefydliad. 

 4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma ar gyfer:

  • Nodi cynigion cymunedol da ar gyfer gwneud defnydd cynaliadwy o adeiladau cyhoeddus, neu dir sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd.
  • Ystyried trosglwyddo rheolaeth yr adeilad neu'r tir i'ch sefydliad/grŵp
  • Prosesu mynegiant o ddiddordeb, cynllun busnes neu gais am gyllid.
  • Cysylltu â chi i ddarparu gwybodaeth am drosglwyddo asedau neu i drafod unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol mewn perthynas â throsglwyddo asedau
  • Darparu cymorth i helpu i gynnal Trosglwyddiad Ased Cymunedol presennol lle gallai’r grŵp, yr adeilad neu’r darn o dir fod mewn perygl.

Lle rydych chi wedi cydsynio i hynny, byddwn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma i ddarparu gwybodaeth i drydydd parti/partneriaid a gomisiynwyd i'ch cefnogi trwy'r trosglwyddiad arfaethedig neu i gael gafael ar gyllid.

 5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol yw er mwyn prosesu a rheoli trosglwyddiad ased Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i drydydd parti rydych chi'n barti iddo. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol?

Ydy. Bydd y Garfan Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r canlynol;

  • Adrannau mewnol y Cyngor er mwyn cyflawni'r dibenion ar gyfer cael eich gwybodaeth (gweler adran 4)
  • Y Cabinet ac Aelodau'r Cabinet er mwyn gofyn am gymeradwyaeth i Drosglwyddo Asedau Cymunedol
  • Asiantaethau cymorth y sector gwirfoddol, cyllidwyr, grŵp/grwpiau cymunedol trydydd parti eraill, menter/mentrau cymdeithasol neu gyngor/cynghorau tref a chymuned wrth gydweithredu ar drosglwyddiad ased y Cyngor
  • Bydd tudalen we RhCT Gyda'n Gilydd yn cyhoeddi Trosglwyddiadau Asedau llwyddiannus sydd wedi digwydd, ac felly bydd yr wybodaeth yma'n gyhoeddus.
  • Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth â thrydydd parti pan fyddwch chi wedi cydsynio â hynny.

Bydd manylion yn ymwneud â'r hyn rydych chi/eich sefydliad am ei wneud i ddarparu gwasanaeth/rheoli Ased y Cyngor yn rhan o'ch Mynegiant o Ddiddordeb cychwynnol ar gael i'w weld ar-lein yn rhan o “Gyfle Euraid” y Cyngor. Bydd hwn yn cynnwys manylion mynegiant o ddiddordeb y sefydliad yn unig, ac ni fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth chi'n cael ei chadw cyhyd ag y bo'n ofynnol o dan y gofyniad cyfreithiol i drosglwyddo Ased Cyngor a chydymffurfio â gweithdrefnau ariannol y Cyngor.                    

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn nodi'ch hawliau i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

 Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

 9.     Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol: 

E-Bost: Syd.b.dennis@rctcbc.gov.uk (Rheolwr y Gwasanaeth) 

Ffôn: 01443 425368 

Anfon llythyr: Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY