Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol ('CREW').
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Rhaglen 'CREW'.
Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:
Y Rheolwr Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr data. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan:
E-bost: Kirsty.m.worth@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 07747485629
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud?
Mae'r Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol ('CREW') wedi'i llunio ar gyfer plant rhwng 8 a 11 oed a'i nod yw eu helpu nhw i feithrin dealltwriaeth well o'u hemosiynau, yn ogystal â magu hyder a chydnerthedd trwy ddefnyddio offer ymarferol a strategaethau i ymdopi.
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn sesiynau fesul un, gan sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu. Mae modd i sesiynau gael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoedd, gan gynnwys cartref y plentyn, yr ysgol, neu mewn canolfan yn y gymuned, yn dibynnu ar yr hyn sydd fwyaf addas a hygyrch.
Mae'r holl weithgareddau'n seiliedig ar chwarae er mwyn hyrwyddo ymgysylltu, ac maen nhw'n cael eu cyflwyno gan Weithiwr Cymorth Lles sy'n sicrhau bod dull cefnogol a phroffesiynol ar waith drwyddi draw.
Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol er mwyn darparu'r Rhaglen;
- Plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth
- Rhieni'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Y categorïau data personol rydyn ni'n eu prosesu
Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol;
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn
- Gwybodaeth am iechyd
Pam rydyn ni'n prosesu'r data personol?
Rydyn ni'n prosesu data personol er mwyn rhoi cymorth i blant. Mae modd i hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw:
- Trafod y rhaglen yn fanwl
- Penderfynu pa gymorth sydd ei angen
- Creu cynllun gweithredu
- Cyflawni gweithgareddau
- Heplu'r unigolion sydd ynghlwm â'r gwasanaeth a rhoi arweiniad iddyn nhw.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol a'u darparu i'r Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol ('CREW');
- Tasg gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
- Dibenion Statudol a Dibenion y Llywodraeth – DPA2018 – Atodlen 1 - Rhan 6 - mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer rhesymau diddordeb cyhoeddus
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu'r data personol?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol;
- Atgyfeiriadau gan y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
- Yn uniongyrchol gan blant neu rieni sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu'r data personol?
Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol i ddarparu'r Rhaglen;
Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.
|
Pwy
|
Diben
|
|
Gwasanaethau i Blant
|
Os caiff unrhyw bryderon ynghylch diogelu eu codi, mae dyletswydd arnon ni i'w rhannu nhw â'rgwasanaeth perthnasol.
I sicrhau bod yr wybodaeth ar ffeil plentyn yn gyfredol.
|
Proseswyr Data
Proseswr data yw cwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddyd ni mae ein prosesyddion data yn gweithredu. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw nhw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at y diben y Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol :
- Darparwyr Systemau TG, ac ati
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o Raglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol am:
Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan (e.e. dogfennau sy'n cynnwys asesiadau, penderfyniadau, deilliannau ac ati). Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.
Eich hawliau o ran diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost:
- E-bost: Kirsty.m.worth@rctcbc.gov.uk
- Ffôn: 07747485629
- Drwy'r post: Tŷ Elái, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i gyflwyno cwyn am ddiogelu data i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk