Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Dechrau'n Deg RhCT

Sut mae Dechrau'n Deg yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol.  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Rhaglen Dechrau'n Deg. Rydyn ni'n eich annog chi i ddarllen yr hysbysiad yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

 1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.

Rhaglen wedi'i chyllido gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg. Dyma raglen sydd ar gael i deuluoedd sy'n byw yn ardaloedd cod post penodol i roi 'Dechrau Teg' i blant rhwng 0 a 3 oed.

Mae'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Rhaglen Dechrau'n Deg.

Os ydych chi'n feichiog ac rydych chi'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, bydd eich bydwraig gymunedol yn rhoi gwybod i Garfan Dechrau'n Deg y Cyngor eich bod chi'n feichiog. Yna bydd Ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg yn cael eich dyrannu i chi, a fydd yn ymweld â chi erbyn i chi gyrraedd 24 wythnos o'ch beichiogrwydd i gynnal asesiad. Pwrpas yr asesiad fydd i nodi a fyddwch chi'n elwa o unrhyw un o'n rhaglenni yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl i'r babi gael ei eni.

Yn ogystal â Gwasanaeth Ymwelydd Iechyd, bydd Dechrau'n Deg yn cynnig cymorth rhianta i deuluoedd, cymorth Iaith a Chwarae a gofal plant rhan amser o 2 oed (mewn rhai lleoliadau chwarae).

 2.   Gan bwy ydyn ni'n casglu a phrosesu gwybodaeth bersonol a pham? 

Rydyn ni'n cadw manylion yr holl deuluoedd sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, naill ai oherwydd eich bod chi'n feichiog ac yn byw mewn ardal gymwys neu oherwydd bod gyda chi blentyn dan 3 oed ac mae'r ardal lle rydych chi'n byw wedi dod yn ardal Dechrau'n Deg. 

Pan fydd Ymwelydd Iechyd yn ymweld â chi am y tro cyntaf, bydd asesiad yn cael ei gynnal i sefydlu a fyddech chi'n elwa o unrhyw un o raglenni Dechrau'n Deg. Os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn un o'n rhaglenni, byddwn ni'n gofyn i chi gwblhau Ffurflen Gofrestru. 

Os ydych chi'n penderfynu nad ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yna bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo yn ôl i Ymwelydd Iechyd y Gymuned (sydd ddim yn rhan o raglen Dechrau'n Deg) a fydd yn mynd ati i gyflawni'u dyletswyddau. 

Bydd y lefel o fanylion rydyn ni'n ei chadw yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn, ond bydd fel arfer yn cynnwys: 

Ffurflen Gofrestru: 

  • Manylion y Plentyn a'r Rhiant / Cynhaliwr, megis:
    • Enw, Cyfeiriad, Manylion cyswllt,
    • Dyddiad Geni,
    • Rhif GIG y Plentyn
  • Data Cydraddoldeb
    • Rhywedd
    • Anabledd
    • Tras Ethnig

Arall:

  • Asesiadau
  • Adolygiadau datblygu plant
  • Cofnod o gynnydd y plant
  • Manylion cyswllt Ymwelwyr Iechyd, Lleoliadau Gofal Plant
  • Cofrestr o bresenoldeb mewn Lleoliadau Gofal Plant,
  • Cofrestr o bresenoldeb mewn sesiynau rhianta / sesiynau iaith a chwarae,
  • Cofnod o anghenion y plentyn, h.y. iaith y cartref, crefydd, anghenion gofal, anghenion dietegol a manylion cyswllt mewn argyfwng. 

 3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Bydd y mwyafrif o wybodaeth amdanoch chi a'ch plentyn/plant yn dod gennych chi wrth i chi gwblhau ffurflen gofrestru gyda'ch Ymwelydd Iechyd.

Ar ôl i chi fanteisio ar wasanaethau Dechrau'n Deg, bydd gwybodaeth ychwanegol yna'n cael ei chasglu o bethau gan gynnwys asesiadau a chofrestri presenoldeb eich Ymwelydd Iechyd, Lleoliad Gofal Plant neu Weithiwr Rhiant. 

Efallai byddwn ni'n derbyn gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol eraill megis 

  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Meddyg Teulu
  • Seicolegydd Addysg
  • Ymgynghorydd Ysbyty
  • Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymunedol
  • Homestart
  • Plant y Cymoedd 

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?  

Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i'r Ymwelydd Iechyd ar y ffurflen Gofrestru i'ch cofrestru chi'n swyddogol ar gyfer Rhaglen Dechrau'n Deg, a sefydlu a fyddech chi neu'ch teulu yn elwa o unrhyw wasanaethau eraill, fel cymorth rhianta, cymorth iaith neu i ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer eich plentyn yn un o'n lleoliadau gofal plant. 

Byddwn ni'n monitro eich cynnydd chi/cynnydd eich plentyn o bryd i'w gilydd a byddwn ni'n cofnodi'r deilliannau. 

Bydd presenoldeb eich plentyn yn cael ei nodi ar gofrestr, fel y bydd eich presenoldeb yn ystod sesiynau cymorth rhianta a chymorth iaith hefyd. 

Byddwn ni'n rhoi gwybodaeth i'r Ysgol y bydd eich plentyn yn mynychu'r Ysgol, os oes unrhywbeth y mae angen i'r Ysgol wybod, er enghraifft unrhyw anghenion addysgol arbennig, anghenion iechyd penodol ac ati i sicrhau bod y cyfnod pontio yn ddidor. Byddwn ni'n parhau i gydweithio gyda chi a bwriadu i sicrhau bod pob un o'r cyfarfodydd mae'n bosibl y byddwn ni'n eu cael gyda'r Ysgol yn cael eu trefnu o gwmpas eich dyddiadur. 

Rydyn ni'n rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am bresenoldeb a deilliannau'r rhaglen i gydymffurfio â gofynion cyllid.  Byddwn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau'n iawn. Bydd yr holl wybodaeth yma'n ddienw a fydd neb yn gallu'ch adnabod chi gan ddefnyddio'r wybodaeth yma 

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio a rhannu'r wybodaeth yma?  

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg i chi yw: 

  • Yn rhan o'n 'tasg gyhoeddus' i gydymffurfio â'n goblygiadau o ran budd y cyhoedd ac ymarfer ein hawdurdod swyddogol fel corff cyhoeddus. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?  

Bydd yr wybodaeth a fydd yn cael ei rhannu yn dibynnu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei derbyn gennym ni, er enghraifft: 

Gofal Plant

Os yw eich plentyn yn mynd i fynychu lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg (boed hynny'n lleoliad mewnol neu leoliad Gofal Plant rydyn ni wedi'i gomisiynu), byddai angen i ni roi gwybod iddyn nhw am enw'r plentyn, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, enw(au) rhiant/gwarcheidwad, cyfeiriad, manylion cyswllt, a gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd eich plentyn e.e. alergeddau, anableddau i sicrhau eu bod nhw mewn lleoliad addas ac yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl. 

Cymorth Magu Plant

Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y Rhiant/Gwarcheidwad i'w rhannu â'r Gwasanaeth Cymorth Rhianta, er mwyn gwneud trefniadau i fynychu sesiynau. 

Grŵp Siarad a Chwarae

Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y Rhiant/Gwarcheidwad a phlentyn/plant  yn cael eu rhannu gyda'r Garfan Siarad a Chwarae er mwyn gwneud trefniadau i fynychu sesiynau. 

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu gwybodaeth berthnasol gydag adrannau eraill y Cyngor ble'n addas, megis Ysgolion, y Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad, gwasanaethau cymdeithasol i blant. 

7.    Am faint o amser byddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth? 

Bydd hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn wrthyn ni.

  • Byddwn ni'n cadw gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwasanaethau rydych chi a'ch plentyn wedi'u defnyddio am 10 blwyddyn yn dilyn eich cyswllt olaf gyda ni.
  • Bydd data ystadegol dienw yn cael ei gadw am 7 mlynedd. 

8.     Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

 9. Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: gwrando.cwynion@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425003

Drwy lythyr: Carfan Gwella Gwasanaeth a Chwynion

     Tŷ Elái

     Dwyrain Dinas Isaf

     Trewiliam,

     Tonypandy.Sut mae Dechrau'n Deg yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol.