Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Cais Pontypridd28 i fod yn Dref Diwylliant y DU.
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Cais Pontypridd28 i fod yn Dref Diwylliant y DU.
Dylech chi ddarllen yr isod ynghyd â'r hysbysiad yma:
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw’r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Pe hoffech chi holi unrhyw gwestiynau neu wneud ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Adran Diwylliant, Hamdden a Phrofiadau Ymwelwyr -
E-bost: hamdden@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 562202 (opsiwn 2)
neu anfon llythyr at Adran Diwylliant, Hamdden a Phrofiadau Ymwelwyr, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Parc Abercynon, Abercynon, CF45 4UY
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud?
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd a'r Bartneriaeth Tref a Diwylliant i wneud Cais i Bontypridd28 fod yn Dref Diwylliant y DU 2028, cystadleuaeth gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Yn rhan o'r prosiect yma, bydd ein llwyfan digidol yn creu casgliad digidol o ffotograffau, fideos, straeon ac atgofion i ddathlu pobl, lleoedd a diwylliant Pontypridd. Caiff aelodau'r cyhoedd eu gwahodd i gyfrannu cynnwys sy’n adlewyrchu eu profiadau, eu hanes lleol a’u bywyd cymunedol.
Bydd yr holl gynnwys a gaiff ei gyflwyno'n cael ei adolygu cyn iddo gael ei gyhoeddi ac os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei arddangos ar ein gwefan sydd ar gael i'r cyhoedd a'i ddefnyddio i gefnogi Cais Pontypridd28 i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028.
Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?
Efallai y byddwn ni'n prosesu data personol sy'n ymwneud â'r unigolion canlynol yn rhan o brosiect Pontypridd28 i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028.
- Unigolion sy'n cyflwyno ffotograffau, fideos, straeon neu unrhyw gynnwys arall yn rhan o'r prosiect.
- Unigolion y mae modd eu hadnabod mewn ffotograffau, fideos, straeon neu unrhyw gynnwys arall a gaiff ei gyflwyno yn rhan o'r prosiect.
- Unigolion sy'n cysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau, sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r cynnwys a gyflwynwyd.
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol yn rhan o brosiect Tref Diwylliant 2028.
- Ffotograffau a Delweddau
- Recordiadau Fideo
- Straeon ysgrifenedig, atgofion a chynnwys arall a gaiff eu darparu'n wirfoddol gan gyfranwyr
- Enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn os bydd aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â ni mewn perthynas ag unrhyw gynnwys cyhoeddedig
- Unrhyw wybodaeth arall a gaiff ei chynnwys yn wirfoddol mewn cyflwyniadau
- Er nad yw'r prosiect yn casglu data categori arbennig yn fwriadol, mae modd casglu gwybodaeth o'r fath yn ddamweiniol o fewn unrhyw gynnwys a gyflwynir
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu'r data personol i gefnogi Cais Pontypridd28 i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Creu a chynnal casgliad digidol sy'n dathlu diwylliant, treftadaeth, cymunedau a hanes Pontypridd.
- Cefnogi cais Pontypridd i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028, cystadleuaeth yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
- Galluogi unigolion i gyfrannu cynnwys i gefnogi'r prosiect.
- Adolygu ac awdurdodi cynnwys cyn ei gyhoeddi.
- Cyhoeddi cynnwys cymeradwy ar wefan y prosiect a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf.
- Ymateb i ymholiadau, gwrthwynebiadau, sylwadau ac ati sy'n ymwneud ag unrhyw gynnwys sydd wedi'i gyhoeddi.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i;
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Bydd yr holl ffotograffau, fideos, straeon a chynnwys arall sydd wedi'u cymeradwyo i'w cyhoeddi ar wefan Tref Diwylliant y DU – Pontypridd 2028 ar gael i'r cyhoedd ac yn hygyrch i unrhyw un sy'n ymweld â'r wefan. Dim ond dolen i'r wefan fydd yn cael ei rhannu gyda sefydliadau partner yn rhan o'r cynnig.
Proseswyr Data
Mae prosesydd data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n ei ddal yn ddiogel ac yn ei gadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Y categori o broseswyr data a ddefnyddiwn at ddiben prosiect Tref Diwylliant 2028,
- Cyflenwyr TGCh
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'i gynnwys yng Nghais Pontypridd28 i fod yn Dref Diwylliant y DU fel a ganlyn
|
Hyd
|
Rheswm
|
|
Cynnwys y Wefan
Cais llwyddiannus – tan fis Mawrth 2029
Cais aflwyddiannus – tan fis Mawrth 2027
|
Penderfyniad busnes yn rhan o'r cais
|
|
Cyfathrebu, ymholiadau, gwrthwynebiadau
Cais llwyddiannus – tan fis Mawrth 2029
Cais aflwyddiannus – tan fis Mawrth 2027
|
Penderfyniad busnes yn rhan o'r cais
|
Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydyn ni ddim yn dal gafael ar y data personol yn eu cyfanrwydd
Eich hawliau o ran diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Adran Diwylliant, Hamdden a Phrofiadau Ymwelwyr yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost:
- E-bost: hamdden@rctcbc.gov.uk
- Ffôn: 01443 562202 (opsiwn 2)
- neu anfon llythyr at Adran Diwylliant, Hamdden a Phrofiadau Ymwelwyr, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Parc Abercynon, Abercynon, CF45 4UY
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i gyflwyno cwyn am ddiogelu data i'r ICO
Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
- Cyfeiriad/Address: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://cy.ico.org.uk