Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Archif Llafar Gwasanaethau Llyfrgelloedd RhCT
Cyflwyniad
Dylech chi ddarllen yr isod ynghyd â'r hysbysiad yma:
Y Rheolydd Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Archif Llafar Gwasanaethau Llyfrgelloedd RhCT
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolydd data â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd
E-bostiwch: GwasanaethLlyfrgelloedd@rctcbc.gov.uk
Drwy ffonio: 01685 880061/880060
Drwy'r post: Llyfrgell Aberdâr, Green Street, Aberdâr, CF44 7AG
Dyma pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd RhCT yn cynnal cyfweliadau hanes llafar gyda thrigolion RhCT sy'n cael eu cadw mewn Archif Hanes Llafar fel adnodd cyhoeddus parhaol ar gyfer cyfeirio, at ddibenion gwaith ymchwil, cyhoeddi, addysg, darlithoedd, darlledu a mynediad i'r rhyngrwyd. Mae'r prosiect Archif Hanes Llafar yn sicrhau bod ystod yn ymgysylltu â'u treftadaeth leol, ac yn amlygu ac esbonio'r dreftadaeth yna.
Mae'r cyfweliadau yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys plentyndod, gwaith, bywyd teuluol, gwleidyddiaeth a rhyfel ac yn dangos sut mae barn am y gorffennol yn newid dros amser; sut mae deall y gorffennol yn gallu herio ein syniadau am o ble rydyn ni'n dod; a sut y datblygodd ein cymunedau. Mae'r Archif Hanes Llafar ar gael ar-lein yma
Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?
Rydyn ni'n prosesu gwybodaeth am aelodau o'r cyhoedd sy'n cymryd rhan yn ein cyfweliadau hanes llafar.
Y categorïau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol ar gyfer yr Archif Hanes Llafar:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth bersonol megis dyddiad geni
- Lluniau/fideos/sain a'r ffurflenni cytuno sy'n gysylltiedig.
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Rydyn ni'n prosesu'r data personol ar gyfer Archif Hanes Llafar. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol;
- Creu archif weledol ac ar lafar sy'n cynnwys straeon amrywiol o bobl leol ledled RhCT
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer y Prosiect Hanes Llafar yw
- Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
- Caniatâd – Erthygl 6(a) - Mae'r unigolyn wedi cydsynio i brosesu ei ddata/data personol at un neu ragor o ddibenion penodol.
Mae'r isod, ond nid y rhain yn unig, ymhlith y prif ddeddfwriaethau, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gan bwy rydyn ni'n cael data personol, neu o ble?
Rydyn ni'n derbyn y data personol yn uniongyrchol oddi wrth y cyfranogwyr drwy ffurflenni cytuno, sain, fideos a lluniau ac ati.
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni, byddwn ni'n rhannu eich data personol (enw, lluniau, sain, fideos) ar www.rctourheritage.com / www.eintreftadaethrhct.com
Am ba mor hir y byddwn ni'n dal gafael ar y data personol?
Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn ein cofnodion Archif Hanes Llafar am:
Hyd
|
Rheswm
|
Bydd Cytundebau Cyfranogiad a Recordio yn cael eu cadw am byth
|
Bydd Cytundebau Cyfranogiad a Recordio yn cael eu cadw yn am byth ochr yn ochr â'r ffeiliau sain, fideo a lluniau i brofi bod cydsyniad priodol wedi'i ddarparu.
|
Bydd ffeiliau sain, fideo a lluniau'n cael eu cadw yn am byth.
|
Mae ffeiliau sain, fideo a lluniau yn cael eu cadw yn Archifau'r Llyfrgelloedd, fel adnoddau cyhoeddus parhaol.
|
Yn unol ag egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydyn ni ddim yn dal gafael ar y datayn eu cyfanrwydd. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol.
Eich hawliau'n ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn nad ydyn ni wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu ebost:
E-bostiwch: GwasanaethLlyfrgelloedd@rctcbc.gov.uk
Drwy ffonio: 01685 880061/880060
Drwy'r post: Llyfrgell Aberdâr, Stryd Fawr, Aberdâr, CF44 7AG
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â'r ICO fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk