Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Gwasanaeth Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol.
Cyflwyniad
Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion y gwasanaeth Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol.
Y Rheolwr Data
Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y gwasanaeth Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol.
Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.
Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol.
E-bost: HybiauCymunedolCydnerth@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425368
Neu drwy lythyr i: Carfan Datblygu Cymuned, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, CF40 1NY
Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud
Mae'n bosib bydd angen cymorth ar rai o drigolion Rhondda Cynon Taf wrth inni barhau i fyw gyda sgil effeithiau COVID-19, megis cyfnodau hunanynysu; iechyd corfforol neu feddyliol gwael; cadw pellter cymdeithasol; symudedd neu amgylcheddau personol cymhleth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori bod rhaid i Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill barhau i weithio gyda'i gilydd a darparu cefnogaeth barhaus/ôl-ofal i bobl er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus wrth adael eu cartrefi a bod dal modd iddyn nhw gael mynediad at gyfleusterau a chymorth.
Felly, bydd Gwasanaethau i Oedolion a'r Garfan Datblygiad yn y Gymuned yn sicrhau bod trigolion yn derbyn cymorth wrth hunanynysu, neu'n parhau i dderbyn cymorth a chefnogaeth.
Gwasanaethau i Oedolion
Bydd y gwasanaeth yma'n darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016; bydd hyn yn cael ei wneud trwy drafod 'beth sy'n bwysig' i nodi anghenion unigolyn a'r camau gweithredu angenrheidiol.
Gwasanaethau Cymuned
Mae'r Garfan yn ymateb i alwadau a cheisiadau am gymorth ar y cyd ag aelodau Grŵp Llywio Cymorth yn y Gymuned Rhondda Cynon Taf (sy'n cynnwys sefydliadau gwirfoddoli yn y gymuned).
Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol ar gyfer y gwasanaeth Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol.
- Cynrychiolwyr / Defnyddwyr y Gwasanaeth
Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu
Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu’r categorïau canlynol o ddata personol ar gyfer y gwasanaeth Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol.
Byddwn ni'n gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
- Dynodwyr personol megis eich dyddiad geni
- Gwybodaeth ynghylch pa gymorth sydd ei angen arnoch chi
- Gwybodaeth ynghylch eich iechyd
- Gwybodaeth am eich trefniadau byw
Pam rydyn ni'n prosesu data personol?
Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i roi'r cymorth sydd ei angen arnoch, gallai hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw;
- Cymorth gyda'ch siopa
- Galwad ffôn gyfeillgar i gadw mewn cysylltiad
- Cymorth i ddod o hyd i waith, neu gael hyfforddiant cysylltiedig â gwaith
- Gwybodaeth ac arweiniad am arian neu fudd-daliadau
- Gwybodaeth am y gwasanaeth llyfrgell 'gartref'
- Unrhyw gymorth arall megis Pryd-ar-glud, Llinell Bywyd
- Cymorth lles os ydych chi'n teimlo'n unig neu'n ynysig neu pe hoffech chi sefydlu cyswllt â grŵp cymunedol yn eich ardal leol
- Asesiad lles – Ymweliad cartref i siarad am a chofnodi unrhyw beth sy'n bwysig i chi a'ch teulu y gallai fod angen rhagor o gymorth arnoch chi ag ef, beth sy'n mynd yn dda, a beth allwch chi ei wneud i gynnal eich hun a'ch teulu.
Rydyn ni hefyd yn prosesu'r data personol er mwyn llunio adroddiad ar reolaeth ac effaith y grantiau mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi'u derbyn. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:
- Prosesu'r atgyfeiriad i'r prosiect sydd wedi'i ddewis
- Rhoi cefnogaeth, cymorth ac arweiniad
- Llunio a darparu adroddiadau i'r Swyddfa Gyllid berthnasol i ddangos bod y Prosiect yn cael ei gynnal yn gywir ac yn ôl telerau'r cyllid
- Gwerthuso prosiectau a ariennir yn allanol yn Rhondda Cynon Taf yn unol â gofynion y cyllid grant.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:
Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
- Atodlen 1, Rhan 2 (6) Deddf Diogelu Data 2018 – Dibenion Statudol a Llywodraethol
- Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i;
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (deddfwriaeth.gov.uk)
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru
https://llyw.cymru/fframwaith-adsefydlu-gwasanaethau-iechyd-chymdeithasol-2020-i-2021
https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-09/cymru-iachach-ein-cynllun-iechyd-a-gofal-cymdeithasol.pdf
Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:
- Yn uniongyrchol oddi wrthych chi neu'ch cynrychiolydd wrth lenwi'r ffurflen ar-lein neu ffonio'r llinell gymorth
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â'r sefydliadau allweddol canlynol, wrth rannu'r data personol, dim ond y lleiafswm sydd ei angen mewn perthynas â'r diben y byddwn ni'n ei rannu.
Pwy
|
Diben
|
Adrannau Mewnol y Cyngor
|
Er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
|
Partïon 3ydd Parti y mae modd ymddiried ynddyn nhw
|
Rhoi cymorth lles i chi, cysylltu â Grŵp Cymunedol lleol neu gefnogi cyfleoedd gwirfoddoli.
|
Partïon 3ydd Parti y mae modd ymddiried ynddyn nhw
- Banciau Bwyd
- Age Connects Morgannwg
- Cyngor ar Bopeth
- Gwasanaethau Prawf Cymru
- Homestart
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig
- Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Asiantaeth Adfer Dibyniaeth (ARA)
|
Er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
|
Y Bwrdd Iechyd Lleol
- Gofal Sylfaenol Cwm Taf Morgannwg
|
Er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
|
Gwasanaethau brys
|
Er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
|
Proseswyr Data
Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.
Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion
- Darparwyr Systemau TG
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?
Byddwn ni ond yn cadw'ch data personol cyhyd ag y mae ei angen arnon ni at ddibenion ei brosesu, oni bai fod gennym ni reswm dilys dros ei gadw, er enghraifft os gofynnwch chi am gymorth, bydd yr wybodaeth hynny'n cael ei hychwanegu at eich cofnod gwasanaethau cymdeithasol. (System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru)
Mae cofnodion sy'n ymwneud â Diogelu Oedolion yn cael eu cadw at ddibenion gweinyddol am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.
Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw.
Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data
Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da.
Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Cymorth Ôl-ofal i Breswylwyr ac Ymateb Dyngarol yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.
E-bost: HybiauCymunedolCydnerth@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425368
Neu drwy lythyr i: Carfan Datblygu Cymuned, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, CF40 1NY
Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data
Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.
Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
- Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
- Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
- Gwefan: https://www.ico.org.uk