Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Gronfa Twf Lleol

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Gronfa Twf Lleol

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion, ac yntau'n awdurdod arweiniol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu ar gyfer dibenion bod yn awdurdod arweiniol dynodedig ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100. 

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Tai ac Adfywio:

E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk  

Rhif ffôn: 01443 281124 

Drwy'r post: Y Garfan Adfywio, Llawr 2, Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH 

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud 

Mae'r Gronfa Twf Lleol (CTLl) yn rhaglen ariannu newydd dros dair blynedd a fydd yn cyflawni nodau Cenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru ac agenda twf Llywodraeth y DU. 

Mae'r Gronfa Twf Lleol yn canolbwyntio ar dair brif flaenoriaeth:

  • Cynorthwyo busnesau cynhyrchiol a chystadleuol
  • Cynyddu sgiliau a chyflogadwyedd
  • Gwella isadeiledd rhanbarthol 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS RhCT) yw'r awdurdod arweiniol dynodedig ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru. Yn rhan o'r swydd yma, mae'r Cyngor yn derbyn ac yn gweinyddu cyllid ar ran y 10 Awdurdod Lleol yn y rhanbarth. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i femorandwm o ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn rheoli'r cyllid. Mae hyn yn cynnwys dyrannu arian, cyflawni swyddogaethau monitro ariannol a chyflawniad er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei darparu yn ôl yr angen.

Data personol pwy rydyn ni'n eu prosesu?

A ninnau'r awdurdod arweiniol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol, mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r canlynol

  • Buddiolwyr Unigol
  • Gweithwyr
  • Buddiolwyr Busnes

Y categorïau data personol rydyn ni'n eu prosesu

Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol at ddibenion y Gronfa Twf Lleol:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Dynodwyr personol megis dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol a rhif cyfeirnod y gyflogres
  • Dewis iaith
  • Rhyw'r Ymgeisydd
  • Ethnigrwydd
  • Unrhyw Anableddau
  • Gwybodaeth am Fudd-daliadau (Dogfennau'r Adran Gwaith a Phensiynau)
  • Profiad a statws gwaith, gan gynnwys nodau personol, rhwystrau at gyflogaeth, contract cyflogaeth, cofnodion Adnoddau Dynol
  • Cyraeddiadau ym maes addysg, megis mynychu hyfforddiant, tystysgrifau a chymwysterau
  • Gwybodaeth ariannol megis y gyflogres, datganiadau banc, cofnodion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Budd-daliadau
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni Personol (EPC)
  • Adroddiadau asiantau tai a syrfëwyr
  • Dogfennau Yswiriant
  • Dogfennau Cynllunio 

Efallai y byddwn ni hefyd yn prosesu'r data personol uchod lle mae'n ymwneud ag unigolion sy'n cyflawni swyddogaeth fusnes neu broffesiynol (h.y. gweithwyr, perchnogion busnes, cyfarwyddwyr, partneriaid, a masnachwyr unigol), gan gynnwys lle mae'r wybodaeth yma yn cael ei chynnwys mewn ceisiadau, contractau, gohebiaeth, neu ddogfennau ategol.

Pam rydyn ni'n prosesu'r data personol?

Rydyn ni'n prosesu data personol yn rhinwedd ein swydd yn arweinydd dynodedig ar gyfer y Gronfa Twf Lleol. Mae modd i hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol, ond nid yw wedi'i gyfyngu i hynny;

  • Gweinyddu ceisiadau a thaliadau grant.
  • Cyflawni gwiriadau monitro a chydymffurfio er mwyn sicrhau bod cyllid sydd wedi'i ddyrannu yn cael ei ddefnyddio yn unol â rhaglen y Gronfa Twf Lleol, ac yn cyrraedd ei fuddiolwyr bwriadedig.
  • Rhannu data sampl perthnasol gyda Llywodraeth Cymru er mwyn arddangos cydymffurfiaeth â gofynion y rhaglen.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol yw:

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (1)(e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Atodiad 1, Rhan 2, Deddf Diogelu Data 2018 - Statudol a Dibenion y Llywodraeth.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Deddf Lleoliaeth 2011
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru

 Gyda phwy rydyn ni'n rhannu'r data personol?

Efallai y byddwn ni'n rhannu'r data personol gyda'r sefydliadau allweddol canlynol yn ein swyddogaeth yn awdurdod lleol arweiniol dynodedig.

Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu.

 

Pwy 

Diben

Adrannau Mewnol y Cyngor 

 

  • Adran Gyllid

Cyhoeddi taliadau grant

Llywodraeth Cymru

Dibenion Monitro a Chydymffurfio

 

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol? 

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion y Gronfa Twf Lleol am:

 

Hyd

Rheswm

 

Bydd data personol yn cael eu cadw am 10 mlynedd o ddata taliad olaf y cyllid.

 

Mae'r gofyniad yma yn unol â'r hynny sydd wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru

 Yn unol â'r egwyddor storio data sydd wedi'i nodi yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol rydyn ni'n dal gafael arnyn nhw am y cyfnod cyfan. Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol. 

Eich hawliau o ran diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.

 Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Os oes gyda chi bryder ynghylch y modd mae eich data wedi cael eu defnyddio, mae gyda chi'r hawl i gysylltu â'r Cyngor i godi cwyn.

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Tai ac Adfywio yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01443 281124
  • Drwy'r post: Y Garfan Adfywio, Llawr 2, Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH 

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i gysylltu â charfan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i leisio cwyn ynghylch diogelu data

Mae gyda chi'r hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) i godi cwyn os ydych chi'n anfodlon â'r modd rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â'r SCG fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://cy.ico.org.uk/