Skip to main content

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Rydyn ni'n datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig ar hyn o bryd. 

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol yn nodi sut mae’n ceisio bodloni ei ymrwymiad i gydraddoldeb a sut y bydd yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Unodd Deddf Cydraddoldeb 2010 gyfreithiau gwrth-gwahaniaethu, a disodli'r rhai blaenorol, er mwyn creu un Ddeddf. Yna, cyflwynodd ddyletswydd gyffredinol newydd ar y Cyngor i roi sylw dyledus i'r canlynol wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau:  

  • Cael gwared â gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd o dan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol a phobl sydd ddim yn eu rhannu.
  • Hybu perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl sydd ddim yn eu rhannu.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau sy'n gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i gefnogi cyflawniad gwell o'r ddyletswydd gyffredinol. Rydyn ni'n galw'r rhain yn Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol y Sector Cyhoeddus ac maen nhw'n wahanol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.  

Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2011, yn cynnwys gofyniad i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Awdurdodau Lleol ac ysgolion) ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol bob 4 blynedd. Dylai gynnwys Amcanion Cydraddoldeb a gwybodaeth am y broses ymgysylltu a gafodd ei chynnal er mwyn nodi'r rhain.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut mae’r Cyngor wedi bodloni ei gyfrifoldebau cyfreithiol wrth ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’n cynnwys amcanion cydraddoldeb y Cyngor ar gyfer 2019-2022, sut maen nhw wedi'u nodi, yr agwedd a gafodd ei fabwysiadu o ran ymgysylltu â'r canlyniadau, ynghyd â chynllun gweithredu sy'n nodi sut bydd y Cyngor yn cyflawni'r amcanion. Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys ymrwymiad i fonitro cyflawni cynllun gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn rheolaidd.

Dyma Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2019-2022:

  • Deall anghenion ein cymunedau yn well a deall y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu i ffynnu.
  • Lleihau anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn ein cymunedau.
  • Hyrwyddo cymunedau diogel.
  • Lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
  • Creu gweithlu cynhwysol.

Mae cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu yn unol â Threfniadau Rheoli Cyflawniad y Cyngor. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro yn yr un ffordd ac ar yr un adeg â chynlluniau cyflawni’r Cyngor.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y Cynllun neu gopi o'r Cynllun mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â’r Garfan Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar 01443 444531 neu e-bostiwch cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk