Skip to main content

Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwm Taf

Yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac o ystyried gofynion Adran 58 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a'r canllawiau statudol cysylltiedig, cafodd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu sefydlu, sy'n cynnwys Cynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bwriad hyn yw craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf. Mae gan Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf 5 swyddogaeth statudol graidd.

Atgoffir aelodau'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl, bod eu swyddogaethau statudol craidd yn cynnwys: -

  • Adolygu neu graffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Bwrdd neu'r camau mae'r Bwrdd yn eu cymryd; 
  • Adolygu neu graffu ar drefniadau llywodraethu'r Bwrdd; 
  • Paratoi adroddiadau neu wneud argymhellion i'r Bwrdd ynghylch ei swyddogaethau neu'i drefniadau llywodraethu; 
  • Ystyried materion sy'n ymwneud â'r Bwrdd fel y gall Gweinidogion Cymru gyfeirio atyn nhw ac adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny; a 
  • Cyflawni swyddogaethau eraill mewn perthynas â'r Bwrdd sydd wedi'u gosod arno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Aelodau Cyngor Rhondda Cynon Taf

Cllr BevanCllr R Bevan (gadeirydd)

Cllr B StephensCllr B Stephens

Cllr sj DaviesCllr SJ Davies

Cllr D ParkinCllr D Parkin

Cllr K MorganCllr K Morgan

Aelodau Cyngor Merthyr

Cllr Lisa Mytton MerthyrCllr L Mytton (is-gadeirydd)

Cllr Claire Jones MerthyrCllr C Jones

Cllr Kevin GibbsCllr K Gibbs

Cllr John Thomas MerthyrCllr J Thomas

Yn ogystal â chyflawni ei swyddogaethau statudol, bydd aelodau'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cydweithio er mwyn rhannu'r cyfrifoldeb am wella deilliannau ar draws sefydliadau partner. Bydd hyn yn osgoi dyblygu gwaith a gwastraffu adnoddau Pwyllgorau Craffu'r cynghorau unigol. 

Trwy wneud hyn, bydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn trafod pa mor effeithiol yw'r Cynllun Lles a'r trefniadau mesur cyflawniad. Bydd hefyd yn monitro effeithiolrwydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran rhannu gwybodaeth am ei waith, ei amcanion a'i ddeilliannau i'w randdeiliaid.

Mae'r Pwyllgor yn gweithio ar sail 'pob un yn ei dro' gyda'r gwaith yn cael ei rannu rhwng CBS Rhondda Cynon Taf a CBS Merthyr Tudful. Yn ystod Blwyddyn 2022/23 y Cyngor, caiff y cyfarfodydd eu cadeirio gan y Cynghorydd R Bevan (Is-gadeirydd – Mytton) gyda threfniadau cymorth yn cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae cyfarfodydd rhithwir yn cael eu cynnal ar-lein.