Skip to main content

Rhondda Cynon Taf Council - Scrutiny Blog

Y Cynghorydd Julie Edwards - Y Pwyllgor Trosolwg A Chraffu - Blog Y Cadeirydd

Wedi ei bostio ar 04/04/23

Wrth i ni geisio ailafael â'r drefn arferol yn dilyn heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae'n bleser gen i rannu'r diweddariad yma am fy mlwyddyn gyntaf yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni wedi dal ati i herio'r Cyngor mewn modd cadarnhaol, a pharhau i fod yn ffrind beirniadol er mwyn dangos bod modd i waith craffu ychwanegu gwerth a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.

Cafodd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei ddiwygio, ac mae'r aelodaeth bellach yn cynnwys Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu eraill y Cyngor. Mae hyn o gymorth o ran llunio ein rhaglen waith, ac yn helpu i osgoi achosion o ddyblygu gwaith. Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hefyd bellach yn gyfrifol am fonitro cyflawniad ariannol y Cyngor yn rhan o'i ddull gweithredu newydd. Un o'r agweddau pwysicaf ar waith Cynghorydd, yn arbennig mewn pwyllgorau craffu, yw cyfleu'ch profiadau chi, drigolion lleol, o ran defnyddio gwasanaethau'r Cyngor - boed y rheiny'n gadarnhaol neu'n negyddol. Mae'r dull newydd yma o herio data cyflawniad bellach yn galluogi cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu i ddefnyddio'r data mewn modd mwy effeithiol, gan alluogi'r pwyllgorau i edrych yn fwy manwl ar fanylion o ran darparu gwasanaethau. Fe godon ni gwestiynau ynghylch recriwtio a chadw staff, yn enwedig ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ofyn sut mae modd rhoi rhagor o gymorth i'r staff yma sy'n gweithio dan bwysau i ofalu am ein trigolion mwyaf agored i niwed. Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed am y gwasanaethau cymorth niferus y mae modd i staff fanteisio arnyn nhw, megis "Care First", sy'n darparu cyngor a chymorth arbenigol, gan gynnwys gwasanaeth cwnsela. Braf oedd clywed am ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn staff drwy gynnig hyfforddiant parhaus ac ymrwymo i'r Polisi Cyflog Byw Gwirioneddol (Real Living Wage). Rydyn ni wedi gofyn am adroddiadau pellach gan Grŵp Llywio Recriwtio a Chadw Staff y Cyngor yn y dyfodol.

Mae ehangu'n gwaith o ran cydgysylltu wedi rhoi cyfle i gynrychiolwyr o bob Pwyllgor Craffu gyflwyno sylwadau ar Strategaeth Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24 yn ogystal ag ymateb y Cyngor i'r baich sylweddol o ran cyllid y sector cyhoeddus. Mae hyn wedi cynnwys trafod y newidiadau i wasanaethau a gynigiwyd gan y Cabinet.

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi trin a thrafod llawer o faterion pwysig a strategol, megis yr Adolygiad o Etholaethau Seneddol yn Rhondda Cynon Taf (2023). Roedden ni'n gwerthfawrogi'r her a oedd yn wynebu'r Comisiwn Etholiadol o ran gostwng nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 32, a'r effaith wirioneddol y byddai hyn yn ei chael ar gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru. Roedd yr Aelodau o'r farn y byddai ardaloedd Hendre a Felindre (Pencoed) yn cyd-fynd yn well ag etholaeth newydd Pen-y-bont ar Ogwr neu etholaeth newydd Bro Morgannwg, oherwydd bod cysylltiadau lleol gwell â'r ardaloedd yma. Roedd yr holl Aelodau'n cydnabod bod dim cyswllt cymdeithasol, diwylliannol na hanesyddol rhwng yr ardaloedd penodol yma ac etholaeth y Rhondda. Fe wnaethon ni awgrymu y dylai'r Comisiwn edrych ar etholaeth Gogledd y Rhondda, a chynnwys cymunedau megis Nantymoel a Chwm Garw yn yr etholaeth yma, gan fod gyda nhw gyswllt daearyddol gwell yn ogystal â nodweddion tebyg o ran demograffeg a diwylliant. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi cyn 1 Gorffennaf 2023

Bu cyfle hefyd i ni lunio'r strategaeth Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl Hŷn, sy'n destun rhaglen foderneiddio gynhwysfawr ar hyn o bryd. Fe wnaethon ni fanteisio ar y cyfle yma i sicrhau bod y cynigion yn darparu model gwasanaeth sy’n cynnig gwasanaethau o’r ansawdd uchaf ac sy’n diwallu anghenion ein trigolion. Roedden ni'n cydnabod yr angen am newid, a phwysigrwydd nodi'r cartrefi hynny sy'n addas at y diben yn ogystal â bod yn effro i'r awydd ymhlith trigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain. Fe wnaethon ni roi gwybod i'r Cabinet y dylai cynigion i fuddoddi ym mhob cyfleuster ddod i law cyn gynted â phosibl er mwyn gwella'r arlwy i drigolion, gyda charfanau penodol yn eu lle i reoli’r newidiadau arfaethedig. Ar y cyfan, croesawyd yr adolygiad o'r cynigion a byddwn ni'n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion wrth iddyn nhw symud ymlaen i'r cam gweithredu.

Cofiwch, dim ond blas ar ein holl waith eleni yw hyn. Bydd rhagor o wybodaeth am ein cyfarfodydd, gwaith rhag-graffu ac ymgynghoriadau i'w gweld yn Adroddiad Blynyddol 2022/23 y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Craffu'r Cyngor cyn bo hir, a bydd modd i'n holl drigolion fwrw golwg drosto. Rydyn ni'n awyddus i adeiladu ar y gwaith o gynnwys y cyhoedd yn ein trafodaethau a chasglu adborth uniongyrchol gan drigolion er mwyn llywio'n gwaith yn y dyfodol.

A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, credaf ei bod hi'n ddyletswydd arnon ni i herio'r Pwyllgor Gwaith a dwyn ei benderfyniadau i gyfrif. Rydw i'n addo y byddaf yn parhau i weithio gyda Chadeiryddion ac Is-Gadeiryddion ein Pwyllgorau Craffu i sicrhau tryloywder o ran holl brosesau gwneud penderfyniadau yn yr Awdurdod. Bydd ein cyfarfodydd Pwyllgor yn fodd o dynnu sylw at feysydd lle mae angen gwneud gwelliannau, gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosibl.

Wedi ei bostio ar 04/04/23