Wedi ei bostio ar 19/04/2023
Fi yw Cadeirydd Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant newydd y Cyngor, ac yn y blog yma, byddaf yn trin a thrafod fy mlwyddyn gyntaf yn y rôl.
Cafodd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant ei sefydlu i ddisodli'r Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc blaenorol. Roedd y pwyllgor blaenorol yn canolbwyntio ar feysydd hanfodol o ran addysg a gwasanaethau i blant, tra bod y pwyllgor newydd yn edrych ar addysg ac ysgolion, ac yn gyfrifol am graffu ar holl ddarpariaeth addysg y Cyngor ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 19 mlwydd oed. Yn ogystal â hynny, mae'r pwyllgor wedi mynd ati i fonitro gwaith Consortiwm Canolbarth y De, sy'n cyflawni agweddau ar wasanaethau gwella ysgolion. Mae'r Consortiwm wedi'i gomisiynu gan bum awdurdod lleol i ddarparu rhaglen wella ysgolion sy'n herio ysgolion i wella'u safonau, yn ogystal â'u monitro a rhoi cymorth iddyn nhw yn hyn o beth. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi craffu ar gydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg, yn ogystal â'r ddarpariaeth o ran ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Cafodd Rhaglen Sefydlu i Aelodau ei chynnal ar gyfer Aelodau newydd a'r rheiny a oedd yn dychwelyd i'r Siambr yn ystod Mai a Mehefin 2022. Nod hyn oedd ein paratoi ni ar gyfer ein pwyllgorau, ac fe gynhalion ni ein cyfarfod cyntaf ym mis Hydref 2022, yn dilyn oedi trefniadau democrataidd y Cyngor ym mis Medi 2022 oherwydd marwolaeth drist Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II. Rhoddodd y cyfarfod cyntaf gyfle i ni drin a thrafod y drafft o'r Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol, ac roedd modd i'r Aelodau nodi pynciau oedd yn cyd-fynd â Chylch Gorchwyl y pwyllgor, yn ogystal â chyflwyno diwygiadau ac ychwanegiadau.
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad pellach ynghylch rhoi'r ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ar waith yn ystod y cyfarfod yma hefyd. Yn dilyn gwaith craffu, gofynnodd yr Aelodau pe byddai modd i ddiweddariadau pellach gynnwys y canlynol; manylion am y blaenoriaethau a nodwyd, astudiaethau achos, gwaith monitro a gwerthuso o ran datblygiad yn y blynyddoedd cynnar, a'r cynllun ymgysylltu â rhieni. Cafodd y Pwyllgor ddau gyflwyniad arall gan swyddogion Consortiwm Canolbarth y De hefyd, y naill ynghylch canllawiau Llywodraeth Cymru ar y fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, a'r llall am roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith yn Ysgolion RhCT. Roedd hwn yn gyfle i'r Pwyllgor glywed tystiolaeth uniongyrchol gan Benaethiaid am eu profiadau o ran rhoi'r cwricwlwm ar waith.
Mae cyfarfodydd dilynol o'r Pwyllgor wedi rhoi cyfle i'r Aelodau graffu ar faterion megis effaith ddisgwyliedig y Cwricwlwm i Gymru ar bontio, Ysgolion Bro ac Addysg Ddewisol yn y Cartref. Yn dilyn yr adroddiad diwethaf yma, nododd y Pwyllgor ei fod yn awyddus i ailedrych ar hyn yn rhan o'i raglen waith ar gyfer blwyddyn nesaf y Cyngor. Serch hynny, roedden ni hefyd effro i'r cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n derbyn addysg gartref dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac felly o'r farn y dylai darn o waith ar wahân gael ei drafod os yw'r nifer yma'n aros yr un fath neu'n dal i gynyddu.
Ym mis Chwefror 2022, gwnaethon ni wahodd cynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De i roi cyflwyniad ar ei waith yn 2021-22, a daliodd y Pwyllgor ati i herio ei ddulliau o ddatblygu system a arweinir gan ysgolion, a sicrhau bod y gwasanaeth a gaiff ei ddarparu ar ran pum awdurdod lleol RhCT, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chaerdydd yn sicrhau gwerth am arian. Mae'r angen adolygu'r gwaith monitro cyflawniad yma'n rheolaidd er mwyn nodi ei gyfraniad at godi safonau yn ysgolion Rhondda Cynon Taf.
Yn dilyn y diweddariad yma, mae'r Pwyllgor hefyd wedi craffu ar y gwaith o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Ddisgyblion Cynradd yn Rhondda Cynon Taf, ac wedi trafod sut y mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddefnyddio i gefnogi'r cynllun. Rydyn ni wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ddata presenoldeb ysgolion ym mhob rhan o'r awdurdod lleol, ac wedi craffu ar gamau gweithredu'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles a'r Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ehangach o ran gwella lefelau presenoldeb. Rydyn ni hefyd wedi herio'r camau a nodwyd yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2023, fel sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Wrth fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf yma, mae modd i'r Pwyllgor fod yn falch o'r gwaith a gafodd ei gyflawni drwy strategaethau holi manwl. Wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn nesaf y Cyngor, mae'r Pwyllgor yn effro iawn y bydd angen i ni ddal ati i drafod meysydd pwysig fel bod modd i ni wneud argymhellion gwerthfawr a herio Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 19/04/2023