Bydd modd i chi edrych ar ganlyniadau'r Etholiadau Llywodraeth Leol ar y dudalen yma o 9.30am ddydd Gwener 6 Mai.
Dyma ble mae modd i chi weld sut mae eich pleidlais chi wedi effeithio ar fap gwleidyddol Rhondda Cynon Taf.
Bydd canlyniadau pob un o wardiau etholiadol ein Bwrdeistref Sirol yn cael eu nodi ar y dudalen yma yn syth ar ôl iddyn nhw gael eu cyhoeddi.
Bydd y broses gyfrif ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol Rhondda Cynon Taf yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Sobell, Aberdâr, Canolfan Hamdden Llantrisant, a Chanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda o 9.30am ddydd Gwener 6 Mai.
Bydd Etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol ddydd Iau 5 Mai.
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 5 Mai.
Sylwch: Edrychwch ar eich cerdyn pleidleisio'n ofalus i wneud yn siwr eich bod chi'n mynd i'r orsaf bleidleisio gywir. Does dim angen i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio i fwrw'ch pleidlais.
Os dydych chi ddim wedi dychwelyd pleidlais drwy'r post erbyn y diwrnod pleidleisio, mae modd i chi ei chyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn y Fwrdeistref Sirol hyd at ddiwedd y cyfnod bwrw pleidlais am 10pm.
Bydd holl ganlyniadau pob ward etholiadol yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn cael eu cyhoeddi ar y diwrnod ar gyfrifon Facebook a Twitter y Cyngor.