Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dewis mynd i orsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais. Os does dim modd i chi fynd i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, mae modd i chi wneud cais am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy.
Ble i fwrw pleidlais?
Cyn etholiad, byddwch chi'n derbyn eich cerdyn pleidleisio trwy'r post. Bydd y cerdyn yma'n cynnwys manylion dyddiad yr etholiad, cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio ddynodedig a'r amserau y mae ar agor, a chyfarwyddiadau ar beth i'w wneud os nad oes modd i chi ddod i'ch gorsaf bleidleisio.
Does dim rhaid i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi i'r orsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais.
Sut mae bwrw pleidlais?
Yn yr orsaf bleidleisio, byddwch chi’n cwrdd â'r Swyddog Llywyddu a Chlerc Pleidleisio.
Bydd y Clerc Pleidleisio yn gofyn i chi i ddweud eich enw a'ch cyfeiriad. Peth da fyddai mynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi i'r orsaf bleidleisio, ond fe gewch chi fwrw pleidlais hebddo fe.
O 4 Mai 2023, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau. I gael rhestr o ffurfiau derbyniol o ID ffotograffig, ac am ragor o wybodaeth, ewch i'r Dudalen i Bleidleisiwr.
Nodwch: Mae'n drosedd i roi gwybodaeth anwir. Mae'n bosibl y cewch chi'ch erlyn.
Bydd y Swyddog Llywyddu yn rhoi papur pleidleisio i chi a fydd yn nodi dros sawl ymgeisydd y cewch chi bleidleisio. Ewch â'r papur pleidleisio i fwth pleidleisio a rhoi croes ('x') yn y blwch wrth ymyl enw'r ymgeisydd neu, yn dibynnu ar yr etholiad, ymgeiswyr rydych chi eisiau pleidleisio drosto/drostyn nhw.
Peidiwch ag ysgrifennu dim byd arall ar y papur. Mae'n bosibl na fydd eich pleidlais yn cyfrif os gwnewch chi hynny. Rhowch y papur yn y blwch pleidleisio.
Peidiwch â sôn wrth neb arall am bwy rydych chi wedi pleidleisio drosto.
Caiff etholiadau eu cynnal o 7am tan 10pm ar y dyddiad penodol.
Os nad ydych chi'n siwr ble mae'ch gorsaf bleidleisio, defnyddiwch ein adnodd gorsafoedd pleidleisio neu ffoniwch Wasanaethau Etholiadau y Cyngor ar 01443 490100.