Os does dim modd i chi gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, mae modd i chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Rhywun sy'n pleidleisio ar eich rhan chi ydy pleidlais trwy ddirprwy.
Os ydych chi eisiau penodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan chi rhaid iddo fodloni’r meini prawf canlynol:-
- bod yn barod i bleidleisio ar eich rhan chi
- yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad arbennig hwnnw
Bydd eisiau ichi nodi enw a chyfeiriad eich dirprwy ynghyd â natur eich perthynas (os o gwbl) â'r unigolyn ar y ceislen. Chaiff dirprwy ddim pleidleisio yn yr un etholiad ar ran mwy na 2 o bobl oni bai eu bod nhw’n berthnasau agos (h.y. priod, rhiant, mam-gu neu dad-cu, plentyn, brawd, chwaer, nith neu nai).
Bydd modd i'ch dirprwy bleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio a benodwyd i chi yn unig.
Rhaid i Swyddog Cofrestru Etholiadol dderbyn eich ceislen erbyn 5.00pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Dydy diwrnodau gwaith ddim yn cynnwys penwythnosau, Gŵyl y Banc, Dydd Gwener y Groglith, Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig. Mae hyn yn golygu bod yr amserlen yn dynn o ran anfon eich ffurflen aton ni ar ôl i’r etholiad gael ei gyhoeddi. Rhaid ichi lenwi’ch ffurflen â’i hanfon yn ôl aton ni cyn gynted ag y bo modd.
Beth fydd rhaid i mi ei wneud nesaf?
Gofalwch eich bod chi wedi llofnodi’r ffurflen a nodi’r dyddiad. Os ydych chi’n gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy ar gyfer pob etholiad yn y dyfodol, dylech chi ofalu bod rhywun arall wedi llofno Postiwch y ffurflen at Swyddog yr Etholiad yn y cyfeiriad isod neu alw heibio i’r swyddfa.
Os caiff eich cais am bleidlais drwy ddirprwy ei dderbyn, bydd eich dirprwy yn cael "papur dirprwy" sy'n cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol i bleidleisio ar eich rhan.
di’r ffurflen yn yr adran berthnasol.
Swyddog Cofrestru Etholiadol
10-12 Heol Gelliwastad
Pontypridd
CF37 2BW
Gwifren Gymorth Gwasanaethau Etholiadol: 01443 490100