Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am yr etholiadau a'r is-etholiadau a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos. Yma hefyd, cewch chi fanylion ynglŷn â'r etholiad dan sylw a ble mae'r gorsafoedd pleidleisio.
Heb ddod o hyd i'r Hysbysiad cywir, ond rydych chi'n gwybod bod etholiad ar y gweill?
Mae i bob etholiad ei amserlenni statudol. Mae'n bosibl nad yw'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani wedi'i rhyddhau eto. Trowch i dudalen Hysbysiad o Etholiad, a fydd o bosibl yn cynnwys yr wybodaeth rydych chi'i heisiau.