Haen caramel wedi'i halltu
1 pwys o flawd
4 owns o geirch mawr
2 owns o almonau wedi'u sleisio
8 owns o fenyn caramel wedi'i halltu
4 owns o siwgr brown meddal (cymysgwch hyn gyda'r sinamon)
Pinsiad o sinamon
Rhwbiwch y menyn a'r blawd at ei gilydd i ffurfio cymysgedd fel tywod, yna ychwanegwch y siwgr / sinamon, ceirch ac almonau.
Pobwch ar dymheredd o 200°C nes bod y cynhwysion yn frown ac yn euraid. Cadwch lygad ar y cymysgedd a'i droi i wneud yn siŵr ei fod wedi'i goginio'n llwyr a'i fod yn grensiog. Gadewch iddo oeri.
Cymysgedd Afal
2 Afal coginio Bramley
1 afal Braeburn
Pliciwch a thorrwch yr afalau (cadwch y rhain mewn dŵr asidiedig i'w hatal rhag mynd yn frown)
Toddwch 2 owns o fenyn ac ychwanegwch yr afalau a'u coginio nes eu bod yn feddal. Ar ôl eu coginio, gadewch iddyn nhw oeri.
Hufen Fanila
1 owns o siwgr eisin
Diferyn o rin fanila
Peint o hufen dwbl trwchus wedi'i chwipio
Dull
Chwipiwch yr hufen gyda'r fanila a'r siwgr nes ei fod yn drwchus
Gosodwch y cymysgedd afal ar waelod gwydr a rhowch y cymysgedd caramel a'r hufen fanila ar ei ben, mewn haenau