Cynhwysion
4 ffiled cyw iâr (wedi'u deisio)
4 cenhinen (maint canolig), wedi'u golchi a'u tocio
4 sleisen o facwn wedi'i fygu (tynnwch y braster)
1 llwy de o fwstard grawn cyflawn
2 sialót
½ peint o hufen dwbl
2 owns o fenyn
2 lwy fwrdd o win gwyn
2 lwy fwrdd o grefi cyw iâr
Pupur du wedi'i falu
Halen
4 llwy de o berlysiau ffres wedi'u torri (gorthyfail (chervil), persli, taragon)
Dull
Rhowch halen a phupur ar y cyw iâr a dechreuwch ei frownio mewn padell wedi'i chynhesu. Coginiwch am tua 10 munud nes bod y sudd yn glir. Griliwch y bacwn a'i dorri'n stribedi. Mewn padell ar wahân, toddwch fenyn (neu 'spread' braster isel) ac ychwanegwch y sialóts i'w meddalu. Ychwanegwch y cennin a'u coginio nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch win gwyn a mwstard a chynheswch y cymysgedd i dewhau'r saws. Ychwanegwch y cyw iâr, y grefi a'r hufen dwbl a chynheswch y cymysgedd i dewhau'r saws. Ychwanegwch y stribedi o facwn a'r perlysiau wedi'u torri. Ychwanegwch halen a phupur os oes eu hangen - ond peidiwch ag ychwanegu gormod o halen oherwydd bod y bacwn yn hallt. Gweinwch y cyw iâr, y cennin a'r bacwn gyda phasta.