Cynhwysion, digon i 4 person
-
2 lwy fwrdd o olew olewydd
-
Hanner winwnsyn mawr, wedi'i dorri'n fras
-
Hanner aubergine
-
1 ewin garlleg wedi'i dorri'n ddarnau bychain
-
Llond llaw o ddail sbigoglys
-
100g o bupurau wedi'u deisio
-
2 lwy fwrdd o gymysgedd sbeislyd
-
Hanner tun 400g o domatos wedi'u torri
-
200g o bys llygod, wedi'u rinsio a'u draenio
-
50g o fricyll / datys / syltanas / llugaeron wedi'u sychu
-
600ml o stoc llysiau
2 lond llaw mawr o goriander, wedi'i dorri'n fras
Dull
-
Cynheswch yr olew mewn padell nad yw'n glynu ac ychwanegwch y garlleg, y winwnsyn a'r pupurau a'u coginio am 1 neu 2 funud nes eu bod yn feddal. Yna, ychwanegwch yr aubergine a'i goginio am ychydig funudau pellach. Ychwanegwch y sbeisys a'r tomatos, a rhowch ychydig o halen a phupur. Ychwanegwch y pys llygod a'r bricyll. Arllwyswch y stoc dros y cyfan. Trowch y cymysgedd a'i fudferwi, ac yna ychwanegwch y sbigoglys. Gorchuddiwch y badell a mudferwch y cymysgedd nes bod popeth yn feddal. Cyn gweini, ychwanegwch goriander.
Past Sbeisys Gogledd Affrica
-
1 llwy de o bowdr paprika melys
-
1 llwy de o garam masala
-
1 llwy de o gwmin wedi'i falu
-
1 llwy de o hadau cwmin wedi'u rhostio
-
1 pinsiad o sinamon
-
1 llwy de o goriander wedi'i falu
-
1 llwy de o bast/powdr tsili
-
1 llwy fwrdd o fêl
-
Diferyn o olew llysiau
-
4 ewin garlleg wedi'u torri'n ddarnau bychain
Cynheswch yr olew mewn sosban ac ychwanegwch y garlleg. Ychwanegwch weddill y cynhwysion ac ychydig o ddŵr (tua 3 llwy fwrdd), trowch y cymysgedd a'i goginio am 15 munud ar wres isel (peidiwch â gadael i'r cymysgedd losgi)