Skip to main content

Bhuna Gwreiddlysiau wedi'u Rhostio

 

Cynhwysion

3 llwy fwrdd o olew llysiau

4 ewin garlleg wedi'u malu

Darn 2 fodfedd o sinsir wedi'i gratio

2 daten fawr, wedi'u torri'n ddarnau un fodfedd a'u rhostio

Hanner blodfresych (maint canolig), wedi'i dorri'n flodau tua'r un maint â'r tatws a'u lledferwi

2 foronen, wedi'u torri'n ddarnau un fodfedd a'u rhostio

2 banasen wedi'u torri'n ddarnau un fodfedd a'u rhostio

2 winwnsyn bach wedi'u chwarteri a'u rhostio

Hanner jar o bast cyri

1 tun o domatos wedi'u torri'n fân

2 lwy de o tsili wedi'i falu

Coriander ffres

Halen i'ch blas chi

Dull

  1. Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew mewn padell fawr a choginiwch y garlleg a'r sinsir nes eu bod yn feddwl, gan eu troi'n aml

  2. Ychwanegwch y past cyri a'i goginio am ychydig funudau dros wres cymedrol

  3. Ychwanegwch y tomatos a llenwch hanner y tun gwag â dŵr ac ychwanegwch hwnnw

  4. Ychwanegwch y moron, y panas, y winwns, y blodfresych a'r tatws, yr halen a'r tsili

  5. Coginiwch am 5 munud dros wres isel

  6. Ychwanegwch goriander ffres wedi'i dorri a gweinwch y Bhuna â reis pilau gyda chnau cashiw