Noddwyr achlysur Nos Galan 2022
Cadwch lygad barcud am newyddion am noddwyr Nos Galan 2023 – mae eu cefnogaeth yn golygu bod modd i ni barhau i gynnal yr achlysur anhygoel yma yn Aberpennar.
Diolch i gwmnïau lleol, gan gynnwys y rhai a gefnogodd yr achlysur yn ystod COVID-19, pan oedd yn rhaid ei gynnal yn rhithwir am ddwy flynedd, mae Rasys Nos Galan yn llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae eu cefnogaeth yn golygu bod modd i ni groesawu miloedd o bobl i Aberpennar ar Nos Galan i fwynhau noson fythgofiadwy sy’n cynnwys ras elît, ras hwyl a ras i blant fythgofiadwy – yn ogystal â rhedwr dirgel enwog, tân gwyllt, hwyl i deuluoedd a llawer yn rhagor.
Wrth gwrs, canolbwynt y dathliadau yw Guto Nyth Brân, y chwedl. Credwyd, ar un adeg, mai fe oedd dyn cyflymaf y byd a allai redeg yn gynt nag ysgyfarnog a'i dal gyda'i ddwylo ei hun. Mae Rasys Nos Galan yn cael ei gynnal i anrhydeddu Guto, sydd wedi'i gladdu yn Eglwys Sant Gwynno yng nghoedwig Llanwynno.
Mae 4 cwmni wedi noddi Rasys Nos Galan ar gyfer 2022. Bydd modd gweld logo’r cwmnïau yma ar gynnyrch y ras, gan gynnwys rhaglen yr achlysur.
Dyma nhw:
- Prichard’s
- Amgen
- Trivallis
Cafodd cwmni Prichard's, sydd â'i swyddfeydd yn Llantrisant, ei sefydlu ym 1995 fel cwmni llogi peiriannau, ond mae bellach wedi datblygu i fod yn un o wasanaethau cymorth adeiladwaith a dymchwel mwyaf y DU. Mae'r cwmni wedi aros yn driw i'w wreiddiau ac wedi noddi Rasys Nos Galan flwyddyn ar ôl blwyddyn i ddangos ei gefnogaeth a'i werthfawrogiad i'w gymunedau.
Mae Amgen Cymru yn bartner allweddol yn rhan o ymdrech Cyngor Rhondda Cynon Taf i frwydro yn erbyn gwastraff ac o ran sicrhau cynaliadwyedd. Yn ogystal â darparu cymorth mewn perthynas â gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu, mae'n cynnal safle mawr Bryn Pica, ger Aberdâr, lle caiff gwastraff ei ddosbarthu a lle caiff unrhyw beth y mae modd ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio ei ddosbarthu. Mae'r ganolfan hefyd yn chwarae rhan allweddol drwy ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o drigolion "gwyrdd" yn y ganolfan addysg. Mae modd i ysgolion neu grwpiau ymweld â'r ganolfan.
Trivallis, sydd â'i swyddfeydd ym Mhontypridd, yw un o'r landlordiaid cymdeithasol mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu cartrefi i ddegau ar filoedd o bobl ledled Rhondda Cynon Taf. Mae Trivallis wedi ennill ystod o wobrau ac wedi derbyn cydnabyddiaeth eang am ei waith, nid yn unig am ddarparu cartrefi diogel, modern ac effeithlon, ond hefyd am ei ymdrechion i ailadeiladu ac ailfywiogi cymunedau.
Hoffech chi ddod yn un o noddwyr rasys nos galan? Mae amryw becynnau noddi ar gael, ar sail y cyntaf i'r felin, ar gyfer cyllidebau gwahanol. Hoffech chi gael gwybodaeth bellach? Croeso i chi alw carfan achlysuron y cyngor ar 01443 424123