Skip to main content

Budd-daliadau i Gymuned y Lluoedd Arfog

Gweld yr ystod o fudd-daliadau sydd ar gael i Gymuned y Lluoedd Arfog:

Chynllun Pensiwn Rhyfel

Mae’r Cynllun Pensiwn Rhyfel (WPS) yn digolledu cyn-filwyr am anafiadau, salwch neu farwolaeth a achoswyd gan wasanaeth cyn 6 Ebrill 2005. Mae dau brif fath o Gynllun Pensiwn Rhyfel:

Arian rhodd: Cyfandaliad ar gyfer anabledd llai nag 20%.

Pensiwn: Taliadau wythnosol neu fisol parhaus ar gyfer anabledd mwy nag 20%.

Mae rheolau a gwerthoedd talu'r cynllun yn cael eu pennu gan y Senedd ac yn cynyddu'n flynyddol gyda'r mynegai prisiau defnyddwyr. Os yw eich cyflwr yn Golled Clyw Synhwyraidd a Achosir gan Sŵn gyda llai nag 20% o anabledd, fyddwch chi ddim yn derbyn unrhyw bensiwn na chyfandaliad. Does dim terfynau amser ar gyfer hawliadau, ond mae dyfarniadau'n dechrau o'r dyddiad hawlio.

I wneud cais am ffurflen bapur ar gyfer y Cynllun Pensiwn Rhyfel (WPS), mae modd cysylltu â Veterans UK drwy'r llinell gymorth neu dros e-bost. Dyma'r manylion:

Ffôn: 0808 191 4218

E-bost: veterans-uk@mod.uk

Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Mae Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS) yn gwneud iawn am unrhyw anaf, salwch neu farwolaeth a achosir gan wasanaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2005. Mae'n darparu dau brif fath o ddyfarniad:

Cyfandaliad di-dreth am boen a dioddefaint.

Taliad Incwm Gwarantedig (GIP) - taliad misol di-dreth, mynegrifol.

Mae'r cynllun yma ar wahân i yswiriant damweiniau personol arall a'i nod yw darparu iawndal waeth beth fo'r bai. Os nad ydych chi'n gwasanaethu mwyach a bod eich anabledd yn ganlyniad i wasanaeth cyn Ebrill 2005, mae modd gwneud cais o dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel (WPS).

I gysylltu â Chynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (AFCS), mae modd cysylltu â Veterans UK gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 0808 191 4218

Cyfeiriad: Veterans UK, Ministry of Defence, Norcross, Thornton Cleveleys, FY5 3WP

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal lles yn y Deyrnas Unedig sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo oedolion o oedran gweithio gyda’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â byw gyda chyflwr iechyd neu anabledd. Mae'n darparu cymorth ar gyfer anghenion byw bob dydd a gofynion symudedd. Dydy PIP ddim yn destun prawf modd ac mae modd ei dderbyn tra’n gweithio ac allan o waith.

Cyswllt ar gyfer Hawliadau PIP:

Ffôn: 0800 917 2222

Ffôn destun: 0800 917 7777

Oriau agor: Llun-Gwener, 8am-5pm.

Lwfans Gweini

Mae Lwfans Gweini yn fudd-dal i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd ag anghenion gofal personol. Gallai hyn gynnwys cymorth gyda thasgau fel gwisgo, ymolchi neu fwyta. I fod yn gymwys, rhaid bod angen cymorth rheolaidd arnoch chi trwy gydol y dydd, y nos, neu'r ddau. Mae modd defnyddio Lwfans Gweini i dalu costau amrywiol sy'n gysylltiedig â'ch gofal.

Mae modd cysylltu â llinell gymorth y Lwfans Gweini gan ddefnyddio'r manylion canlynol:

Ffôn: 0800 731 0122

Neges testun: 0800 731 0317

Grantiau'r Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn darparu cymorth ariannol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy grantiau amrywiol:

Grantiau Anghenion Uniongyrchol: Mae'r rhain yn helpu unigolion sy'n wynebu argyfyngau trwy ddarparu cymorth mewn argyfwng.

Cymhorthion Symudedd ac Offer: Cyllid ar gyfer addasiadau cartref neu offer newydd i wella symudedd.

Cyllid i Astudio Dramor: Gall ôl-raddedigion astudio yn Ne Korea gyda chyllid y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Grantiau Allanol: Cefnogaeth i sefydliadau dielw sydd o fudd i gymuned y Lluoedd Arfog.

Cronfeydd Meddygol i Gyn-filwyr: Cymorth i gyn-filwyr sydd wedi colli eu clyw ac sydd wedi dioddef anaf corfforol difrifol.

Grantiau Costau Byw: Ar gael ar gyfer treuliau sydyn nad ydych chi'n gallu eu fforddio.

I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalen Grantiau’r Lleng Brydeinig Frenhinol: Grantiau | Cymorth Ariannol | Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Cerdyn Gostyngiad y Gwasanaethau Amddiffyn

Mae Gostyngiad y Gwasanaethau Amddiffyn yn darparu gostyngiadau ar-lein ac ar y stryd fawr i aelodau’r Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr, a Chymuned y Lluoedd Arfog. Mae modd cofrestru i gael y Cerdyn Braint Amddiffyn, sy'n eich galluogi i gael gostyngiadau milwrol mewn siopau, bwytai a lleoliadau ar draws y DU sy'n cymryd rhan.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Gostyngiad y Gwasanaethau Amddiffyn: Gostyngiad y Gwasanaethau Amddiffyn

Cerdyn Gostyngiad Golau Glas

Mae’r Cerdyn Golau Glas yn wasanaeth gostyngiadau sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn ein gwasanaethau brys, y GIG, y sector gofal cymdeithasol, a’r lluoedd arfog. Mae modd defnyddio'r cerdyn gostyngiadau yma gan filoedd o wahanol fanwerthwyr ledled y DU, yn y siop ac ar-lein.

Mae modd cofrestru ar gyfer y Cerdyn Golau Glas am £4.99 yn unig a chael mynediad at filoedd o ostyngiadau ar-lein ac ar y stryd fawr, gan gynnwys ffasiwn, technoleg, teithio a rhagor.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Blue Light Card: https://www.bluelightcard.co.uk/

Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwr

Mae Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr yn gerdyn gostyngiad sy'n caniatáu i Gyn-filwyr a Morwyr Masnachol y DU gael traean oddi ar bris tocynnau Safonol a Dosbarth Cyntaf ar gyfer teithio ar drenau National Rail yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae hefyd yn darparu 60% oddi ar docynnau plant.

Mae modd prynu neu adnewyddu Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr ar-lein a sicrhau ei fod ar gael ar eich ffôn neu waled er mwyn cael mynediad hawdd iddo yn ystod eich teithiau.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr: Gostyngiad Rheilffyrdd i Gyn-filwyr | Cerdyn Rheilffordd | National Rail - Cerdyn Rheilffordd Cyn-filwyr (veterans-railcard.co.uk)

Nofio am Ddim i Gyn-filwyr

Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cynllun Nofio Am Ddim y Lluoedd Arfog yn parhau. Mae’r fenter yma'n caniatáu i aelodau presennol y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru nofio am ddim mewn canolfannau hamdden a phyllau sy’n cymryd rhan, gan ddefnyddio eu Cerdyn Braint Amddiffyn. Nod y cynllun yw hybu lles corfforol a meddyliol ymhlith cymuned y Lluoedd Arfog.

Am ragor o fanylion, ewch i: Iechyd a lles | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Defnydd am ddim o Ganolfannau Hamdden y Cyngor

Gall y rhai sy'n gwasanaethu a milwyr wrth gefn yn Rhondda Cynon Taf elwa ar fynediad am ddim i gyfleusterau hamdden drwy Aelodaeth Hamdden am Oes. Mae'r aelodaeth yma'n darparu mynediad hollgynhwysol ar draws 10 canolfan, gan gynnwys defnydd am ddim o ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio, a chyfleusterau chwaraeon penodol.

Am ragor o fanylion, ewch i: Canolfannau Hamdden yn RhCT, Rhondda Cynon Taf - Hamdden am Oes (rctcbc.gov.uk)

Ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynllun i hepgor ffioedd claddu ac amlosgi cyn-filwyr a milwyr. Nod y fenter yma yw cynorthwyo teuluoedd y rhai sydd wedi gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog. Credir mai dyma'r tro cyntaf i gynllun o'r fath gael ei ystyried yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â hynny, mae'r Gwasanaethau Profedigaeth yn cydnabod rôl cyn-filwyr a milwyr presennol gan gynnig gostyngiad ar ffioedd ein gwasanaethau claddu ac amlosgi pan dderbyniwn yr wybodaeth yma.

I wneud cais am y cynllun, rhowch wybod i'r trefnydd angladdau o'ch dewis fod eich anwylyd yn gyn-filwr a bydd y trefnydd yn mynd i'r afael â'r cynlluniau.