Skip to main content

Iechyd a Lles

Manteisiwch ar ganolfannau hamdden modern y Cyngor neu fynnu cymorth arbenigol ar faterion iechyd y corff neu’r meddwl.

Canolfannau Hamdden

Mae modd i gyn-aelodau'r lluoedd arfog sy'n byw yn RhCT fwynhau sesiynau nofio a dosbarthiadau campau dŵr am ddim, yn ogystal â manteisio i'r eithaf ar ein holl arlwy hamdden am bris gostyngol iddyn nhw a'u teuluoedd.

Bydd hawl gan gyn-filwyr sy'n rhan o Gynllun Gostyngiadau'r Lluoedd Arfog i gymryd rhan mewn sesiynau nofio a dosbarthiadau campau dŵr (gan gynnwys Aerobeg Dŵr a gwersi nofio) am ddim ym mhob un o Ganolfannau Hamdden a Phyllau Nofio Cyngor Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â hynny, bydd modd iddyn nhw fanteisio ar Aelodaeth Hamdden am Oes Gorfforaethol am £28.50 y mis. Mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw a'u teulu wneud cymaint o ddefnydd ag y mynnent o'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd, cyfleusterau chwaraeon dan do a'r pwll nofio.

Yn ogystal â'r manteision uchod, mae modd i aelodau cyfredol o'r lluoedd arfog hefyd fwynhau Aelodaeth Hamdden am Oes flynyddol am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/hamdden
neu ymweld â'ch canolfan hamdden leol.

STARS

Caiff pobl sydd â phroblemau ynglŷn â chyflwr eu corff neu’u meddwl eu cyfeirio at gynllun STARS i fanteisio ar sesiynau hamdden, gan gynnwys ystafelloedd iechyd, am gyn lleied â £1.
I gael rhagor o fanylion, mynnwch air â’ch meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd meddwl.
Ffôn: 01443 425003
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Iechyd y Meddwl

Anferth ydy’r ystod o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i chi, beth bynnag yw hanes eich bywyd. Mae’r Cyngor, Bwrdd Iechyd Cwm Taf a’r sector gwirfoddol, gan gynnwys Y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal gwasanaeth eithriadol. Mae hynny’n cynnwys seicolegwyr arbenigol a chylchoedd yn y gymuned. Mae llawer o’r bobl sy’n rhoi’u cymorth wedi bod yn filwyr.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’ch meddyg neu Ffôn: 01443 425003
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Anableddau Corfforol

Cymorth gartref, gan gynnwys: gwaith addasu, cymhorthion ar gyfer byw’ch bywyd, gofal seibiant, cymorth gyda thasgau bob dydd, cludiant arbenigol, canolfannau oriau dydd, a chartrefi sy’n eich paratoi i fyw bywyd annibynnol.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r Adran Anableddau ar ein gwefan neu Ffôn: 01443 425003
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Gofal Canolradd ac Adsefydlu/Adfer

Mae modd i’r Garfan roi cymorth ichi sefyll ar eich traed ar ôl salwch neu anaf. Bydd y gweithwyr yn gosod targedau ar eich cyfer, o gerdded i’r siopau i grwydro’r eiliau – gan gynnwys defnyddio amryw therapïau yn gymorth.
I gael rhagor o fanylion: Ffôn: 01443 425003
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Camddefnyddio sylweddau

Mae’r Un Pwynt Mynediad i Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol (DASPRA) newydd yn darparu’r cymorth mae’i angen arnoch chi yn gyflym ac yn gyfrinachol.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r Adran Camddefnyddio Sylweddau ar ein gwefan neu 
Ffôn: 0300 333 0000

Cynhalwyr (Gofalwyr)

Mae miloedd o bobl, gan gynnwys plant a phensiynwyr yn rhoi o’u hamser i roi gofal i anwylyd sy’n sâl, yn anabl neu sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar gynhalwyr, ac mae cymorth a chefnogaeth helaeth ar gael yn ogystal â chefnogaeth benodol ar gyfer cynhalwyr ifainc.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r Adran Cynhalwyr (Gofalwyr) ar ein gwefan neu
Ffôn: 01443 425003

Trais yn y Cartref

Mae pobl o bob oedran yn cael eu heffeithio. Mae Canolfan Oasis, Pontypridd, yn cynnig y cyfan o’r gwasanaethau dan un to, felly mae modd i chi alw heibio am gymorth.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r Adran Cam-drin ar ein gwefan neu Ffôn: 0808 80 10 800

Gwasanaethau ar gyfer y Synhwyrau

Mae carfan o arbenigwyr yn rhoi cymorth i bobl sy’n ddall, yn rhannol ddall neu sy’n fyddar er mwyn iddyn nhw gadw eu hannibyniaeth a manteisio ar yr offer a chyfarpar sy’n gymorth.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r Adran Cynhalwyr ar ein gwefan neu 
Ffôn: 01443 425003