Mae'r bwyd rydyn ni'n dewis ei fwyta yn cael effaith fawr ar ein hôl troed carbon. Mae gan gig, yn enwedig cig eidion a chig oen, ôl troed carbon uwch oherwydd y tir, y dŵr, a'r ynni sy'n cael eu defnyddio i fwydo a magu anifeiliaid, yn ogystal â'r allyriadau sy'n cael eu cynhyrchu gan yr anifeiliaid eu hunain (ie, gwartheg yn torri gwynt!). Yn ôl y GIG, mae manteision iechyd hefyd i leihau faint o gig coch rydyn ni'n ei fwyta, gan gynnwys lleihau'r risg o rai mathau o ganser.
Y newyddion da yw ein bod ni'n cael cyfle yn rheolaidd i wneud gwahaniaeth trwy'n dewisiadau ni. Hyd yn oed os byddwn ni'n lleihau ychydig bach ar faint o gig a chynnyrch llaeth rydyn ni'n ei fwyta a'i yfed, mae modd i hynny wneud gwahaniaeth mawr a gwella ein diet. Felly gallwn ni barhau i fwynhau prydau sy'n fforddiadwy, cynaliadwy a blasus.
Storio Craff
Wrth storio bwyd yn gywir a rhewi bwyd dros ben, byddwch chi'n gwastraffu llai ac yn arbed arian trwy wneud i'ch cynhwysion bara'n hirach a blasu'n well. Beth am rewi eich bwyd blasus fel bod pryd wrth gefn gyda chi ar gyfer diwrnod glawog, neu beth am fynd ag ef i'r gwaith gyda chi?
A ydych chi wedi eich drysu gan y gwahaniaeth rhwng dyddiadau “ar ei orau cyn” a “defnyddiwch erbyn”? Mae bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad “ar ei orau cyn” neu “arddangos tan” yn dal yn berffaith dda i'w fwyta os yw'n edrych ac yn arogli fel y dylai. Fodd bynnag, ddylech chi ddim bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad “defnyddiwch erbyn”. Am fwy o haciau bwyd ewch i Caru Bwyd Casineb Gwastraff.
Pŵer Planhigion Tymhorol
Mae llawer o ddewisiadau bwyd sy'n well i'r amgylchedd hefyd yn well yn ariannol, fel defnyddio cynhwysion lleol a thymhorol.
Hyd yn oed os dydych chi ddim yn prynu'n lleol drwy'r amser, wrth ddewis prynu bwydydd tymhorol a lleol, mae modd i chi wneud gwahaniaeth amgylcheddol cadarnhaol ac fel arfer, mae'r cynnyrch yma'n costio llai o arian.
Bwydo ar y Fron
Ers tro bellach rydyn ni'n effro i'r manteision iechyd sy'n gysylltiedig â bwydo babanod ar y fron - a hynny i'r babi ac i'r fam. Serch hynny dydy'r manteision amgylcheddol ddim mor hysbys. Mae bwydo ar y fron yn arbed llawer iawn o ddŵr, ynni a gwastraff o’i gymharu â llaeth fformiwla. Mae ymchwil yn awgrymu y byddai'r carbon a fyddai'n cael ei arbed o roi cymorth i famau yn y DU i fwydo ar y fron, cyfwerth â thynnu 50,000 o geir oddi ar y ffordd.
Os ydych chi'n meddwl am fwydo ar y fron neu os ydych chi'n bwydo ar y fron ar hyn o bryd, mae grŵp cymorth ar-lein trwy Facebook: Rhwydwaith Bwydo ar y Fron Cwm Taf. Mae modd i chi siarad hefyd â'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd sy'n gallu cynnig cymorth bwydo ar y fron.
Meddwl am yr Hyn Rydych Chi'n ei Fwyta
Mae modd i bob un ohonon ni helpu i wella'r ffordd y mae bwyd yn cael ei wneud a’i werthu drwy bleidleisio gyda’n harian i godi safonau, torri carbon, a chefnogi cynhyrchwyr lleol.
Wrth siopa, cadwch olwg am fwydydd sydd wedi'u marcio â 'Rainforest Alliance certified' neu sydd â marc 'Masnach Deg' neu 'MSC' ar eu pecyn. Mae'r ardystiadau hyn yn dangos bod cynhyrchion wedi'u hasesu'n annibynnol i fodloni rhai safonau cynhyrchu moesegol a chynaliadwy.
Rhoi’r Hyn Sydd Dros Ben i Eraill
Mae modd i chi roi bwyd o safon dydych chi ddim ei eisiau mwyach i fanc bwyd. Mae hyn yn atal bwyd sy'n berffaith dda i'w fwyta rhag mynd yn wastraff drwy ei ailddosbarthu i helpu pobl eraill yn Rhondda Cynon Taf.
Cyfrannwch yn uniongyrchol i'ch banc bwyd, mannau casglu yn yr archfarchnad neu drwy gynnal casgliad yn eich ysgol, eglwys neu swyddfa. I ddod o hyd i'ch banc bwyd agosaf ewch i The Trussell Trust - Stop UK Hunger.
Bwyta Llai o Gig Gwell
Byddai iechyd cyffredinol ein poblogaeth ni ac iechyd y blaned yn gwella pe baen ni'n bwyta diet cytbwys yn unol â'r Canllawiau Bwyta'n Iach a argymhellir gan y GIG.
Mae diet sy'n dda i ni yn tueddu i fod yn well i'r blaned hefyd. I lawer o bobl, mae hyn yn golygu bwyta mwy o blanhigion a llai o gig neu fwyta cig o ansawdd gwell. I gael rhagor o wybodaeth am ddiet sy'n fwy iach i chi'ch hun a'r blaned, edrychwch ar Food for the Planet.