Mae newid yn yr hinsawdd wrth wraidd holl waith Rhondda Cynon Taf
Rydyn ni eisiau gwneud ein rhan i amddiffyn y blaned a'n Bwrdeistref Sirol rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd, heddiw ac yn y dyfodol.
Ein nod yw bod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030. Rydyn ni hefyd am sicrhau fod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny.
Er mwyn cyflawni hynny, byddwn ni'n cydweithio'n agos â'n trigolion, cymunedau a phartneriaid i rannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd fel ein bod yn mynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd gyda'n gilydd.
Rydyn ni eisoes yn gweithio tuag at RhCT gwyrddach.
Dyma rai enghreifftiau:
- Prynu 100% o'n cyflenwad ynni trydanol gan ffynonellau ynni adnewyddadwy.
- Newid pob golau stryd yn RhCT (maeoddeutu 29,700 ohonyn nhw) i LED neu gyfwerth sydd wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio ers 2015/16.
- Gosod 105 casgliad o baneli solar ar gyfer ysgolion ac adeiladau corfforaethol.
- Gosod 21 o gelloedd Tanwydd Hydrogen mewn canolfannau hamdden, ysgolion a swyddfeydd.
Dyma enghreifftiau pellach o'n gwaith i sicrhau RhCT gwyrddach:
Mae angen inni i gyd wneud mwy a chymryd camau bach sy'n arwain at newid mawr. Gall y camau bach yma gynnwys:
- Defnyddio llai o’n ceir a cherdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy aml.
- Siopa'n lleol a defnyddio llai o blastig un defnydd a phrynu llai o gynnyrch 'ffasiwn cyflym'.
- Defnyddio llai o ynni yn ein cartrefi ac yn y gwaith.
- Sicrhau bod ein cartrefi yn defnyddio ynni’n effeithlon trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy pan fo'n bosib.
- Edrych ar ôl ein hamgylchedd naturiol.
- Bwyta mwy o brydau llysieuol.
-
Mae pobl a chymunedau'n gwneud gwaith gwych ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynwys ailddefnyddio ac ailgylchu; tyfu a rhannu ffrwythau a llysiau ffres a phlannu planhigion sy'n addas i wenyn. Ond os ydyn ni am wneud gwahaniaeth mawr bydd rhaid inni i gyd wneud mwy ac mae penderfyniadau anodd o'n blaenau ni.
Gallwch chi weld rhagor am;
- Waith Grŵp Llywio'r Cabinet - Newid yn yr Hinsawdd gan gynnwys ein cynlluniau ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydanol.
- Ein cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys sut rydyn ni'n byw, gweithio a theithio yn nrafft ein Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a'n Fideo Newid yn yr Hinsawdd.
-
Plannu Coed RhCT: E-bostiwch coed@rctcbc.gov.uk neu rhandiroedd@rctcbc.gov.uk i gymryd rhan.
- Ddod o hyd i faint ôl troed carbon y Cyngor.
- Yr hyn mae pobl eisoes wedi dweud wrthon ni a gwahoddiad i ymuno â'r drafodaeth newid yn yr hinsawdd, yn ‘Dewch i Siarad - Newid yn yr Hinsawdd’.
- Cysylltwch â ni trwy e-bostio: NewidHinsawdd@rctcbc.gov.uk