Skip to main content

Syniadau Cyfeillgar i'r Hinsawdd o ran Garddio a Thyfu

Mae mwy ohonon ni nag erioed yn symud i ardaloedd trefol gan roi llawer o bwysau ar ein mannau gwyrdd sy'n hanfodol ar gyfer cynnal bywyd gwyllt. Gall amharu ar fannau gwyrdd neu ddifrodi mannau gwrdd lleol atal bywyd gwyllt rhag amsugno carbon yn effeithiol, gan wneud ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn anoddach fyth.

Rhoi Cynnig ar Arddio

Ddim yn arddwr naturiol? Peidiwch â phoeni, mae tyfu bwyd yn rhawdd!  Dyma ychydig o gyngor all eich helpu i fynd ati. Ddim yn siŵr beth i'w dyfu? Dyma drosolwg defnyddiol ar gyfer blodau y mae gwenyn yn eu caru.

Mae modd defnyddio rhandiroedd, gerddi, balconïau, ffenestri, tai gwydr, ffermydd trefol, mannau cymunedol a systemau arloesol i dyfu bwyd lleol a manteisio ar y gorau mae'r tymor yn ei gynnig.  

Gerddi Gwyrdd

Mae mwy a mwy ohonon ni'n dewis palmantu ein gerddi blaen neu gyfnewid glaswellt naturiol am laswellt plastig (artiffisial). Rhowch gyfle i natur trwy gadw glaswellt naturiol ac osgoi torri coed a gwrychoedd i lawr. Nid yn unig y bydd bywyd gwyllt yn diolch i chi, ond byddwch chi hefyd yn lleihau eich risg o fflachlifogydd. Bwriwch olwg ar ein hawgrymiadau ar gyfer dylunio gerddi mewn ffordd sy’n fwy ystyriol o fywyd gwyllt ac sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd.

Beth am gychwyn dôl fechan o flodau gwyllt a chreu cartref i bryfed, adar ac anifeiliaid bach a fydd yn edrych yn hyfryd hefyd? Dyma ganllaw syml i'ch rhoi ar ben ffordd.

Cartref i Fywyd Gwyllt

Colli cynefin yw'r prif fygythiad i fywyd gwyllt. Rhowch groeso i fywyd gwyllt i'ch gardd trwy ychwanegu blwch adar, pentwr pren, pwll neu westy chwilod. Awydd gwneud un eich hun? Dyma ganllaw syml gydag erthyglau amrywiol ar sut i gael eich gardd yn tyfu'n wyllt!

Bod yn Naturiol

Ceisiwch osgoi defnyddio chwynladdwyr, plaladdwyr neu belenni gwlithod. Mae'r rhain yn tueddu i ladd pryfed yn ogystal â phlâu, felly mae'n well defnyddio opsiwn naturiol. Cliciwch yma i ddarllen rhagor am ffyrdd naturiol o ddiogelu eich planhigion.

Gwirfoddoli Eich Amser

Yn ogystal â gwirfoddoli i gefnogi bioamrywiaeth naturiol a mannau gwyrdd ein sir, mae hefyd modd i chi wirfoddoli eich amser ar gyfer prosiectau cymunedol amrywiol eraill yn Rhondda Cynon Taf. Bwriwch olwg ar dudalen Cysylltu RhCT am yr holl gyfleoedd sydd i wirfoddoli yn eich ardal chi.

Os oes diddordeb gyda chi mewn tyfu bwyd a garddio, gan gynnwys tocio, plannu neu gynnal a chadw llwybrau - mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu. Defnyddiwch yr adnodd zoom i chwyddo ardal Rhondda Cynon Taf ar y map yma i weld pa gyfleoedd sydd ar gael!

Diffodd y Golau

Mae modd i olau artiffisial dynnu sylw pryfed y nos (pryfed sy'n fywiog yn ystod y nos), felly os oes gyda chi oleuadau allanol, gwnewch yn siŵr eu bod nhw ar synhwyrydd symudiad a dim ond yn goleuo'r ardal sydd angen golau.
Climate-change-banner