Mae gwneud cais am un o’n Gwobrau ‘Bro-garwyr Tra Mad’ yn hawdd. Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen gais fer, gan ddangos yr effaith rydych chi wedi ei chael ar eich ysgol neu gymuned
Llenwch y ffurflen gais/enwebu ar gyfer y gwobrau Bro-garwyr Tra Mad ar-lein nawr!
Gwasanaethau Gofal y Strydoedd
C.B.S. Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf, Uned B23, Taffs Fall Road,
Ystad Ddiwydiannol Trefforest,
Trefforest,
CF37 5TT
Ffôn: 01443 827364
Beirniadu
Bydd panel annibynnol yn beirniadu’r ceisiadau. Byddwn ni'n ymweld â phawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ystod mis Mai, cyn i enillydd pob categori gael ei gyhoeddi. Bydd y gwobrau yn mynd i'r bobl hynny sy'n gallu arddangos yr effaith ar eu hysgol neu'u cymuned.
Mae'r 7 categori ar gyfer Bro-garwyr Tra Mad fel a ganlyn:
Ffurflenni Cais (PDF)
- Hyrwyddwr Amgylcheddol yn y Gymuned - Mae’r wobr yma’n cydnabod ac yn gwobrwyo’r person sydd wedi annog pobl i leihau eu heffaith amgylcheddol nhw ar y gymuned neu sydd wedi gwella'r ailgylchu yn ei gymuned.
- Y Prosiect Amgylcheddol Mwyaf Arloesol - Mae’r wobr yma ar gyfer prosiect sydd wedi defnyddio dull arloesol i wella’r amgylchedd ac sy’n gallu dangos bod y prosiect wedi bod yn llesol i’r amgylchedd a’r gymuned.
- Yr Ymgyrch Amgylcheddol Orau mewn Ysgol - Mae'r wobr yma'n cydnabod cyflawniadau ysgol sy'n gallu dangos bod ei phrosiect wedi cael effaith fanteisiol ar yr ysgol, yr amgylchedd ac ar y gymuned o'i chwmpas.
- Y Gymuned Fwyaf Taclus / Y Prosiect Cymunedol Gorau - Mae'r wobr yma'n cydnabod cyflawniadau grŵp cymunedol (neu gymuned) sydd wedi ymfalchïo yn ei ardal ac sy'n gallu dangos bod ei brosiectau wedi cael effaith fanteisiol ar yr amgylchedd a'r gymuned.
- Tîm yr Awdurdod Lleol y Flwyddyn - Mae’r wobr yma’n cydnabod ymroddiad a lefel uchel y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan garfan o’r awdurdod lleol mewn unrhyw faes sy’n ymwneud â’r amgylchedd.
- Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Disgybl) - Mae’r wobr yma’n cydnabod cyflawniadau person ifanc sydd wedi gwella’r amgylchedd yn ei ysgol.
- Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Athro) - Mae’r wobr yma’n cydnabod cyflawniadau athro sydd wedi symud agenda amgylcheddol yr ysgol yn ei blaen.