Skip to main content

Symud allan? Daclus!

Myfyrwyr - Ydych chi am roi CHWARAE TEG i'ch cyd-fyfyrwyr/elusennau lleol gan adael eich ardal yn DACLUS ar yr un pryd?

Mae'r Cyngor wedi lansio gwasanaeth newydd lle mae'n helpu myfyrwyr yn ardal Trefforest i roi eu heitemau diangen i'w cyd-fyfyrwyr neu elusen leol pan fyddan nhw'n symud allan.

Ar ôl blynyddoedd o astudio, mae'n debygol y bydd llawer o eitemau diangen yn cael eu gadael!

Mae'r Cyngor yn gofyn i fyfyrwyr i roi'r eitemau canlynol mewn bagiau ailgylchu clir a'u gadael wrth y mannau casglu ar y dyddiad sy wedi'i nodi.

Byddwn ni'n derbyn:

  • Llyfrau
  • CDau/DVDau
  • Offer cegin (gan gynnwys cyllyll a ffyrc a sosbenni)
  • Dillad
  • Bwyd sych / tun heb ei agor

 Bydd eitemau addas yn cael eu hailddosbarthu i fyfyrwyr newydd neu elusennau lleol. Bydd eitemau dydyn nhw ddim yn addas yn cael eu hailgylchu.

Mae swyddog penodol i godi ymwybyddiaeth yn gweithio yn yr ardal yn barod i helpu myfyrwyr i reoli eu gwastraff mewn modd priodol.  

Mae myfyrwyr hefyd yn debygol o gael llawer o ddeunydd ailgylchadwy yn eu cartrefi mae modd ei osod yn y bagiau ailgylchu clir AM DDIM a'u gosod y tu allan i'w heiddo ar y diwrnod casglu wythnosol arferol. Mae cyfyngiad ar faint o wastraff bag du mae modd ei adael ar gyfer casgliadau – rhagor o wybodaeth am wastraff bag du

Ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf

Angen bagiau ailgylchu?

Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk

RHYBUDD! O beidio â gadael yr ardal yn DACLUS, efallai y byddwch chi'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £75 (FPN) - SY DDIM MOR DACLUS!