Bwriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw sicrhau ei fod yn darparu'r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer cwsmeriaid, trigolion a phobl sy'n ymweld â'r Fwrdeistref. Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau ac yn y ffaith bod staff ymroddedig gyda ni. Rydyn ni'n cydnabod y gall ein gwasanaethau fethu â chyrraedd disgwyliadau ein cwsmeriaid ac y gallan nhw hefyd ragori ar eu disgwyliadau. Pan fydd hyn yn digwydd, rydyn ni am i'n trigolion, ein cwsmeriaid a'n hymwelwyr roi gwybod i ni.
A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n gwerthfawrogi holl adborth ein cwsmeriaid (boed yn gadarnhaol neu'n negyddol) ac yn defnyddio'r wybodaeth yma i wella a datblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a chymunedau lleol. Mae'r polisi yma'n amlinellu proses y Cyngor ar gyfer delio â chwynion ac adborth arall gan gwsmeriaid megis canmoliaeth a sylwadau. Mae e hefyd yn egluro'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'r adborth sy'n dod i law.
2. Y Cynllun Adborth Cwsmeriaid
Mae Rhondda Cynon Taf yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio â'n trigolion i ddeall anghenion ein cymunedau yn well.
Mae'r Cynllun Adborth Cwsmeriaid yn rhoi cyfle i drigolion a phobl sy'n ymweld â Rhondda Cynon Taf ddweud wrthon ni ble rydyn ni'n llwyddo a chynnig syniadau ar gyfer gwella. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw gwyno os ydyn nhw'n anfodlon. Mae'r holl adborth sy'n dod i law yn cael ei ystyried ac rydyn ni'n craffu ar themâu er mwyn nodi lle mae angen gwella. Yn ogystal â hynny, mae arfer da yn cael ei amlygu ac yn cael ei rannu â phob gwasanaeth.
Mae'r wybodaeth gan gwsmeriaid yn ein galluogi i werthuso safon ein gwasanaethau hanfodol a phenderfynu lle dylen ni wella pethau.
Mae modd i chi roi adborth mewn sawl ffordd. Mae'r manylion i'w gweld isod.
3. Canmoliaeth a Sylwadau
Canmoliaeth
Os ydych chi wedi cael gwasanaeth da gan y Cyngor, wedi cael profiad da yn un o'n hachlysuron neu eisiau canmol aelod o'n staff am wneud gwaith da, bydd modd i chi ddefnyddio'r Cynllun Adborth Cwsmer i roi gwybod i ni am hynny.
Mae rhoi canmoliaeth yn bwysig gan fod hyn yn ein galluogi i werthuso ein gwasanaethau a chydnabod staff sy'n gwneud mwy na'r disgwyl i ddarparu gwasanaeth da ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Rydyn ni'n rhannu enghreifftiau o arfer da gyda phob adran ac yn eu hyrwyddo, ac yn defnyddio'ch adborth i ddeall yr hyn sy'n bwysig i'n cwsmeriaid.
Sylwadau
Os oes gyda chi awgrym ynghylch sut y gall y Cyngor wella neu os ydych chi eisiau rhoi sylwadau (boed yn dda neu'n ddrwg) ynghylch unrhyw agwedd ar wasanaethau'r Cyngor, mae modd i chi wneud hyn trwy'r Cynllun Adborth Cwsmeriaid. Mae'r gwasanaethau perthnasol yn ystyried pob sylw.
Mae modd i chi gyflwyno sylw neu ein canmol yn y ffyrdd yma:
- Gofyn am gopi o'n ffurflen adborth gan yr aelod o staff rydych chi mewn cysylltiad ag e'n barod.
- Codi'r ffôn: 01443 425005.
- Llenwch ein ffurflen ar-lein
- Ysgrifennu llythyr aton ni : Adborth Cwsmeriaid, Uned Cymorth i Fusnesau, Tŷ Elai, Trewiliam, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY
Er ein bod yn annog canmoliaeth a sylwadau, dydy hi ddim yn bosibl ymateb i bob un sy'n dod i law. Bydd canmoliaeth a sylwadau rydyn ni'n eu derbyn ar-lein yn cael eu cydnabod yn awtomatig ond oherwydd y nifer fawr o sylwadau eraill sy'n dod i law, fyddwn ni ddim yn ymateb i bob un. Serch hynny, bydd pob canmoliaeth a'r holl sylwadau sy'n cael eu hanfon drwy'r dulliau wedi'u nodi ar ddiwedd y polisi yma yn cael eu cofnodi a'u hystyried.
4. Cwynion
Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, rydyn ni'n cydnabod bod pethau'n mynd o chwith o dro i dro, a phan fydd hyn yn digwydd, rydyn ni am eu hunioni.
Bwriad Cyngor Rhondda Cynon Taf yw ymdrin ag unrhyw bryderon neu gwynion ynglŷn â'r gwasanaethau mewn modd effeithiol gan sicrhau bod y rhain yn cael eu hunioni cyn gynted ag sy'n bosibl. Os oes rhywbeth wedi mynd o chwith neu rydyn ni wedi methu â darparu gwasanaeth y mae gyda chi hawl iddo, byddwn ni'n ymddiheuro ac yn ceisio unioni pethau. Rydyn ni hefyd yn ceisio dysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth a gawn i wella ein gwasanaethau.
Er ein bod wedi ymrwymo i ddatrys cwynion, dydy hi ddim yn bosibl bob amser i gyrraedd disgwyliadau pob cwsmer. Rhaid i'r Cyngor addasu i newidiadau yn y gymdeithas, ystyried pwysau ariannol a blaenoriaethu. Gall hyn olygu bod rhaid i wasanaethau a'r ffordd rydyn ni'n eu darparu hefyd addasu i sicrhau ein bod ni'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau wrth barhau i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Pryd y dylid defnyddio’r polisi yma
Pan fyddwch chi'n mynegi eich pryderon neu’n cyflwyno cwyn, byddwn ni fel arfer yn ymateb yn y ffordd sy’n cael ei disgrifio isod. Serch hynny, weithiau efallai bydd gyda chi hawl statudol i apelio, e.e. yn erbyn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i chi neu'r penderfyniad i beidio â rhoi lle i’ch plentyn mewn ysgol benodol, felly, yn hytrach nag ymchwilio i’ch pryder, byddwn ni'n egluro i chi sut i apelio.
Weithiau, efallai y byddwch chi'n poeni am faterion sydd y tu allan i'n hawdurdod neu am wasanaethau dydyn ni ddim yn eu darparu. Yn yr achos yma, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi ac yn darparu cyngor ynglŷn â pha sefydliad y dylech chi gysylltu ag ef.
Dydy'r polisi yma ddim yn berthnasol i gwynion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymdrinnir â'r rhain ar wahân o dan bolisi ac arweiniad gwahanol a deddfwriaeth wahanol.
Ymdrinnir â chwynion ynghylch ysgol hefyd o dan weithdrefnau ar wahân, ac yn y lle cyntaf, dylech chi fynd at Bennaeth yr ysgol dan sylw.
Mae meysydd eraill lle nad yw'r polisi yma'n berthnasol i'w gweld yn Atodiad 1.
Ydych chi wedi gofyn i ni eto?
Os ydych chi'n cysylltu â ni ynglŷn â gwasanaeth neu'n rhoi gwybod i ni am broblem am y tro cyntaf, (e.e. tynnu ein sylw at olau stryd diffygiol, bin heb ei gasglu neu geudwll) yna, dydy'r polisi yma ddim yn berthnasol. Yn y lle cyntaf, dylech chi roi cyfle inni ymateb i'ch cais ac unioni'r broblem lle bynnag y bo modd.
Os ydych chi eisoes wedi dweud wrthon ni neu wedi gofyn am wasanaeth, a naill ai dydy'r broblem ddim wedi'i datrys neu dydych chi ddim yn hapus â'n hymateb, bydd modd i chi roi gwybod i ni am eich pryder yn y ffyrdd sydd wedi'u nodi isod.
5. Cwyno
Mae modd i chi gyflwyno cwyn trwy'r sianeli canlynol:
- Gofyn am gopi o'n ffurflen adborth gan yr aelod o staff rydych chi mewn cysylltiad ag e'n barod. Dweud wrtho eich bod chi eisiau i ni ddelio â'r mater yn ffurfiol.
- Ein ffonio ni i gyflwyno'ch cwyn ar y rhif yma: 01443 425005.
- Llenwch ein ffurflen ar-lein
- Ysgrifennu llythyr aton ni: Adborth Cwsmeriaid, Uned Cymorth i Fusnesau, Tŷ Elai, Trewiliam, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY
Ymweld ag un o'n Canolfannau IBobUn yn Aberdâr, Aberpennar, Y Porth, Pontypridd neu Dreorci. Ein nod ni yw i ffurflenni cwyno fod ar gael ym mhob un o'n derbynfeydd, llyfrgelloedd ac adeiladau eraill y Cyngor. Bydd y polisi yma a ffurflenni cwyno ar gael ar gais mewn ieithoedd eraill, yn glywedol, mewn print bras a Braille.
Ffurflen ar-lein ar gyfer cyflwyno sylwadau, rhoi canmoliaeth neu gwyno
6. Ymdrin â'ch cwyn
- Byddwn ni'n cydnabod eich cwyn yn ffurfiol cyn pen 5 diwrnod gwaitha rhoi gwybod ichi sut rydyn ni'n bwriadu ymdrin ag ef.
- Byddwn ni'n gofyn ichi ddweud wrthon ni sut yr hoffech i ni gyfathrebu â chi ac a oes gyda chi unrhyw ofynion penodol – er enghraifft, os oes gyda chi anabledd fel nam ar eich clyw neu'ch golwg.
- Byddwn ni’n delio â'ch cwyn mewn ffordd agored a gonest.
- Byddwn ni'n sicrhau na fydd eich cysylltiadau â ni yn y dyfodol yn dioddef dim ond oherwydd eich bod chi wedi mynegi pryder neu wedi cyflwyno cwyn.
Fel rheol, bydd modd i ni edrych ar eich pryderon dim ond os ydych chi'n dweud wrthon ni amdanyn nhw cyn pen 6 mis. Mae hyn oherwydd ei bod hi'n well ymchwilio i'ch pryderon tra bod y materion yn dal i fod yn ffres ym meddwl pawb.
Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y gwnawn ni edrych ar faterion a ddaeth i law yn hwyrach na hyn. Serch hynny, bydd rhaid i chi roi rhesymau cadarn inni pam nad ydych chi wedi gallu dwyn ein sylw at y broblem yn gynharach a bydd angen i ni gael digon o wybodaeth am y mater er mwyn caniatáu inni ei ystyried yn iawn. (Beth bynnag, waeth beth fo'r amgylchiadau, fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw bryderon am faterion a ddigwyddodd yn fwy na 12 mis yn ôl.)
Mae dau gam i weithdrefn cwyno'r Cyngor:
- Cwyn Cam 1 (y cyfeirir ati hefyd fel datrysiad anffurfiol) yw'r ffordd gyflymaf ac yn aml fwyaf effeithiol o ymdrin â'ch cwyn. Oni bai fod cwyn o natur ddifrifol iawn, rydyn ni'n disgwyl ymdrin â phob cwyn ar Gam 1 yn y lle cyntaf.
- Bydd Cwyn Cam 2 yn eich galluogi i ddwysáu'r mater os ydych chi'n anfodlon ar y canlyniad ar Gam 1. Bydd uwch swyddog y Cyngor yn delio â'ch cwyn Cam Dau sydd ddim o reidrwydd yn rhan o'r gwasanaeth dan sylw.
Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ddwysáu materion difrifol yn syth i Gam 2 os yw o'r farn bod hyn yn angenrheidiol ar sail natur a difrifoldeb y gŵyn sydd wedi'i chyflwyno.
Cam 1 (Datrysiad Anffurfiol)
Lle bynnag y bo modd, rydyn ni o’r farn ei bod hi’n well ymdrin â materion ar unwaith yn hytrach na cheisio eu datrys yn nes ymlaen. Os oes pryder gyda chi, codwch ef gyda'r swyddog neu'r gwasanaeth rydych chi'n delio ag ef (neu wedi bod yn delio ag ef). Os yw'n bosibl, efallai bydd modd iddo ddatrys y mater i chi yn y fan a'r lle.
Os nad yw hyn yn bosibl a bod angen ymchwilio ymhellach i'r mater, bydd y gwasanaeth perthnasol yn edrych ar y gŵyn ac yn darparu ymateb lle bynnag y bo modd o fewn 10 diwrnod gwaith. Ar gyfer rhai cwynion mwy cymhleth, gall hyn gymryd mwy o amser, ond ein nod yw rhoi ymateb i'r rhan fwyaf o gwynion cyn pen 20 diwrnod gwaith fan bellaf.
Fel safon ofynnol, rydyn ni'n disgwyl i'r ymateb gynnwys y canlynol:
- Ymddiheuriad lle bo hynny'n briodol
- Cyngor ynghylch pa gamau sydd i'w cymryd i unioni pethau
- Gwybodaeth am unrhyw wersi sydd wedi'u dysgu a;
- Gwybodaeth am yr hyn y dylech chi ei wneud os ydych chi'n parhau i fod yn anfodlon.
Cam 2 (Datrysiad Ffurfiol)
Os ydych chi'n parhau i fod yn anfodlon ar yr ymateb i'ch cwyn ar Gam 1, ac rydyn ni wedi methu â datrys y broblem, cewch chi ofyn i'ch cwyn gael ei hystyried ar Gam 2.
Fydd dim modd ystyried cwynion sydd wedi dilyn Polisïau'r Cyngor ac/neu sy'n seiliedig ar benderfyniadau a wnaed yn briodol ar Gam 2. Cewch chi, fodd bynnag, ddwysáu'ch cwyn i Gam 2 o'r broses yn yr amgylchiadau canlynol:
- Mae'r gwasanaeth perthnasol wedi cael cyfle digonol i fynd i'r afael â'ch cwyn ond dydy e ddim wedi rhoi ymateb i chi yn unol â gofynion Cam 1.
- Rydych chi o'r farn nad yw'ch cwyn wedi cael ystyriaeth ddigonol neu briodol neu fod y canlyniad yn seiliedig ar wybodaeth neu ffeithiau anghywir.
- Dydy'r ymateb ddim wedi ymdrin â phob mater sy'n rhan o'ch cwyn.
- Mae'r ymchwiliad wedi methu ag ystyried deddfwriaeth berthnasol a'ch hawliau unigol o dan ddeddfwriaeth o'r fath, er enghraifft, y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Bydd gofyn i chi roi esboniad manwl o'r rheswm rydych chi'n o'r farn na chafodd eich cwyn y sylw priodol ar Gam 1, ynghyd â'r canlyniad byddech chi'n ei hoffi.
Ambell waith, gall fod angen egluro materion cwyno penodol, er enghraifft, lle bo cwynion ysgrifenedig yn hir, yn amhenodol, neu wedi cael eu derbyn dros y ffôn a'u nodi ond sydd angen eglurhad pellach. O dan amgylchiadau o'r fath, bydd y Swyddog Ymchwilio yn cysylltu â chi gyda chrynodeb o'r gŵyn fel mae e'n ei gweld hi, er mwyn cytuno ar y manylion neu'u hegluro cyn yr ymchwiliad.
Pe baech chi'n methu ag ymateb a chytuno ar faterion neu'u hegluro cyn pen 28 diwrnod, byddai'r gŵyn yn cael ei chau a llythyr yn cael ei anfon atoch chi yn dweud felly.
7. Ymdrin â'ch Cwyn Cam 2
Byddwn ni'n cydnabod eich cwyn yn swyddogol o fewn 5 niwrnod gwaith ac fel arfer, yn cysylltu â chi yn yr un modd ag y cysylltoch chi â ni. Er enghraifft, os cwynoch chi trwy e-bost yn Gymraeg, byddwn ni'n ymateb trwy e-bost yn Gymraeg hefyd, oni bai i chi ddweud wrthon ni fod gyda chi anghenion gwahanol.
Ar ôl ei derbyn, bydd Cydlynydd Cwynion sy'n rhan o'r gwasanaeth mae'ch cwyn yn ymwneud ag ef yn ymdrin â hi. Bydd y cydlynydd yn penodi uwch swyddog o'r un gwasanaeth (fel arfer) i gynnal ymchwiliad.
Bydd y Swyddog Ymchwilio yn adolygu'r wybodaeth wedi'i darparu ar Gam 1 ac efallai yn cysylltu â chi i gael eglurhad ac i drafod y canlyniad yr hoffech chi'i gael. Gall y swyddog yma hefyd drafod y sefyllfa gyda staff y Cyngor. Ar gyfer rhai cwynion, efallai bydd angen iddo edrych ar wybodaeth sydd gan y Cyngor amdanoch chi.
Os nad ydych chi'n fodlon i'r Swyddog Ymchwilio edrych ar yr wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi, dylech chi roi gwybod i ni wrth gyflwyno'r gŵyn. Mae'n bosibl y gall gwrthod rhoi caniatâd i ni edrych ar yr wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi olygu nad oes modd i ni barhau i ymchwilio i rai o'r materion rydych chi wedi'u codi (neu'r materion i gyd).
Ein bwriad yw sicrhau ein bod ni'n datrys y broblem lle bynnag y bo modd. Os oes modd i'r swyddog sy'n ystyried eich cwyn ddod o hyd i ddatrysiad syml, mae'n bosibl y bydd yn cysylltu â chi i drafod hyn, gan geisio dod i gytundeb yn hytrach na bwrw ymlaen gydag ymchwiliad.
Ein nod yw ymdrin â chwynion cyn gynted â phosibl ac ymdrin â'r mwyafrif helaeth ar Gam 2 o fewn 20 diwrnod gwaith. Gyda chwynion mwy cymhleth a/neu gwynion sy'n cynnwys mwy nag un gwasanaeth, gall gymryd mwy o amser i gynnal ymchwiliad llawn a thrylwyr. Yn yr achos yma, byddwn ni'n cysylltu â chi i gytuno ar amserlen ddiwygiedig na ddylai fod yn hwy na 3 mis ar ôl dyddiad eich cwyn wreiddiol.
Ar ôl cwblhau'ch cwyn, byddwn ni'n rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i chi sy'n manylu ar ein canfyddiadau ac yn egluro sut y daethon ni i'n casgliadau. Lle rydyn ni wedi gwneud camgymeriadau, byddwn ni'n eu derbyn, a byddwn ni bob amser yn ymddiheuro lle mae'n briodol gwneud hynny. Os byddwn ni'n nodi methiannau yn rhan o'r ymchwiliad i'ch cwyn, byddwn ni'n esbonio sut rydyn ni'n bwriadu unioni pethau a/neu wella'n gwasanaeth i atal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.
8. Unioni Pethau
Os na ddarparon ni wasanaeth y dylech chi fod wedi'i gael, byddwn ni'n ceisio ei ddarparu os yw hynny'n bosibl. Os na wnaethon ni rywbeth yn iawn, ein nod ni fydd ei unioni.
Os ydych wedi colli allan o ganlyniad i gamgymeriad ar ein rhan ni, byddwn ni'n ceisio eich rhoi chi yn ôl yn y sefyllfa y byddech chi wedi bod ynddi, pe bydden ni wedi cael y mater yn iawn.
Os ydych chi wedi gorfod talu am wasanaeth eich hun, hynny yw, gwasanaeth y dylen ni fod wedi'i ddarparu ar eich cyfer chi, neu os oedd gyda chi hawl i gael cyllid na chawsoch chi, byddwn ni fel arfer yn gwneud iawn am yr hyn rydych chi wedi'i golli.
9. Pan fydd mwy nag un sefydliad yn rhan o'r gŵyn
Os yw'ch cwyn yn ymwneud â mwy nag un sefydliad, e.e. Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru,byddwn ni fel arfer yn gweithio gyda nhw i benderfynu pwy ddylai arwain wrth ddelio â'r mater. Yna byddwch chi'n cael eich hysbysu o'r swyddog sy'n gyfrifol am gyfathrebu â chi tra mae eich cwyn yn cael ei hystyried.
Os yw'r gŵyn yn ymwneud â chorff sy'n gweithio ar ein rhan, er enghraifft, cwmni arbenigol sydd wedi'i gontractio gan yr Awdurdod, efallai yr hoffech chi godi'r mater gyda nhw yn gyntaf. Serch hynny, os ydych chi eisiau codi'r mater gyda ni yn ffurfiol, byddwn ni'n ymchwilio i'r gŵyn ac yn ymateb i chi.
10. Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg
Safonau'r Gymraeg a Chydymffurfio
Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â'r iaith Gymraeg. Cafodd hyn ei orfodi trwy is-ddeddfwriaeth (Safonau'r Gymraeg). Mae'r safonau sydd wedi'u gosod ar Gyngor Rhondda Cynon Taf wedi'u nodi yn y ddogfen ‘Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011’.
Mae ein holl safonau, gan gynnwys Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio Polisi a Safonau Gweithredol ar gael ar-lein yma: www.rctcbc.gov.uk/GwasanaethauCymraeg neu yn unrhyw un o'n canolfannau derbyn.
Bydd cwynion neu bryderon ynghylch yr iaith Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a'r camau sy'n cael eu nodi ym mholisi'r Cyngor. Fel y mae'r polisi yma eisoes wedi cyfeirio ato, bydd y Cyngor yn sicrhau bod y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu a yw'r awdurdod neu'r gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol neu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy.
Mae swyddogion wedi cael hyfforddiant ynglŷn â Safonau'r Gymraeg ac felly yn effro iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi cael sesiynau gwybodaeth am y Polisi Cwynion a Phryderon yma hefyd. Bydd swyddogion yn dilyn y dull corfforaethol yma wrth ddelio â chwyn yn ymwneud â'r Gymraeg a'n Safonau ac yn gallu ymgynghori â Swyddog Cydymffurfio a Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg yr awdurdod i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi o'r farn nad yw'r gŵyn wedi'i datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, cewch chi gwyno'n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae modd cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg:
- drwy'r godi'r ffôn: 0845 6033221
- drwy anfon e-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
- drwy ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT
- Fel arall, galwch i mewn i unrhyw un o'n canolfannau derbyn sydd â chopi o Ganllaw'r Comisiynydd ar gyfer gwneud cwyn.
11. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Os na fyddwn ni'n llwyddo i ddatrys eich cwyn, cewch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol ar
bob corff cyhoeddus ac mae modd iddo ymchwilio i'ch cwyn os ydych chi o'r farn eich bod chi'n bersonol, neu'r person rydych chi'n cwyno ar ei ran:
- wedi cael triniaeth annheg neu wasanaeth gwael o ganlyniad i fethiant gan y corff a oedd yn ei ddarparu.
- wedi bod o dan anfantais bersonol oherwydd methiant gwasanaeth, neu wedi cael eich trin yn annheg.
Mae modd cysylltu â'r Ombwdsmon:
- drwy godi'r ffôn: 0300 790 0203
- drwy anfon e-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
- drwy ysgrifennu at: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pen-coed CF35 5LJ
12. Dysgu Gwersi
Rydyn ni'n cymryd cwynion o ddifrif ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau rydyn ni wedi'u gwneud. Mae'r holl welliannau gwasanaeth sy'n digwydd yn sgil cwynion yn cael eu cofnodi a'u monitro gan y Garfan Adborth ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid a bydd enghreifftiau o'r rhain ar gael i'r cyhoedd ar wefan y Cyngor.
Bydd ein Carfan Rheoli Corfforaethol a'n Cabinet yn ystyried crynodeb bob 6 mis o'r holl gwynion sy'n dod i law, ynghyd â manylion unrhyw gwynion difrifol gydag argymhellion lle mae gwelliannau gwasanaeth wedi'u nodi.
13. Cymorth Pellach
Os ydych chi'n delio ag aelod o staff y Cyngor, bydd modd iddo eich helpu chi i roi gwybod i ni am eich cwyn. Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi, byddwn ni'n ceisio'ch rhoi chi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu.
Pobl Hŷn
Os ydych chi dros 60 oed, mae modd i chithau gael help gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Dyma'r manylion cyswllt:
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Butetown, Caerdydd CF10 5FL
Rhif Ffôn: 02920 445 030 (cyfradd leol) neu 08442 640 670 (cyfradd safonol). Rhif Ffacs: 08442 640 680.
Plant a Phobl Ifainc
Os ydych chi o dan 18 oed, bydd modd i chi gael cyngor a chymorth os ydych chi'n dal yn anhapus neu angen cymorth pellach gan Gomisiynydd Plant Cymru. Dyma'r manylion cyswllt:
14. Beth rydyn ni'n disgwyl gennych chi wrth i ni ddelio â'ch cwyn
Rydyn ni'n derbyn y gall pobl ymddwyn yn groes i'w gymeriad wrth wynebu amseroedd trafferthus. Mae'n bosibl bod digwyddiadau cynhyrfus neu drallodus wedi blaenori'r gŵyn. Dydy ymddygiad felly ddim yn cael ei ystyried yn annerbyniol dim ond oherwydd ei fod e'n rymus neu'n benderfynol.
Rydyn ni o'r farn bod hawl gyda chi i gael eich clywed, eich deall a'ch parchu. Serch hynny, rydyn ni hefyd o'r farn bod gan ein staff yr un hawliau ac felly'n disgwyl i chi fod yn gwrtais wrth ddelio â ni. Fyddwn ni ddim yn goddef ymddygiad ymosodol neu sarhaus, na gweithredoedd, gofynion neu ddyfalbarhad afresymol.
Byddwn ni'n galw ein polisi Cwsmeriaid Afresymol o Ddi-baid i rym i reoli sefyllfaoedd pan fydd ymddygiad unigolyn mewn perthynas â'i gŵyn yn afresymol neu annerbyniol yn ein barn ni, neu pan fydd natur/amlder ei gyswlltyn cymryd amser anghymesur.