Skip to main content

Ailosod Pont Stryd y Nant - Cyfnod Adeiladu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ceisio dyfarnu contract ar gyfer dymchwel y bont bresennol ac adeiladu pont droed newydd ar Stryd y Nant, Ystrad. Mae dyluniad y bont wedi'i ariannu gan yr Awdurdod Lleol yma a Llywodraeth Cymru.

Mae'r bont bresennol, a gafodd ei hadeiladu yn 1933, ar ddiwedd ei hoes ddylunio a'n bwriad yw gosod strwythur newydd sy'n cydymffurfio'n llawn â'r safonau cyfredol. Mae'r bont yn gyswllt hanfodol rhwng y Gelli ac Ystrad a dyma'r unig fynediad i gadeiriau olwyn / cadeiriau gwthio at ddau blatfform yr orsaf reilffordd gyfagos.

Images
Brook str bridge  2  East side Brook street bridge over river IMG_1425 SAM_2545  SAM_2542

Bydd y bont droed newydd yn:

  • gwella'r cysylltiad rhwng y ddwy gymuned a Chanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda a thu hwnt
  • cynnwys dec ehangach ar gyfer y rampiau o Ystad Ddiwydiannol Gelli i'r Ganolfan Hamdden. Bydd y dec yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Teithio Llesol ac yn rhan o'r llwybr beicio presennol
  • cydymffurfio'n llwyr â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
  • arwain at gau mynedfa ogleddol y platfform teithio tua'r gogledd yn yr orsaf drenau
  • wrth y fynedfa ddeheuol i'r platfform yna, a chreu mynedfa newydd well, ar lefel gyson, ger grisiau'r bont droed i'r orsaf reilffordd h.y. byddwn ni'n cael gwared ar y grisiau i fyny at y platfform a bydd lefel y llawr yn cael ei godi er mwyn bod yn gyson â lefel cefn y platfform.

Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gosod pont newydd yn ystod y flwyddyn nesaf ond mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod y bydd hyn yn tarfu rhywfaint ar y sawl sy'n defnyddio'r bont yma a'r sawl sy'n byw'n agos. Yn ystod cam cynllunio'r gwaith adeiladu yr hydref yma, bydd y Contractwr a'r Awdurdod Lleol yn ystyried mesurau i liniaru cymaint ar yr aflonyddwch â phosibl.

A fyddech cystal â'n helpu â'r broses yma drwy gymryd rhan yn ein harolwg.

Dweud eich dweud ar-lein

Cymerwch ran yn yr arolwg ar-lein

Rhowch eich barn drwy e-bost neu drwy lythyr

E-bostiwch ni - ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Trwy lythyr:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, ffoniwch: 01443 425014